Athrofa Padarn Sant
Cytundeb: Parhaol
Lleoliad: Caerdydd
Mae gennym gyfle cyffrous i Gyfarwyddwr Caplaniaeth i arwain a datblygu ein gwaith ym maes Astudiaethau Caplaniaeth.
Mae Athrofa Padarn Sant wedi datblygu enw da yn y Ddeyrnas Unedig ym maes Astudiaethau Caplaniaeth, ond mae caplaniaeth wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y ddegawd ddiwethaf o ran pwysigrwydd ac amrywiaeth. Hynny fydd yr her i’r Cyfarwyddwr nesaf- i fynd a’n rhaglenni Astudiaethau Caplaniaeth i’r cam nesaf, gan groesawu’r amrywiaeth a geir ym meysydd caplaniaeth a’r amryw rhaglenni sydd angen i ateb ei gofynion, o raddau uwch i ysbrydoli a galluogi caplaniaid gwirfoddol.
Bydd y person rydym yn chwilio amdanynt yn:
- Meddu ar ddoethuriaeth neu brofiad o addysgu diwinyddiaeth hyd at lefel meistr.
- Medru creu rhaglenni a chyfleoedd Newydd.
- Gallu adeiladu ymddiriedaeth a brwdfrydedd ymysg partneriaid a dysgwyr.
- Frwd dros gaplaniaeth fel modd o genhadaeth Gristnogol.
Gallwch weld holl fanylion y swydd ar www.stpadarns.ac.uk neu www.churchinwales.org.uk
I drefnu sgwrs anffurfiol gyda’r Pennaeth am ofynion y rôl, cysylltwch â Mark Griffiths ar [email protected].
Dyddiad cau: 10 Mai 2024 am 10:00
Dyddiad Cyfweliad: 23 & 24 Mai 2024
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Yr Eglwys yng Nghymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 10 Mai 2024