Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Sut mae'r BBC yn defnyddio cwcis ar gyfer hysbysebu?

Diweddarwyd y dudalen: 10 Mai 2019

Mae'r BBC yn dangos hysbysebion ar ei gwefan i ddefnyddwyr y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Rydym yn defnyddio'r incwm i helpu i gyllido gwasanaethau'r BBC a chadw ffi'r drwydded - sy'n cael ei dalu gan aelwydydd yn y Deyrnas Unedig - yn is nag y byddai fel arall.

Rydym yn ceisio ein gorau glas, gan ddefnyddio technoleg soffistigedig, i wneud yn siŵr bod yr hysbysebu yn weladwy i bobl y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn unig, ond os ydych yn edrych ar y wefan yn y Deyrnas Unedig ac yn gallu gweld hysbysebion, defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i ni gynted â phosibl.

Os ydych chi wedi gweld rhywbeth sy'n hysbysebu amhriodol ar ein safle yn eich barn chi, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin hyn am gyngor.

Ydy'r BBC yn defnyddio fy nata i bersonoleiddio'r hysbysebion sy'n cael eu dangos i mi?

Dim ond os yw'r gwasanaethau rydych chi'n eu defnyddio yn cynnwys hybysebion.

Os ydych chi'n y Deyrnas Unedig ac yn defnyddio'r gwefannau a'r apiau sydd wedi eu hariannu gan Ffi'r Drwydded, nid yw'r gwasnaethau hyn yn cynnwys hysbysebu ac ni fydd eich data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion hysbysebu. Os ydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu os ydych chi'n defnyddio un o wefannau neu apiau eraill y BBC sy'n cael ei ariannu'n fasnachol, efallai y byddwn ni a'n partneriaid hysbysebu yn casglu a dadansoddi data ynglŷn â'ch dyfais (e.e. eich cyfeiriad IP ac ID cwcis) a'ch defnydd o'n gwasanaethau (e.e. pa erthyglau rydych chi'n eu darllen).

Efallai hefyd y bydd y cwmnïau rydyn ni a'n hysbysebwyr yn eu defnyddio i deilwra a darparu hysbysebion i chi yn casglu data gennych chi o wasanaethau ar-lein eraill. Mae'r data yn ein helpu ni a'n hysbysebwyr i ddarogan beth allai fod o ddiddordeb i chi, ac i ddangos hysbysebion sydd wedi eu teilwra i'r diddordebau hynny. Mae hyn yn cael ei alw yn Hysbysebu Ymddygiadol Ar-lein, neu hysbysebu ar sail diddordeb. Nid yw'r holl hysbysebion rydyn ni'n eu dangos wedi eu teilwra ar sail eich data a'ch diddordebau. Rydyn ni hefyd yn teilwra eich hysbysebion ar sail y cynnwys rydych chi'n ei wylio, hysbysebu cyd-destunol; er enghraifft os ydych chi'n darllen erthygl am deithio yna efallai y byddwn ni'n dangos hysbysebion i chi am gwmnïau awyrennau. 

Rydyn ni'n defnyddio hysbysebu ymddygiadol ar-lein i'n helpu ni i wella eich profiad o'n gwasanaethau ar-lein drwy ddangos llai o hysbysebion, ond eu bod yn fwy perthnasol. Mae hefyd yn golygu y gallwn gael mwy o werth o'n hysbysebwyr, sy'n ein caniatáu i fuddsoddi mwy mewn cynnwys rhagorol. 

Tracio traws-ddyfais

Efallai y bydd eich arferion pori yn cael eu tracio ar draws gwefannau gwahanol a dyfeisiau ac apiau gwahanol. Os nad ydych chi wedi mewngofnodi i wasanaeth gwe, efallai y byddwn ni'n ceisio cydweddu eich arferion pori ar un ddyfais, e.e. eich gliniadur, gyda'ch arferion pori ar ddyfais arall, fel eich ffôn clyfar, fel y gallwn ni wella pa mor berthnasol yw'r hysbysebion sy'n cael eu rhoi i chi.

Er mwyn gwneud hyn, efallai bydd ein partneriaid technoleg yn rhannu data, fel eich patrymau pori, geo-leoliad ac IDs y ddyfais, ac yn cydweddu gwybodaeth y porwr a'r dyfeisiau sy'n ymddangos fel petaent yn cael eu defnyddio gan yr un person.

Ffynonellau data eraill

Efallai hefyd y byddwn ni'n defnyddio data diddordeb a demograffig gan arbenigwyr data i'n helpu ni i ddarogan beth allai fod o ddiddordeb i chi. Rydyn ni hefyd yn prynu gofod hysbysebu ar wefannau eraill, ble gallwch dderbyn hysbysebion gennym. Nid ydyn ni'n storio unrhyw wybodaeth ynglŷn â'ch arferion pori ar y gwefannau hynny. Weithiau, bydd ein hysbysebwyr yn defnyddio eu data marchnata eu hunain i'ch targedu gydag ymgyrchoedd hysbysebu ar wefannau'r BBC. Felly mae’n bosib y gwelwch hysbysebion yn seiliedig ar bethau rydych chi wedi eu gweld ar wefannau eraill a gwybodaeth arall maen nhw wedi ei gasglu amdanoch chi. Dydyn nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth yma gyda ni.

Mwy o wybodaeth...

Mae'r diwydiant hysbysebu wedi datblygu nifer o fentrau prynwyr a busnes yn Ewrop, UDA a rhanbarthau eraill. Mae'r mentrau yma yn cynnwys egwyddorion arfer da ar gyfer busnesau sy'n ymwneud â hysbysebu, canllawiau prynu ar gyfer hysbysebu ymddygiadol ar-lein, ac offer optio allan.

European Interactive Digital Advertising Alliance (EDAA)
Digital Advertising Alliance (DAA)
Network Advertising Initiative (NAI)

Sut mae partneriaid hysbysebu a hysbysebwyr y BBC yn defnyddio cwcis?

Mae ein hysbysebion yn cael ei rannu â chi drwy ein partneriaid hysbysebu arbenigol, awdurdodedig. Mae'r cwcis sy'n cydfynd â'r hysbysebion yn eu caniatáu nhw a'n hysbysebwyr i fonitro effeithiolrwydd yr hysbysebion. Mae'n bosib y bydd ein hysbysebwyr a'u hasiantwyr hefyd yn defnyddio cwcis maen nhw wedi eu gosod ar eich dyfais pan oeddech chi'n pori gwefannau eraill. Maen nhw'n gwneud hyn fel eu bod nhw'n gwybod eich bod wedi gweld hysbyseb benodol, neu ddod o hyd i chi ar eu bas-data. Mae hyn yn eu helpu i wneud pethau fel rhoi uchafswn ar nifer yr hysbysebion rydych chi'n eu gweld ledled y we ac, os ydych chi wedi cymryd rhan mewn ymchwil marchnata, efallai y bydd y cwmni ymchwilio yn cofnodi eich bod chi wedi gweld hysbyseb benodol. 

Mae unrhyw gwmni rydyn ni'n eu caniatáu i ychwanegu tagiau neu god i'n gwefan yn cael eu harchwilio er mwyn sicrhau eu bod yn trin eich data yn gyfrifol. Fodd bynnag, mae eu defnydd o'ch data o fewn eu rheolaeth eu hunain, ac yn destun eu harferion preifatrwydd eu hunain (mae rhestr isod o'n prif partneriaid hysbysebu). Rydyn ni'n cymryd mesurau rhesymol er mwyn amddiffyn data ein defnyddwyr ac i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn unol â'n polisïau. Er enghraifft, drwy ddefnyddio partneriaid technoleg hysbysebu sydd yn cymryd rhan mewn fframweithiau hunan-reoleiddio (fel EDAA, DAA neu NAI) a drwy atal sut mae data pori o'n gwasanaethau yn cael ei ddefnyddio. Rydyn ni hefyd yn cynnal gwasanaethau archwilio allanol ar ein safle er mwyn adnabod meddalwedd neu gwcis a allai achosi problemau.

