Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

BBC Cymru Fyw ar eich dyfais symudol

  • Cyhoeddwyd
Ap BBC Cymru Fyw

Y newyddion a'r straeon diweddaraf o Gymru ar flaenau eich bysedd (ac yn eich poced).

Gwefan BBC Cymru Fyw

Mae gwefan BBC Cymru Fyw wedi ei dylunio i weithio ar ystod eang o ddyfeisiau symudol a thabledi o feintiau gwahanol.

I dderbyn y gwasanaeth ar eich dyfais symudol, y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydy mynd i bbc.co.uk/cymrufyw

Mae ap BBC Cymru Fyw hefyd ar gael ar ffonau Apple ac Android - ac mae'n rhad ac am ddim. [Mae'r ap yn gweithio ar dabledi, er nad oes fersiwn penodol wedi ei ddatblygu ar gyfer tabledi.]

Dyma'r adrannau sydd i'w gweld ar yr ap:

  • Heddiw - y diweddaraf o Gymru mewn llif o bytiau a dolenni i wefannau amrywiol
  • Prif Straeon - y prif straeon newyddion
  • Cylchgrawn - erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a mwy
  • Gwleidyddiaeth - hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru gan gynnwys blog Vaughan Roderick
  • Radio - cyfle i wrando ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru

Gallwch hefyd ddefnyddio'r botwm cyfrannu ar yr ap er mwyn anfon eich straeon, negeseuon a lluniau yn syth at dîm cynhyrchu BBC Cymru Fyw.

Disgrifiad,

BBC Cymru Fyw

Yn ogystal, mae'n bosib dod o hyd i gynnwys Cymru Fyw ar ap BBC News sy'n rhad ac am ddim ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android.

Mae'r ap yn galluogi defnyddwyr i ddewis a dethol y cynnwys sydd mwyaf perthnasol iddyn nhw. I ychwanegu cynnwys Cymru Fyw, chwiliwch am 'Cymru' ym mlwch chwilio'r ap neu ychwanegwch 'Cymru' yn yr adran 'Add Topics'.

Gallwch hefyd ddewis adrannau eraill o wefan Cymru Fyw fel Cylchgrawn, Gwleidyddiaeth, Gogledd-Orllewin, Gogledd-Ddwyrain, De-Orllewin, De-Ddwyrain a Canolbarth.

Os nad ydych chi'n siŵr os gallwch fynd ar y we ar eich dyfais, gofynnwch i'ch darparwr rhwydwaith symudol.

Yn dibynnu ar eich cytundeb, gall fynd ar y we ar eich ffôn neu dabled gostio arian i chi (costau data).