Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook
Neidio i'r cynnwys

Meknès

Oddi ar Wicipedia
Meknès
Mathdinas, dinas fawr, urban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth520,428, 601,000 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAbdellah Bouanou Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Reims, Almaty, Nîmes, Tulkarm, Santarém, Stralsund, Orléans, Cenon, Bourg-en-Bresse, Bologna, Dwyrain Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolImperial cities of Morocco Edit this on Wikidata
SirMeknès Prefecture Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd370 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr546 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.88°N 5.55°W Edit this on Wikidata
Cod post50000 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAbdellah Bouanou Edit this on Wikidata
Map
Bab Mansour ('Porth Mansour') gyda nos

Dinas yng ngogledd Moroco yw Meknès (Arabeg: مكناس‎), a leolir tua 130 km (81 milltir) i'r dwyrain o'r brifddinas Rabat a 60 km (37 milltir) i'r gorllewin o Fès. Mae'n brifddinas rhanbarth Meknès-Tafilalet. Poblogaeth: tua 950,322 (amcangyfrifiad 2006).

Y ddinas

[golygu | golygu cod]

Mae Meknes yn ddinas hanesyddol; hon oedd prifddinas Moroco yn nheyrnasiad Moulay Ismail (1672–1727), cyn iddi symud i Marrakech, ac felly mae'n un o bedair "dinas ymerodrol" y wlad, gyda Marrakech, Rabat a Fès. Enwir Meknès ar ôl llwyth Berber y Miknasa (ffurf Arabeg ar yr enw Berber Imknasn). Daeth yr ardal i feddiant y Rhufeiniaid a chodwyd dinas Rufeinig Volubilis (Oualili) i'r gogledd o'r ddinas bresennol.

Oherwydd ei bwysigrwydd pensaernïol a diwylliannol, mae medina (hen ddinas) Meknès yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.

Mae priffordd yr A2 a rheilffordd yn cysylltu Meknès gyda Rabat ar arfordir Cefnfor Iwerydd a gyda Fès i'r dwyrain. Mae lein reilffordd arall yn ei chysylltu gyda Tanger (Tangiers) i'r gogledd.

Cymunedau Meknès

[golygu | golygu cod]

Meknès Al Ismaïlia

[golygu | golygu cod]
  • Aïn Jemâa
  • Aïn Karma
  • Aïn Orma
  • Aït Ouallal
  • Al Ismaïlia
  • Al Machouar Stinia
  • Dar Oum Soltane
  • Maknassat Azzaytoun
  • Oued Rommane
  • Toulal

Meknès El Menzeh

[golygu | golygu cod]
  • Boufakrane
  • Charqaoua
  • Dkhissa
  • Hamrya
  • Karmet Ben Salem
  • M'haya
  • Majjate
  • Mergassiyine
  • Moulay Idriss Zerhoun
  • N'zalat Bni Amar
  • Oualili (Volubilis)
  • Oued Jdida
  • Ouislane
  • Sidi Abdellah el Khayat
  • Sidi Slimane Moul Al Kifane

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato