Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Rhentu: 'O'n i ddim yn gw'bod ble o'n ni'n mynd i fynd'

Mae mam o Gaerdydd fu'n chwilio am le i'w rentu am wyth mis i'w theulu ifanc yn dweud nad yw hi "erioed wedi teimlo mor isel".

Does gan Sara Hobday a'i phartner, Steve, ddim arian wedi ei arbed i brynu tŷ, ond maen nhw'n dweud bod y farchnad rhent yn eu prisio allan erbyn hyn hefyd.

Ar ben hynny, mae'n dweud bod sawl asiantaeth dai wedi dweud wrthi fod y ffaith bod ganddyn nhw fabi yn "anfantais" - rhywbeth sydd yn codi dro ar ôl tro, yn ôl elusen Shelter Cymru.

"Sa i'n meddwl bo' fi 'di teimlo mor isel ag o'n i ar yr adeg yna, ddim yn gw'bod ble o'n ni'n mynd i fynd, ble o'n ni'n mynd i fod mewn wythnos, ble o'dd 'y mhlentyn yn mynd i fynd," meddai Sara.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod unrhyw landlord neu asiant sy'n gwahaniaethu'n annheg yn erbyn tenantiaid mewn perygl o golli eu trwydded.