Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook
Neidio i'r cynnwys

Bibliothèque nationale de France

Oddi ar Wicipedia
Bibliothèque nationale de France
Mathllyfrgell genedlaethol, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFrançois Mitterrand Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1537 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadParis Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau48.8336°N 2.3758°E Edit this on Wikidata
Map

Llyfrgell genedlaethol Ffrainc yw'r Bibliothèque nationale de France (BnF), a leolir ym Mharis. Ynghyd â'r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, mae'n un o ddwy lyfrgell fwyaf Ewrop.[1] Yn 2024, roedd 16 miliwn o lyfrau a chyfnodolion yno, ynghyd ag amryw o gasgliadau eraill.[2] Mae'r sefydliad yn tarddu'n ôl i lyfrgell breifat Siarl V, brenin Ffrainc.[3] Agorodd y llyfrgell i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn 1692, ac ers 1793 mae wedi dal copi o bob llyfr a gaiff ei gyhoeddi yn Ffrainc.[1] Rhwng 1996 a 1998 symuodd nifer o gasgliadau i safle newydd a elwir yn safle "François Mitterrand" ar ôl yr arlywydd a'i gomisiynodd;[3] mae'r safle hyn bellach yn dwyn yr enw "Safle Richelieu".[1]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfieiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gray-Durant, Delia (2007). Blue Guide Paris. Llundain: Somerset Books. tt. 241–2.CS1 maint: ref=harv (link)
  2. "La BnF en chiffres | BnF - Site institutionnel". web.archive.org. 2023-09-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-09-11. Cyrchwyd 2024-02-25.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  3. 3.0 3.1 (Ffrangeg) De la Librairie royale à la BnF. Bibliothèque nationale de France. Adalwyd ar 12 Tachwedd 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]