Yr awdur o America a deithiodd y byd yn Gymraeg a darganfod ei chynefin yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Ydy hi'n bosib crwydro'r byd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn unig? Yn y 1990au dyna yn union geisiodd yr awdur o America, Pamela Petro, ei wneud ar daith bum mis yn dilyn un cysylltiad Cymraeg ar ôl y llall wrth iddi geisio dysgu'r iaith.
Y canlyniad oedd ei llyfr taith Travels in an Old Tongue, aeth â hi i 15 gwlad gan ddod i gysylltiad â'r diaspora Cymreig yn Oslo, Athens, Tokyo, Bangkok, Patagonia a Buenos Aires.
Chwarter canrif ers ei llyfr cyntaf am Gymru mae wedi cyhoeddi un arall - The Long Field - un o lyfrau rhestr fer gwobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2022, dolen allanol.
Cofiant sy'n plethu ei bywyd ei hun gyda hanes Cymru drwy archwilio'r cysyniad o hiraeth yw The Long Field.
Yn byw yn yr UDA lle mae'n gweithio fel awdur ac addysgwr ar gyrsiau ysgrifennu mae ei chysylltiad dwfn gyda Chymru wedi para; mae wedi ymweld 28 gwaith yn y 37 mlynedd diwethaf.
Ond sut daeth Americanes heb unrhyw o gysylltiad blaenorol â Chymru (mae gwreiddiau ei theulu yn Hwngari a'r Almaen) i greu'r fath gwlwm gyda'r wlad a'i diwylliant?
Darganfod Cynefin
Mae'r ateb yn mynd nôl i 1983 pan ddaeth Pamela yma gyntaf yn fyfyrwaig ifanc i astudio cwrs ôl-raddedig yn Llanbedr Pont Steffan a chael profiad wnaeth newid ei bywyd.
Doedd hi ddim yn gwybod unrhyw beth am Gymru ac wedi dewis Llanbed am fod y cwrs prifysgol yno - MA mewn Astudiaethau'r Gair a'r Dychymyg Gweledol - yn cyfuno dau beth roedd hi'n angerddol amdanyn nhw - ysgrifennu a chelf.
Pan gyrhaeddodd gefn gwlad Ceredigion, fe gafodd deimlad dwfn nid yn unig o berthyn i'r lle, ond o adnabod y lle; o deimlo'r lle, nid yn unig ym mêr ei hesgyrn ond hefyd rhywle yn nwfn y cof.
Wrth edrych nôl wrth ysgrifennu The Long Field mae wedi bod yn myfyrio ar y profiad:
"Wnes i sylweddoli mai beth oeddwn i wedi ei brofi oedd rhyw ffurf o gynefin. Wnes i gyrraedd Llanbed a dechrau mynd am dro i'r wlad ac fe ddigwyddod y peth od yma - roedd yn gyfarwydd i mi.
"Doeddwn i erioed wedi bod i Gymru o'r blaen ac i gyrraedd yno ro'n i wedi bod ar drip gyda fy rhieni o amgylch Prydain. Roedden ni wedi gyrru yr holl ffordd i fyny drwy Loegr, i'r Alban a lawr i Gymru a doedd unman arall wedi cydio yndda i fel hyn.
"Ond wnes i sylweddoli, nid yn unig mod i'n teimlo'n gyfforddus, roedd yn rhywle ro'n i wastad wedi ei weld yn llygad fy meddwl.
"Ro'n i wedi cael fy magu yn New Jersey, oedd yn hyfryd, ges i fagwraeth fendigedig. Ond ro'n i'n byw yn y suburbs a phan ddechreuais i feddwl am hyn, wnes i sylweddoli mod i wedi treulio gymaint o amser fel plentyn yn ceisio darllen y tir, y ddaear, ond roedd popeth wedi ei adeiladu arno.
"Malls siopa, tai a ffyrdd, ac mi fyddwn i'n tyrchu a holi 'beth oedd yma cynt?' a fedrwn i byth ei weld.
"Ac yng ngorllewin Cymru, mewn tirwedd oedd yn ddi-goed i raddau helaeth, heb lawer o drefi, roedd 'na olygfa nad oeddwn i erioed wedi ei weld yn y lle yma ro'n i wastad wedi ei weld; ro'n i'n gweld sut roedd y ddaear wedi cael ei wneud, mi allech chi weld sut roedd y bryniau wedi eu ffurfio, y rhewlifoedd oedd wedi dod drwy'r dyffrynoedd.
"Ac yn sydyn, roedd gen i bersbectif. Doeddwn i methu rhoi hyn mewn geiriau ar y pryd, ond ro'n i'n ei deimlo yn fy esgyrn, ro'n i'n teimlo fel mod i'n deall rhywbeth ac fe symudodd fy mhersbectif; ro'n i'n teimlo mod i wedi gallu angori fy hun mewn amser dwfn, yn hytrach na jyst amser dynol.
"Roedd popeth am Gymru yn fy nghroesawu i yn fy meddwl; i ddechrau'r tirwedd ac yna'r digwyddiadau ac yna'r bobl wrth imi ddod i adnabod y bobl."
Roedd hefyd yn uniaethu gyda natur ymylol a lleiafrifol Cymru ac roedd dechrau dysgu'r iaith yn gam arall yn nes at weld a deall y tirwedd:
"Rhoddodd yr iaith lun o'r gorffennol imi, mi fedrwn i ddweud 'Lampeter' ac roedd yn golygu dim i mi, ond roedd Llanbedr Pont Steffan yn lle gyda phobl a phethau; lle roedd pethau yn digwydd ac roedd na ddelwedd hefyd."
Daeth nôl i Lanbed i ddysgu Cymraeg yn 1988 a chanfod ei bod yn rhy hawdd i sgwrs lithro i'r iaith gyffredin, Saesneg.
Felly'r syniad gyda Travels in an Old Tongue oedd mynd i lefydd lle roedd Saesneg yn absennol ac y byddai'n rhaid iddi siarad yn y Gymraeg.
Yn y dyddiau cyn Facebook ac ebost yn dal yn ei fabandod, cafodd restr o gymdeithasau Cymraeg dros y byd ac ysgrifennu llythyr â llaw at gannoedd o bobl dros y byd.
Fe synnodd i ddechrau faint ohonyn nhw oedd.
"Roedd 'na gymdeithasau ym mhob man a dwi'n credu bod hyn yn syndod arall; faint o bobl wnaeth ymateb a pha mor groesawgar oedd pawb a faint o ddiddordeb oedd ganddyn nhw yn y prosiect."
Yn Massechusetts gyda'i phartner Marguerite mae Pamela wedi gwneud ei chartref ac erbyn hyn mae ei Chymraeg braidd yn rhydlyd meddai: yn Saesneg y siaradodd gyda Cymru Fyw.
Ar ôl bron i 40 mlynedd onid ydi'r teimlad cryf cyntaf yna a gafodd o ddarganfod Cymru wedi pylu gyda threigl amser?
"Naddo, erioed," meddai. "Pan dwi'n dod i Gymru, fel arfer dwi'n dod o Heathrow ac yn cael y trên i Gaerfyrddin, dwi'n rhentu car yng Nghaerfyrddin ac yn gyrru i Lanbed a bob tro mae na bwynt ar yr A485 yn gyrru i fyny a dwi'n gweld rownd un gornel arbennig mae na gadwyn o fryniau a dwi'n meddwl, bob tro, 'sut allai fyw ac anadlu heb yr olygfa yma?'"
Un o'r prif bethau sy'n dod â Pamela nôl i Lanbed yn flynyddol bellach yw ysgol haf 'sgrifennu creadigol Dylan Thomas ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a sefydlwyd gan Menna Elfyn.
Mae hi'n un o gyd-gyfarwyddwyr y cwrs a hefyd yn gymrawd er anrhydedd yn y brifysgol.
Teimlo hiraeth
Mae meddwl am y gair 'hiraeth' wedi ei helpu i edrych nôl ar yr holl brofiad a'i lle hi rhwng y ddau ddiwylliant.
"Fe sylweddolais mai'r digwyddiad mawr yma yn fy mywyd, oedd mod i'n teimlo'n gartrefol, mewn lle oedd ddim yn gartref imi.
"Roedd rhaid imi fynd nôl i New Jersey, i'r States, lle doeddwn i erioed wedi teimlo'n gartrefol a dyna pam roedd hiraeth yn golygu cymaint i mi, dwi wedi byw gyda hyn am gymaint o flynyddoedd, y teimlad yma o fod allan o fy nghartref."
Y cae hir
Fe gymerodd hi naw mlynedd i Pamela ysgrifennu The Long Field felly mae wedi cael llawer o amser i feddwl am ei pherthynas gyda Chymru.
"Dwi erioed wedi bod yn fwy balch o unrhyw beth dwi wedi ei wneud," meddai am ei chyfrol.
Daw'r teitl gan ei ffrind, y bardd Menna Elfyn, a oedd wedi dod o hyd i gyfeiriad at 'hir aeth' fel disgrifiad o ddarn hir o dir neu gae.
Ac i Pamela fe wnaeth hynny daro tant: mi fedrwch chi groesi cae bychan, ond mae cae hir yn gwahanu, mae'n wagle rhwng dau beth, a'r gwagle yna rydyn ni eisiau ei lenwi.
Yn y llyfr mae hi'n archwilio ei phrofiad o Gymru a'i bywyd ei hun yng nghyd-destun ei dehongliad hi o'r gair hiraeth gan gwmpasu nifer o bynciau, o'r Mabinogi i Brexit a Trump.
"Mae fy 'nghae hir' i rywle yn y canol, rhywle rhwng bod yn fwy nag Americanes ac yn llai na Chymreig.
"Dwi yn y lle yna lle dwi'n dychmygu'r llall drwy'r amser ac mae hwnna'n lle anodd i fod, a chreadigol ar yr un pryd."