Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook
Neidio i'r cynnwys

Amgueddfa reilffordd genedlaethol, Efrog

Oddi ar Wicipedia
Amgueddfa reilffordd genedlaethol, Efrog
Mathamgueddfa reilffordd, amgueddfa genedlaethol, amgueddfa Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1975 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1975 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGrŵp yr Amgueddfa Wyddoniaeth Edit this on Wikidata
SirDinas Efrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.9598°N 1.0977°W Edit this on Wikidata
Cod postYO26 4XJ Edit this on Wikidata
Map

Mae’r Amgueddfa reilffordd genedlaethol yn amgueddfa yn ninas Efrog, ac yr rhan o Grwp yr Amgueddfa Gwyddoniaeth. Mae’n gartref i gerbydau rheilffordd bwysig o Brydain a gweddill y byd a llwyth o bethau eraill gyda chysylltiad i’r maes.

Arddangosir dros 6000 o gerbydau a phethau eraill.[1] gan gynnwys dros 100 o locomotifau a cherbydau eraill. Denodd yr amgueddfa 782,000 o ymwelwyr yn ystod 2018/9. [2]

Dechreuodd datblygiad newydd i’r safle yn 2019.[3] Ail-leolir Ffordd Leeman, ac adeiladir mynedfa newydd i’r amgueddfa, yn dod y dau rhan yr amgueddfa at ei gilydd.[4]

Sefydlwyd yr amgueffa ar ei safle presennol, lle oedd depo locomotifau Gogledd Efrog ym 1975 gyda hen gasgliad Rheilffordd Brydeinig yn Clapham a chasgliad Amgueddfa Rheilffordd Efrog ar Heol Queen.[5] Mae mynediad am ddim i'r amgueddfa ers 2001 ac mae'n agor yn ddyddiol.

Mae hefyd Amgueddfa Rheilffordd Genedlaethol Shildon ers Hydref 2004 , yn gweithredu ar y cyd gyda Cyngor Sir Durham.[6], in defnyddio hen weithdy Timothy Hackworth ac adeilad newydd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan yr Amgueddfa Gwyddoniaeth
  2. "Gwefan yr Amgueddfa Gwyddoniaeth" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-07-11. Cyrchwyd 2022-12-08.
  3. Gwefan yr amgueddfa
  4. Gwefan Cyngor Dinas Efrog
  5. "Gwefan yr amgueddfa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-07. Cyrchwyd 2022-12-28.
  6. Railway Magazine, Rhagfyr 2004]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]