Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Ryan Giggs 'wedi penio'i gariad a bygwth ei chwaer'

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Giggs yn gwadu cyhuddiadau o reoli trwy orfodaeth ac o ymosod

Mae chwaer cyn-gariad Ryan Giggs yn honni iddo benio Kate Greville ac yna bygwth gwneud yr un peth iddi hi mewn ffrae yn ei gartref.

Dywedodd Emma Greville, ei bod wedi gweld Mr Giggs yn rhoi ei ddwylo ar ysgwyddau ei gariad ar y pryd, Kate Greville, "a gyda llawer o nerth, defnyddio ei ben i'w tharo hi ar ei gwefus".

Mae cyn-seren Manchester United a Chymru, 48, wedi'i gyhuddo o reoli Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer.

Mae Mr Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Giggs yn 'feddw iawn'

Yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Manceinion ddydd Llun dywedodd Emma Greville am y digwyddiad yng nghartref Mr Giggs yn Worsley, Manceinion ar 1 Tachwedd 2020.

Dywedodd ei bod hi yng nghartref Mr Giggs yn gwarchod ci tra bod y cwpl wedi mynd am bryd o fwyd i westy'r Stock Exchange, ble roedden nhw'n bwriadu aros am y noson.

Ond yn ôl Emma Greville fe wnaeth Kate yrru neges ati yn dweud wrthi am bacio ei phethau a bod y ddwy am adael y noson honno.

Dywedodd fod ei chwaer wedi cyrraedd gyntaf, yn "ypset" ac wedi bod yn yfed, cyn i Mr Giggs gyrraedd chwarter awr yn ddiweddarach yn "anhapus" a "meddw iawn".

Ffynhonnell y llun, Julia Quenzler
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Ryan Giggs bara tua phythefnos

Ychwanegodd ei bod wedi dod i mewn i ystafell a gweld Mr Giggs yn gorwedd ar ben Kate Greville yn ceisio gafael yn ei ffôn, a bod ei chwaer wedi gofyn iddi gael Mr Giggs oddi arni.

Dywedodd ei bod wedi gafael ynddo a'i dynnu i ffwrdd, a'i fod Mr Giggs "wedi troi i'r dde ac fe wnaeth ei benelin gyffwrdd fy ngên".

Gofynnwyd iddi faint o nerth oedd yn yr ergyd, a'r ateb oedd "digon i wneud i mi adael fynd ohono".

'Fe wna i dy benio di nesaf'

Ychwanegodd fod y ffrae wedi parhau ac mai dyna pryd ddigwyddodd y penio honedig.

Dywedodd fod ei chwaer wedi disgyn i'r llawr a sgrechian, a bod Mr Giggs wedi dweud wrth Emma Greville mai ei bai hi oedd y digwyddiad, cyn bygwth gwneud yr un peth iddi hi.

Yn ôl Emma Greville dywedodd Mr Giggs: "Fe wna i dy benio di nesaf."

"Roedd gen i ofn," meddai Emma Greville.

Pan ddywedodd ei chwaer wrthi am ffonio'r heddlu, dywedodd fod Mr Giggs wedi dweud wrthi am beidio, ac am "feddwl am fy merch, meddywl am fy ngyrfa".

Wrth groesholi Emma Greville, awgrymodd Chris Daw QC ar ran yr amddiffyniad nad oedd cyffyrddiad bwriadol wedi bod rhwng rhwng penelin Mr Giggs a'i gên hi.

Awgrymodd hefyd bod Mr Giggs wedi taro ei ben yn erbyn gwyneb Kate Greville yn anfwriadol, a'i bod hi "ddim yn wir" fod Mr Giggs wedyn wedi bygwth gwneud yr un peth i Emma Greville.

"Anghytuno'n llwyr," meddai Emma Greville. "Mae o'n wir [ei fod wedi ei bygwth hi hefyd]."

Rhwystro e-bost Giggs

Yn gynharach ddydd Llun clywodd y llys fod y cwmni oedd yn cyflogi Kate Greville wedi rhwystro e-byst gan Mr Giggs oherwydd y nifer roedd yn eu gyrru.

Dywedodd un o gyn-gydweithwyr Ms Greville fod nifer yr e-byst roedd Mr Giggs yn gyrru yn "ddwys" a bod "Kate ddim yn gallu gwneud ei gwaith".

Roedd Elsa Roodt, sydd â chwmni PR yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, yn rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo o Dubai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs ydy un o'r pêldroedwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes y gêm

Eglurodd Ms Roodt fod Ms Greville wedi helpu hi a'i ffrind i sefydlu swyddfa newydd yn Abu Dhabi yn 2016.

Dywedodd fod Ms Greville wedi bod yn "hapus, hyderus a bubbly" pan gyrhaeddodd hi yno gyntaf.

Ond dros y ddwy flynedd y bu Ms Greville yn gweithio yno dywedodd Ms Roodt fod "newid amlwg" wedi bod a'u bod wedi treulio llai a llai o amser gyda hi.

Roedd hi'n ymddangos yn "nerfus" ac roedd "ag obsesiwn" am ei ffôn, meddai Ms Roodt.

Briwiau ar ei harddyrnau

Ychwanegodd Ms Roodt fod Ms Greville wedi dweud wrthi unwaith ei bod hi a Mr Giggs wedi cael "ffrae" mewn ystafell westy yn Dubai tra'r oedd draw i'w gweld hi.

"Roedd hi'n ypset iawn," meddai.

Dywedodd Ms Roodt ei bod wedi gweld briwiau ar arddyrnau Ms Greville, ond ei bod wedi egluro i hynny ddigwydd yn ystod "rhyw garw" yn dilyn y ffrae.

Ychwanegodd ei bod wedi gweld Ms Greville tra'r oedd hi ar wyliau gyda Mr Giggs yn Dubai ym mis Chwefror 2020, a bod Ms Greville wedi dweud wrthi fod Mr Giggs wedi bod yn "gorfforol" gyda hi yn eu hystafell wely.

Tra'n cael ei chroesholi gan gyfreithwyr Mr Giggs dywedodd Ms Roodt iddi ei gyfarfod "tua thair gwaith" ac nad oedd hi wedi gweld y ddau yn ffraeo unwaith.

Ychwanegodd ei bod wedi bod i briodas yn Sbaen gyda Mr Giggs a Ms Greville a'i fod wedi ymddangos yn "garedig, cyfeillgar a chymdeithasol" yn ystod y digwyddiad.

Mae'r achos yn parhau.