Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook
Neidio i'r cynnwys

Llanarmon Dyffryn Ceiriog

Oddi ar Wicipedia
Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8862°N 3.2493°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ159328 Edit this on Wikidata
Cod postLL20 Edit this on Wikidata
AS/auAndrew Ranger (Llafur)
Map
Gweler hefyd Ceiriog (gwahaniaethu).

Pentref yng nghymuned Ceiriog Uchaf, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Llanarmon Dyffryn Ceiriog.[1][2] Saif ar lan Afon Ceiriog, ar ddiwedd ffordd y B4500, 5 milltir (8 km) i'r de-orllewin o Lyn Ceiriog a 10 milltir (16 km) i'r gogledd-ddwyrain o Groesoswallt.

Saif dwy ywen nodedig ychydig fetrau o ddrws Eglwys Sant Garmon, sy'n enghreifftiau prin o bâr o yw; yn 1998 mesurwyd o gwmpas gwaelod y coed ac roedd yr ywen ar y chwith (wrth edrych ar yr eglwys) yn 25 troedfedd a'i phartner gwrywaidd ar y dde dros yn 25 troedfedd a hanner.[3]

Eglwys Sant Garmon
Dwy ywen ger drws yr eglwys: yr un ar y chwith yn fenywaidd a'r llall yn wrywaidd

Daearyddiaeth a gweinyddiaeth[golygu | golygu cod]

Hanes Dinesig[golygu | golygu cod]

O ganol yr 16g tan 1974, llywodraethwyd Llanarmon Dyffryn Ceiriog gan sir weinyddol Dinbych. O 1895 tan 1935, roedd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal wledig Llansilin, a gyfunwyd yn 1935 gydag ardal wledig Y Waun i greu ardal wledig Y Waun. Arhosodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal gwledig Y Waun o 1935 tan 1974.

Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a cafodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog ei gynnwys o fewn ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Newidiwyd y trefn eto yn 1996, pan gafwyd wared o Glwyd ac Ardal Glyn Dŵr, daeth Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o fwrdeistref sirol Wrecsam, fel yma mae hi heddiw fyth.

Cynyrchiolaeth gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Gweinyddir Llanarmon Dyffryn Ceiriog o fewn bwrdeistref sirol Wrecsam, awdurdod unedol a grewyd yn 1996. Mae Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn etholaeth Dyffryn Ceiriog, ac mae genddi Gynghorwr annibynnol.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Ganed y bardd nodweddiadol, John Ceiriog Hughes yn fferm Pen-y-Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn 1832, a treuliodd ei blentyndod yno.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Gorffennaf 2022
  3. Gwefan www.ancient-yew.org; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 26 Hydref 2014