Ein prif bartneriaid hysbysebu 

Isod mae rhestr o'n prif bartneriaid hysbysebu. Mae'r cwmnïau o dan gontract gyda'r BBC, ond mae'r data maen nhw'n ei gasglu hefyd yn dod o dan eu polisïau preifatrwydd ac efallai y byddan nhw'n caniatáu cwmnïau eraill i ddefnyddio cwcis a thechnolegau tracio er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â'ch defnydd o'r wefan a'u hysbysebion. Cliciwch ar eu henw er mwyn dod o hyd o fwy o wybodaeth ac i optio allan, sydd yn eu hatal rhag defnyddio eich data at ddibenion hysbysebu ymddygiadol ar-lein.

Masnachu hysbysebion, gwasanaethu hysbysebion a thargedu

Google DoubleClick, AdSense and AdWords
Index Exchange
Juice Mobile
OpenX
Rubicon Project
TripleLift
Videology

Rheoli data a thracio traws-ddyfais

Lotame

Partner mesur hysbysebion a data

DataXu

Targedu hysbysebu o fewn e-byst

LiveIntent

Argymell cynnwys (ar sail ymddygiad)

Outbrain

Sut alla i optio allan?

Os, ar unrhyw adeg, dydych chi ddim eisiau i'ch gwybodaeth ynglŷn â'ch ymddygiad pori gael ei ddefnyddio at bwrpas rhannu hysbysebion â chi ar y wefan, gallwch optio allan (manylion isod). Gallwch hefyd optio allan drwy ddefnyddio'r dolenni uchod.

Os ddewiswch chi i optio allan, byddwch yn parhau i weld hysbysebion ond efallai y byddan nhw'n llai perthnasol i chi, oherwydd ni fyddan nhw wedi eu teilwra i'ch diddordebau.

Newid gosodiadau eich porwr

Gallwch sicrhau nad ydy eich arferion pori yn cael ei dracio'n gyffredinol drwy addasu gosodiadau eich porwr, pori yn y 'private mode' neu ddefnyddio 'add-ons' pori. Gallwch ddysgu sut i wneud hyn drwy ymweld â'r dudalen gefnogaeth berthnasol ar gyfer eich porwr, neu drwy ddefnyddio'r adran help yn eich porwr:

Apple Safari
Google Chrome
Microsoft Internet Explorer
Mozilla Firefox
Opera browser

Teclyn dewisiadau hysbysebion ar gyfer porwyr gwe

Gallwch optio allan o dderbyn hysbysebion wedi eu targedu ar y wefan yma ac yn fwy cyffredinol ar draws y we drwy ddefnyddio'r teclynnau optio allan, gan gynnwys:

European Interactive Digital Advertising Alliance (EDAA)
Digital Advertising Alliance (DAA)
Network Advertising Initiative (NAI)

Dewisiadau hysbysebion ar gyfer apiau symudol

Os ydych chi'n defnyddio gwasanaethau gan y BBC drwy borwyr gwe ar eich dyfais symudol, dilynwch y cyfarwyddiadau uchod. Fodd bynnag, mae apiau symudol yn defnyddio technolegau gwahanol er mwyn adnabod eich dyfais. Er mwyn sicrhau nad yw data eich defnydd o apiau yn cael ei ddefnyddio i dargedu hysbysebion o fewn yr apiau, dilynwch y cyfarwyddiadau isod i optio allan.

Apple iOS
1. Ewch i Settings > Privacy > Advertising.
2. Trowch Limit Ad Tracking ymlaen.
Ewch i dudalen gefnogaeth Apple am fwy o fanylion.

Google Android
1. Ewch i Settings.
2. Dewiswch Google yn yr adran Accounts.
3. Dewiswch Ads yn yr adran Privacy.
4. Ticiwch Opt out of interest based ads.
Ewch i dudalen gefnogaeth Google am fwy o fanylion.

Microsoft Windows
1. Ewch i Settings.
2. Tapiwch Privacy.
3. Tapiwch Advertising ID, a diffodd Let apps use my advertising ID for experiences across apps
Ewch i dudalen gefnogaeth Microsoft am fwy o fanylion.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â'r tîm Diogelu Data yn BBC Service am fwy o wybodaeth.

Newid iaith: EnglishGàidhlig