Sue Essex
Gwedd
Sue Essex | |
| |
Cyfnod yn y swydd 3 Mai 1999 – 3 Mai 2007 | |
Geni | Cromford, Swydd Derby, Lloegr | 29 Awst 1945
---|---|
Plaid wleidyddol | Y Blaid Lafur (DU) |
Gwleidydd Seisnig yw Susan "Sue" Essex (ganed 29 Awst 1945), a chyn-aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Essex yn Cromford, Swydd Derby, a magwyd yn Tottenham, Llundain. Symudodd i Gymru yn 1971. Dechreuodd ei gyrfa wleidyddol fel Cynghorydd sir ar Gyngor Caerdydd, gan ddod y ddynes gyntaf i arwain y cyngor yn ddiweddarach.
Essex oedd yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd o 1999 hyd 2007. Roedd hefyd yn weinidog yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu'n Weinidog dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio o 2000 hyd 2003, a'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus o 2003 hyd 2007. Ni safodd i gael ei hail-ethol yn 2007.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Essex to stand down at elections. BBC (19 Awst 2005).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Proffil ar wefan y BBC, Medi 1999
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd 1999 – 2007 |
Olynydd: Jonathan Morgan |
Seddi'r cynulliad | ||
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio, Llywodraeth Cymru 2000 – 2003 |
Olynydd: aildrefnwyd y swydd |
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru 2003 – 2007 |
Olynydd: aildrefnwyd y swydd |
Categorïau:
- Egin Saeson
- Aelodau Llywodraeth Cymru
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Genedigaethau 1945
- Gwleidyddion Seisnig yr 20fed ganrif
- Gwleidyddion Seisnig yr 21ain ganrif
- Gwleidyddion y Blaid Lafur (DU)
- Pobl o Swydd Derby
- Pobl o Lundain
- Merched yr 20fed ganrif
- Merched yr 21ain ganrif