Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

'Dyma'r flwyddyn waethaf mewn degawd o dyfu tatws'

Mae effeithiau newid hinsawdd yn dechrau herio'r syniad bod Cymru'n "wlad wlyb, werdd" ac mae angen mwy o weithredu er mwyn addasu i wres eithafol. 

Dyna rybudd yr Athro Andrew Flynn o Brifysgol Caerdydd, sy'n dweud y gallai tywydd eithriadol yr haf hwn gael ei ailadrodd yn llawer mwy cyson yn y dyfodol. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n dweud eu bod yn monitro'r sefyllfa yn hynod ofalus, ac yn ystyried a oes angen datgan sychder swyddogol mewn rhai ardaloedd.

Yn y cyfamser mae ffermwyr wedi rhybuddio bod "storm berffaith" yn bosib wrth i gnydau wywo ar adeg costau cynhyrchu uchel.

Un sy'n pryderu am y sefyllfa yw Rhodri Davies, sy'n tyfu tatws ar 50 erw o dir fferm Rosedew yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg.