Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Undeb athrawon NASUWT yn gwrthod cynnig o godiad cyflog

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl undeb NASUWT, mewn arolwg o 700 o'u haelodau roedd 78% yn credu bod y cynnydd yn "annigonol"

Mae undeb athrawon wedi gwrthod y cynnig o godiad cyflog ar raddfa is na chwyddiant i'w haelodau yng Nghymru eleni.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fis diwethaf y bydd cyflogau athrawon yn codi o 5% ym mis Medi.

Ond yn ôl undeb NASUWT mae hynny'n "llawer rhy isel".

Ar hyn o bryd mae chwyddiant - sef y gyfradd mae prisiau yn codi - yn 9.4%, a'r darogan yw y bydd yn cyrraedd 13% ym mis Hydref.

Bygwth cynnal pleidlais am streicio

Mae 26,000 o athrawon yng Nghymru, gyda'r cyflog ar gyfartaledd yn £39,009.

Ym mis Gorffennaf fe dderbyniodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles argymhellion panel annibynnol y dylai cyflogau codi o 5%.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles nad yw setliad ariannol Llywodraeth y DU i Gymru yn ddigonol i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus

Fe fyddai hynny'n golygu y byddai cyflogau i athrawon newydd yn dechrau ar £28,866.

I'r athrawon mwy profiadol byddai'r swm yn codi i £44,450.

Ond fe alwodd yr NASUWT am 12% yn 2022/23 ac maen nhw'n bygwth cynnal pleidlais ynghylch gweithredu diwydiannol yn yr hydref os nad oes cynnydd pellach.

Yn ôl yr undeb, mewn arolwg o 700 o'u haelodau roedd 78% yn credu bod y cynnydd yn "annigonol".

Ychwanegodd bod 70% yn anghytuno neu'n flin gyda'r codiad.

Gwrthod tâl is na chwyddiant

"Mae cynnig tâl Llywodraeth Cymru llawer yn is na beth mae athrawon yn mynnu yn dilyn degawd o doriad mewn cyflogau mewn termau real a'r argyfwng costau byw," meddai Neil Butler, Swyddog Cenedlaethol NASUWT Cymru.

Ffynhonnell y llun, NASUWT
Disgrifiad o’r llun,

Neil Butler: "Gwrthod y cynnig o dâl sy'n is na chwyddiant"

"Mae'r cynnig tâl yma yn golygu bod y bwlch o ran cyflogau athrawon ers 2010 yn 22.4%.

"Mae aelodau NASUWT unwaith eto wedi dweud wrthym ni eu bod yn gwrthod y cynnig o dâl sy'n is na chwyddiant."

Fe allai'r cyflogau codi o 3.5% yn yr ail flwyddyn yn ddibynnol ar adolygiad.

Mae Mr Miles wedi dweud yn y gorffennol ei fod wedi ei gyfyngu o ran ei allu i godi tâl.

Mae hefyd wedi beirniadu setliad ariannol Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru.

Yn Lloegr, mae'r rhan fwyaf o athrawon yno wedi cael cynnig tebyg o ran codiad cyflog, sef 5%.

Pynciau Cysylltiedig