Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Pythefnos 'anhygoel' Non Stanford cyn iddi ymddeol

Mae'r athletwraig Non Stanford wedi disgrifio'i "sioc" ar ôl cipio medal aur wrth gystadlu am y tro olaf ar y llwyfan rhyngwladol.

Daeth yn gyntaf ar ran Prydain yn y triathlon ym Mhencampwriaeth Ewrop ym Munich ddiwedd wythnos diwethaf.

Lai na phythefnos ynghynt fe enillodd fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad fel aelod o dîm cyfnewid triathlon Cymru.

Roedd hi eisoes wedi datgan bwriad i ymddeol o'r prif gystadlaethau ar ddiwedd tymor eleni.

Wrth siarad â rhaglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru yn fyw o Munich fore Llun roedd yn amlwg nad oedd hi wedi rhagweld y fath lwyddiant yn ei chystadleuaeth fawr olaf.