Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

3 Llun: Lluniau pwysicaf bywyd Steffan Alun

  • Cyhoeddwyd

Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw? Dyna dasg i'r cyfranwyr yng nghyfres Tri Llun Cymru Fyw.

Y comedïwr Steffan Alun sydd yn dewis rhai o'i hoff luniau y tro yma.

Dyma fi ac Elanor, fy ngwraig, ar ein mis mêl yng Nghaeredin. Ry'n ni'n dathlu 18 mlynedd gyda'n gilydd eleni. Oherwydd i ni briodi ym mis Awst, rwy bellach bron bob amser yng Ngŵyl Caeredin am ein pen-blwydd priodas. Heriol! Ond braf hefyd yw dathlu yn yr un ddinas â'r mis mêl, yn hel atgofion a mwynhau cwmni ein gilydd.

Dyma lun o un o'r nosweithiau comedi proffesiynol cyntaf i mi ei threfnu (gyda fy ffrind Alun Chivers). O'r chwith i'r dde, dyna fi, wedyn y digrifwyr Yuriko Kotani, Archie Maddocks, Beth Jones, Jake Baker, ac Alun ar y pen. Roedd hi'n wych dod â digrifwyr o bob rhan o Brydain i Abertawe - ac roedd hi'n bwysig i ni hefyd sicrhau bod o leiaf un act arall o Gymru yn ymuno â fi'r cyflwynydd, a gwnaeth Beth job ffantastig ymhlith ein hymwelwyr.

Mae ffrindiau mor bwysig i fi, a dyma un o fy hoff luniau o'r hen griw mewn parti ar thema uwcharwyr. Dim llawer o'r rhain ar ôl yn Abertawe bellach - felly braf yw edrych nôl dros hen luniau, a chofio'r hwyl a'r chwerthin.

Hefyd o ddiddordeb: