Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Cerflunydd o Gymru ydy Gideon Petersen (ganwyd 1971).[1] Mae'n dod o Sanclêr ac yn byw yn Llandisilio, Sir Benfro. Astudiodd cerfluniaeth yn Ysgol Gelf Wimbledon. Mae'n defnyddio metel yn bennaf ond mae hefyd yn cyfuno lledr, pren a gwydr yn ei waith.

Gideon Petersen
Ganwyd1971 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata

Mae ei dad David Petersen hefyd yn gerflunwr. Enillodd y teulu'r cyfle i greu'r Oleufa Cenedlaethol ar gyfer dathliadau'r Mileniwm.[2] Gideon a'i frawd Toby Petersen ddyluniodd y stamp dosbarth cyntaf gyda'r ddraig arni wedi ei gerfio o ddur gwrthstaen.[3]

Toby a Gideon greodd cerflun coffa Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn Llanymddyfri.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gideon Peterson", Creative Spiral; adalwyd 1 Awst 2024
  2. Millennium beacon ready for big night 29 Rhagfyr 1999
  3. The GB Virtual Album:Pictorial Regionals Archifwyd 2015-01-30 yn y Peiriant Wayback Stampiau Cymru 1999
  4. "Llywelyn's Memorial, BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-23. Cyrchwyd 2007-12-02.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.