Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Beth sydd angen i mi ei wybod am cwcis?

Diweddarwyd y dudalen: 14 Awst 2019

Cwcis yw ffeiliau testun bychan sydd yn cael eu trosglwyddo i'ch cyfrifiadur neu ffôn symudol pan rydych chi’n ymweld â gwefan neu ap.

Rydyn ni’n eu defnyddio:

  • I gofio gwybodaeth amdanoch chi, fel nad oes rhaid i chi ei rhoi i ni eto. Ac eto. Ac eto
  • I’ch cadw wedi mewngofnodi, hyd yn oed ar ddyfeisiau gwahanol
  • I’n helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau, fel ein bod ni’n gallu eu gwella
  • I gynnig hysbysebion i wefannau tu allan i’r DU
  • I’n helpu i bersonoleiddio’r BBC ar eich cyfer chi drwy gofio eich dewisiadau a gosodiadau. A lle wnaethoch chi gyrraedd mewn rhaglen er mwyn ail-ddechrau gwylio, hyd yn oed ar ddyfais gwahanol
  • I weld os yw ein e-byst wedi cael eu darllen ac os ydych chi’n meddwl eu bod yn ddefnyddiol

Gallwch newid gosodiadau cwcis y BBC unrhyw bryd. A gallwch ddysgu sut i stopio eich porwr rhag olrhain eich gwybodaeth yma.

Mae gwahanol fathau o gwcis:

Cwcis parti cyntaf

Mae rhain yn cael eu gosod gan y wefan rydych yn ymweld â hi. A dim ond y wefan honno all eu darllen.

Cwcis trydydd parti

Mae rhain yn cael eu gosod gan rywun nad yw’n berchennog y wefan rydych yn ymweld â hi. Gall rhai o dudalennau gwe y BBC hefyd ddefnyddio cynnwys o safleoedd eraill fel YouTube neu Flickr, a bydd rhain efallai yn gosod eu cwcis eu hunain. Yn ogystal, os byddwch chi’n rhannu dolen i dudalen y BBC, gall y gwasanaeth rydych chi’n ei ddefnyddio (e.e. Facebook) osod cwci ar eich porwr. Nid oes gennym reolaeth dros gwcis trydydd parti - gallwch eu diffodd ond drwyddyn nhw, nid ni.

Cwcis sesiwn

Mae'r cwcis yma yn para' am hyd eich sesiwn ar-lein, ac yna yn diflannu o'ch cyfrifiadur neu ddyfais pan fyddwch chi'n cau eich porwr (fel Internet Explorer neu Safari).

Cwcis parhaus

Mae'r cwcis yma yn aros ar eich cyfrifiadur neu ddyfais ar ôl i'r porwr gael ei gau, ac yn para' am gyfnod sydd wedi ei bennu gan y cwci. Rydyn ni’n defnyddio cwcis parhaus pan fydd angen i ni wybod pwy ydych chi am fwy nag un sesiwn bori. Er enghraifft, rydyn ni’n eu defnyddio i gofio’ch dewisiadau ar gyfer eich ymweliad nesaf.

Cwcis sydd wir eu hangen

Mae'r cwcis yma yn gadael i chi ddefnyddio holl rannau gwahanol gwefan y BBC. Hebddyn nhw, allwn ni ddim rhoi'r gwasanaethau rydych chi'n gofyn amdanyn nhw. Yn ogystal â hynny, fel gwasanaeth cyhoeddus, rydyn ni'n casglu data gennych chi er mwyn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio'r BBC ar-lein, fel ein bod ni'n gallu ei wella. Weithiau rydyn ni'n gofyn i gwmnïoedd eraill ddadansoddi sut mae pobl yn defnyddio'r BBC ar-lein.

Rhai enghreifftiau sut rydyn ni'n defnyddio cwcis:

  • Pan rydych chi'n mewngofnodi i'r BBC
  • Cofio gosodiadau diogelwch sy'n effeithio ar fynediad i gynnwys benodol, er enghraifft, unrhyw reoliadau i rieni
  • Casglu gwybodaeth ynglŷn â pha thudalennau mae ymwelwyr yn mynd iddyn nhw amlaf fel y gallwn wella ein gwasanaethau ar-lein

Cwcis swyddogaethol

Mae rhain yn ein helpu i bersonoleiddio'r BBC ar eich cyfer chi drwy gofio eich dewisiadau a gosodiadau. Rhai enghreifftiau o sut rydyn ni'n defnyddio cwcis:

  • Cofio eich dewis o restrau chwarae a hoff gynnwys a'ch helpu i wneud pethau fel gadael sylw ar flog
  • Cofio pryd wnaethoch chi oedi rhaglen ar iPlayer ac wedyn ail-ddechrau gwylio o lle wnaethoch chi orffen
  • Cofio os ydych chi wedi ymweld â'r wefan o'r blaen fel fod negeseuon ar gyfer ymwelwyr newydd ddim yn ymddangos i chi
  • Cofio gosodiadau ar y wefan fel lliw, maint ffont a chynllun

Cwcis perfformiad

Mae rhain yn ein helpu i sicrhau fod y wefan yn gweithio'n iawn a thrwsio unrhyw broblemau. Ac yn ein galluogi i drio syniadau gwahanol.

Cwcis hysbysebu

Mae rhai gwefannau yn defnyddio rhwydweithiau hysbysebu i ddangos hysbysebion wedi’u targedu atoch chi pan fyddwch yn ymweld. Gall y rhwydweithiau hyn hefyd olrhain eich hanes pori ar draws safleoedd gwahanol. Nid ydym yn gosod cwcis hysbysebu ar gyfer pobl yn y DU. Mae safleoedd BBC Studios fel bbc.com yn defnyddio cwcis hysbysebu ond ni fyddan nhw’n olrhain eich hanes pori y tu allan i’r BBC. Gallwch ddod o hyd i mwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r BBC yn defnyddio cwcis hysbysebu mwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r BBC yn defnyddio cwcis hysbysebu yma

Technolegau olrhain eraill

Mae rhai safleoedd yn defnyddio ffaglau gwe, GIFs clir, tagiau ar y dudalen a bygiau gwe er mwyn deall sut mae pobl yn eu defnyddio a thargedu hysbysebion atyn nhw. Maen nhw fel arfer yn edrych fel llun bach, tryloyw, sydd wedi ei fewnblannu ar dudalen neu e-bost. Maen nhw’n gweithio gyda chwcis er mwyn dal eich data fel eich cyfeiriad IP, pryd gwelsoch chi’r dudalen neu e-bost, pa ddyfais roeddech chi’n ei defnyddio a ble roeddech chi. Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i’w hosgoi nhw yma.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: