Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

'Mae Tŷ Penrhyn wedi safio bywyd fi rili'

Mae trigolion canolfan adferiad Tŷ Penrhyn ym Mangor ar yr un daith - taith o wellhad, er bod rhai ymhellach ar y llwybr hwnnw nag eraill.

Wrth i ohebydd BBC Cymru gael cip y tu ôl i lenni'r ganolfan, yr hyn sy'n amlwg meddai, yw y "gall y ganolfan newid bywydau" ac mae'r teimlad o "berthyn a theulu" mor bwysig i adferiad y trigolion.

Roedd Catrin Owen o Felinheli yn gaeth i heroin, a Dewi Rowlands a Gary Squires â phroblemau yfed - mae'r tri yn credu mai mynd i Dŷ Penrhyn oedd eu penderfyniad gorau erioed ac mai dyna sydd wedi rhoi bywyd newydd iddyn nhw.