Castell Rochester
Gwedd
Math | castell |
---|---|
Ardal weinyddol | Rochester, Medway |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Medway |
Cyfesurynnau | 51.3898°N 0.50163°E |
Cod OS | TQ7413768560 |
Rheolir gan | English Heritage |
Perchnogaeth | English Heritage |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Deunydd | Kentish ragstone, carreg Caen |
Castell canoloesol yn nhref Rochester, Caint, De-ddwyrain Lloegr, yw Castell Rochester. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Medway gan warchod croesfan bwysig yr afon a'r ffordd o Gaint i Llundain.[1]
Nodwedd amlycaf y castell yw'r gorthwr, sy'n dyddio o'r 12g ac sy'n un o'r enghreifftiau gorau o'i fath sydd wedi goroesi. Fe'i hadeiladwyd tua 1127 gan William de Corbeil, Archesgob Caergaint. Yn cynnwys tri llawr uwchben islawr, mae'n dal i sefyll 113 troedfedd o uchder.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ McNeill, Tom (1992). English Heritage Book of Castles (yn Saesneg). Llundain: English Heritage and B. T. Batsford. tt. 48–50. ISBN 0-7134-7025-9.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Rochester Castle", English Heritage
- "Rochester Castle", Visit Medway