Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Taith i Wlad Pwyl i helpu rhai o ffoaduriaid Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Merch fu'n gaeth yng ngwaith dur Mariupol gyda'i chi bachFfynhonnell y llun, Eden aid
Disgrifiad o’r llun,

"Plediodd dyn ifanc a ddaeth i'n gweld ni: 'Gofalwch am fy mam a'm chwaer. Nhw yw fy mywyd i.'

Efallai nad yw'r sylw i ryfel Wcráin mor amlwg yn y penawdau newyddion ag yr oedden nhw pan frawychwyd pawb gan ymosodiad Rwsia fis Chwefror 2022, ond mae'r rhyfel yn parhau i ddwysáu yno ac angen pobl gyffredin y wlad am help yn dal mor fawr ag erioed.

Un wnaeth deithio dros Ewrop at ffin Wcráin i helpu ffoaduriaid ddiwedd Gorffennaf ydy Hazel Williams, un o Gymry Lerpwl, sydd wedi ysgrifennu am y daith heriol ac emosiynol i BBC Cymru Fyw.

Confoi ar draws y cyfandir

Mae rhai teithiau yn aros gyda chi am oes ac roedd fy un i yr wythnos ddiwethaf yn un o'r rheini.

Roeddwn i'n un o wyth o ferched yn gyrru confoi pedwar bws mini ar gyfer yr elusen Eden Aid, a aeth â chyflenwadau brys i ganolfan ffoaduriaid Wcráin yng Ngwlad Pwyl, ac a ddaeth â 28 o ffoaduriaid o Wcráin a phum ci yn ôl i'r DU.

Ffynhonnell y llun, Eden aid
Disgrifiad o’r llun,

Hazel (ar y dde) gyda'i chyd-yrrwr, Bev

Dydw i erioed wedi gyrru bws mini o'r blaen ond ni fu erioed amser gwell i ddarganfod a allwn ei reoli. (Yn ffodus, fel mae'n digwydd, mi allwn!)

Gadawsom Rydychen ar ôl cinio ddydd Mawrth a gyrru, yn llythrennol yn ddi-stop, drwy'r nos gan gymryd ein tro wrth y llyw neu hepian cysgu mewn cornel fach o'n bws mini, a oedd yn llawn o focsys.

Bron i 24 awr a 900 milltir yn ddiweddarach, fe gyrhaeddon ni brynhawn dydd Mercher yng ngwres berwedig Poznan, i'r gorllewin o Warsaw, i ddadlwytho mewn canolfan ffoaduriaid sy'n gwasanaethu hyd at 1,000 o ffoaduriaid bob dydd.

Disgrifiad,

Taith Hazel Williams i helpu ffoaduriaid Wcráin

Roedd merched a phlant yn ciwio yn yr haul poeth, yn gobeithio am fwyd, cyflenwadau meddygol neu ddillad. Mae eu hangen am gyflenwadau hanfodol yn ddiderfyn. Roedd gwaith y gwirfoddolwyr lleol oedd yn eu helpu yn ddi-fai.

O'r diwedd cyrhaeddon ni westy yn hwyr y prynhawn hwnnw cyn mynd i gyrion Warsaw yn gynnar fore Iau.

Ffynhonnell y llun, Eden aid

Fe wnaethon ni gyfarfod ym maes parcio Burger King wrth ymyl y maes awyr lle daethom o hyd i'n teithwyr, yn aros yn ofnus i ni gyrraedd.

Ffynhonnell y llun, Eden aid

Merched bregus oedd y rhain a oedd yn ofni teithio ar eu pennau eu hunain, yn ofni hedfan neu â phlant ifanc ac anifeiliaid anwes gyda nhw.

Roedd gennym hefyd fam a merch a oedd wedi cael eu caethiwo yng ngwarchae Mariupol ac yn teithio gyda'u ci.

Plediodd dyn ifanc a ddaeth i'n gweld ni, "Gofalwch am fy mam a'm chwaer. Nhw yw fy mywyd i." Roedd ef yn dychwelyd i Wcráin i ymladd.

Ffynhonnell y llun, Eden aid
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y fenyw hon yn un o'r rhai fu'n gaeth yng ngwarchae chwe wythnos Mariupol

Roedd y daith yn ôl i'r DU yn anodd ar adegau; roedd y traffyrdd yn brysur gyda lorïau'n taranu heibio, roedd hi'n boeth, ac roedd yn emosiynol.

Roedd teimladau ein teithwyr yn gymysgedd o ofid a gobaith.

Ffynhonnell y llun, Eden aid

Yn fy mws mini i roedd gennym ni ddwy chwaer, pump o blant, a llawer o dedis.

Roeddent eisoes wedi dioddef taith frawychus o 30 awr yn y car, gan ffoi o Kyiv i orllewin yr Wcráin ar y diwrnod y dechreuodd y rhyfel, symud sawl gwaith ar ôl hynny ac yn olaf aros mewn gwesty yng ngogledd Gwlad Pwyl am fisoedd lawer i'w fisas gael eu prosesu.

Ffynhonnell y llun, Eden aid

Teithiasom yn dawel am y rhan gyntaf o'r daith. Fodd bynnag, wrth inni agosáu at ffin y DU dechreuodd ein teithwyr siarad ac ymlacio ac yn fwy na dim roeddent am ddweud wrthym pa mor ddiolchgar oeddent am yr hyn yr oeddem yn ei wneud.

Roeddem yn teimlo'n ostyngedig o sylweddoli ein bod wedi gwneud cyn lleied o'i gymharu â'r hyn roedden nhw wedi bod drwyddo.

Ffynhonnell y llun, Eden aid

Yn ôl yn y DU, bedwar diwrnod yn ddiweddarach ac ar ôl 2,500 o filltiroedd ar y ffordd, aethon ni â nhw i Orsaf Ryngwladol Ashford ar gyfer eu teithiau ymlaen ac wrth i ni ffarwelio â nhw roedd pob un ohonom yn wylo'r dagrau yn hidl.

Mae'n anodd dychmygu'r trawma seicolegol y mae ein teithwyr yn ei ddioddef.

Er eu bod wedi cael croeso cynnes gan eu gwesteiwyr yn y DU a'u bod yn hynod ddiolchgar am yr help y maent wedi'i gael i gyrraedd y DU, ni all fod yn hawdd aros yn nhŷ dieithryn filoedd o filltiroedd i ffwrdd o gartref.

Ffynhonnell y llun, Eden aid
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd brawd y ferch yma i'r criw ofalu amdani hi a'i fam

Ni all fod yn hawdd dygymod â'r ffaith fod bywyd yn normal un dydd, a'r diwrnod nesaf rydych chi'n ffoi am eich bywyd ac yn cael eich gorfodi i adael anwyliaid ar ôl.

Mae'r UNHCR yn amcangyfrif bod dros bedwar miliwn o bobl Wcráin wedi ffoi o'u gwlad ers i'r rhyfel ddechrau. Mae EdenAid.org yn chwarae rhan fach ond pwysig yn yr ymdrech i roi cymorth, ac yn dibynnu'n llwyr ar roddion i helpu i gludo ffoaduriaid bregus i'r DU.

Hyd yma, mae Eden Aid wedi dod â 296 o ffoaduriaid draw i'r DU, gan gynnwys helpu ffoaduriaid i symud i Gymru o dan gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru.

Mae Hazel yn gobeithio mynd allan eto gyda nhw yn mis Awst a mis Medi.

Pynciau Cysylltiedig