Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Rhybudd melyn ledled Cymru am stormydd mellt a tharanau

  • Cyhoeddwyd
StormFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau mewn grym dros Gymru gyfan wedi cyfnod o dywydd poeth eithriadol.

Roedd rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym trwy gydol dydd Llun, ac mae'n dod i ben am 23:59 nos Fawrth.

Yna mae rhybudd gwahanol mewn grym ar gyfer 11 sir yn ne-ddwyrain Cymru trwy gydol dydd Mercher.

Mae disgwyl y stormydd gwaethaf i daro ddydd Mawrth, gyda glaw trwm, cenllysg a mellt yn cael ei ragweld.

Ffynhonnell y llun, Gary Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Un o strydoedd Port Talbot dan ddŵr brynhawn Mawrth yn dilyn cawodydd trwm

Ffynhonnell y llun, Gary Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y llifogydd ym Mhort Talbot effeithio ar yr orsaf betrol yma hefyd

Brynhawn Mawrth bu'n rhaid i siop lyfrau yn Abertawe gau wedi cawodydd trwm.

Mewn fideo ar Twitter roedd dŵr i'w weld yn llifo drwy do siop Waterstones a llyfrau yn gorwedd mewn pyllau ar lawr.

Dywedodd y rheolwr Steven Gane bod "y nefoedd wedi agor am hanner awr a bod dŵr wedi dod trwy'r to" a bod y siop wedi cau wrth i staff glirio a cheisio arbed y llyfrau.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd dydd Mawrth mewn grym ar gyfer Cymru gyfan, ac un dydd Mercher ar gyfer 11 sir yn y de-ddwyrain

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhwng 20-30mm o law ddisgyn o fewn awr mewn mannau.

Maen nhw'n rhybuddio hefyd fod posibilrwydd o lifogydd, a pheth oedi i wasanaethau trenau a bws.

Daw'r rhybuddion diweddaraf yn dilyn cyfnod o dywydd poeth eithriadol yng Nghymru, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 33C yn y de-ddwyrain.

Yr wythnos ddiwethaf daeth cadarnhad fod grŵp o arbenigwyr o Gymru am fonitro effaith y tywydd poeth ar lefelau dŵr.

Pynciau Cysylltiedig