Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook
Neidio i'r cynnwys

Blaenau Ffestiniog

Oddi ar Wicipedia
Blaenau Ffestiniog
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,875 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9944°N 3.9375°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH705455 Edit this on Wikidata
Cod postLL41 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Tref yng Ngwynedd, Cymru, yw Blaenau Ffestiniog("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ganddi boblogaeth o 4,830 (Cyfrifiad 2001) (Gan gynnwys Llan Ffestiniog ). Mae Caerdydd 175.6 km i ffwrdd o Flaenau Ffestiniog ac mae Llundain yn 308.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sydd 29 km i ffwrdd.

Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi.

Mae'r wlad o gwmpas y dref yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau.

Mae'r cylch yn cael ei wasanaethu gan bapur bro o'r enw Llafar Bro sy'n cael ei gyhoeddi unwaith y mis.

Yn hanesyddol, roedd yn rhan o Sir Feirionnydd.

Traphont yn y Blaenau tua 1975

Tyfodd y Blaenau yn gyflym o gwmpas y chwareli llechi yn ystod y 19g wedi i ŵr o'r enw Methusalem Jones ddarganfod llechfaen yn yr ardal yn yr 1760au. Agorwyd rheilffordd fach (Rheilffordd Ffestiniog heddiw) i gludo llechi o'r Blaenau i Borthmadog, oedd yn borthladd bach prysur yn y 19eg ganrif. Yn anterth y diwydiant llechi ar droad yr 20g, cododd poblogaeth y dref i 11,434 yn ôl cyfrifiad 1901, gan ei gwneud yn ail dref fwyaf gogledd Cymru ar ôl Wrecsam ar y pryd.[1]

Diwylliant

[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog ym 1898.

Cerddoriaeth Gyfoes Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Mae rhestr faith o fandiau chwyldroadol Cymraeg sy'n dod o Flaenau Ffestiniog, yn eu plith: Anweledig, Llwybr Llaethog, Mim Twm Llai, Frizbee, dau boi o Blaena, Llan Clan a Gwibdaith Hen Fran er enghraifft.

Côr Meibion y Brythoniaid

[golygu | golygu cod]

Trafnidiaeth

[golygu | golygu cod]

Saif Blaenau ar un pen Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n ei chysylltu â Chyffordd Llandudno a Llandudno trwy dirlun prydfrerth Dyffryn Lledr a Dyffryn Conwy. Ceir lein arall sydd ar gyfer twristiaid yn bennaf heddiw ond yn y gorffennol a fu'n dwyn llechi i'r cei ym Mhorthmadog, sef Reilffordd Ffestiniog. Mae'r A470 yn mynd trwy'r dref cyn dringo Bwlch y Gorddinan. Mae gwasanaethau bws cyson T22 i Borthmadog a Chaernarfon sy'n cysylltu â'r gwasanaeth i Fangor ac mae gwasanaethau bysus eraill i Landudno a Dolgellau. Mae gwasanaeth bws lleol hefyd sy'n cysylltu Tanygrisiau a Rhiwbryfdir gyda chanol y dref.

Ysgolion

[golygu | golygu cod]

Mae'r dref yn cael ei gwasanaethu gan dair ysgol gynradd, sef: Ysgol Manod, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Tanygrisiau. Mae'r ysgolion hyn yn bwydo'r ysgol uwchradd leol, Ysgol y Moelwyn.

Golygfa o'r Blaenau, yn edrych i lawr o'r Moelwyn Bach

Clybiau a Chymdeithasau

[golygu | golygu cod]
Seiclwr mynydd yn ymarfer ar un o draciau Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog

Cyflogaeth

[golygu | golygu cod]

Er fod y diwydiant chwareli llechi yn parhau i gyflogi nifer o bobl yn y dref, mae'r diwydiant hwn wedi cael ei ddisodli fel prif gyflogwyr gan ffatri Blaenau Plastics sydd â staff o tua 300. Rhai o gyflogwyr mawr eraill y dref yw ffatri Metcalfe, sy'n creu offer arlwyo, a phwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau. Mae dau gwmni cludiant ffyrdd mawr wedi eu lleoli yn yr ardal hefyd, sef 'Roberts Ffestiniog' o Lan Ffestiniog a 'E. Hughes' o'r Manod.

Gwahanol Ardaloedd y Dref

[golygu | golygu cod]

Tafarnau'r Dref

[golygu | golygu cod]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Y Glaw

[golygu | golygu cod]

Mae glaw y Blaenau yn ddihareb. Mae’r graff canlynol yn seiliedig ar ddata o Hanes Plwyf Ffestiniog yn dangos nad dihareb go iawn yw liquid sun brolia rhai trigolion y dref!

Graff yn dangos glaw ardal Ffestiniog o’i gymharu â’r trefi o gwmpas, yn y cyfnod 1865-1880 (data GJ Williams, 1882)

[2]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • amryw awduron, Chwareli a Chwarelwyr (Caernarfon, 1974)
  • Gwyn Thomas, Yn Blentyn yn y Blaenau (1981). Darlith hunangofiannol.
  • Gwyn Thomas, Blaenau Ffestiniog (2007 Gomer). Casgliad o gerddi a lluniau.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Gogledd Orllewin y BBC
  2. G.J. Williams (1882) Hanes Plwyf Ffestiniog

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato