Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Lluniau gorau'r wythnos o Eisteddfod Llanrwst 2019

  • Cyhoeddwyd

Ar gaeau ar gyrion Llanrwst y cafodd Eisteddfod Sir Conwy ei chynnal yn 2019 - eisteddfod o gyfnodau braf a ddaeth i ben gyda channoedd o bobl ifanc yn cael eu hel o Maes B oherwydd y tywydd mawr.

Myrddin ap Dafydd oedd archdderwydd newydd Gorsedd y Beirdd a hynny gyda'r ŵyl yn cael ei chynnal yn ei fro enedigol, Dyffryn Conwy.

Dyma gasgliad o'r lluniau sy'n rhoi cip ar stori'r ŵyl o orielau Cymru Fyw yn ystod yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Ffotonant

Er gwaethaf y tywydd cymysg roedd digonedd o uchafbwyntiau.

Roedd croeso go anarferol i ymwelwyr ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod. Roedd Dafydd yn rhan o brosiect celf i roi pasbort dinasyddiaeth Bwrdeistref Rydd Llanrwst i Eisteddfodwyr.

Roedd y criw yma o Sir Gâr yn barod am wythnos brysur o waith ym mar Syched!

Roedd y tywydd yn gymysg ddydd Sul. Dyma Ceri o Rhiwlas ger Bangor yn gwneud yn siŵr nad oedd ei mab Gruffudd yn llosgi yn yr haul rhwng y cawodydd.

Gyda'r nos daeth torf enfawr i fwynhau Bryn Fôn ar un o nosweithiau sych prin yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, FFOTONANT

Roedd dydd Llun yn ddiwrnod i'w gofio i Cyfryngfab, Siryf a Cadno sef y darlledwr Aled Samuel a'r chwaraewyr rygbi Ken Owens a Jonathan Davies. Roedden nhw, a 34 arall, yn cael eu croesawu i'r Orsedd fore Llun gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, a hynny am eu cyfraniad arbennig i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Ffotonant

Roedd yn ddiwrnod i'w gofio i Guto Dafydd hefyd wrth iddo ennill y Goron. Fe aeth ymlaen i gipio Gwobr Goffa Daniel Owen hefyd ar y dydd Mawrth!

Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Da iawn dad! Bardd y Goron Guto Dafydd gyda'i blant Nedw a Casi

Roedd hi'n gymharol sych ar y Maes ddydd Mawrth gyda cyfle i fwynhau pizza a pheint wrth Lwyfan Radio Cymru.

Ar lwyfan y Pafiliwn, roedd cyfle i anrhydeddu y diweddar Maureen Hughes. Derbyniodd Bleddyn ei gŵr dystysgrif Llywydd Anrhydeddus yr Eisteddfod ar ei rhan gan Lywydd y Llys, Eifion Lloyd Jones.

Doedd dim teilyngdod yng nghystadleuaeth Tlws y Cerddor ddydd Mercher, ond roedd digon o gyfle i glywed doniau cerddorol yn ystod y dydd. Roedd Ysgol Dyffryn Conwy yn llawn cyffro wrth baratoi i agor cystadleuaeth y corau ieuenctid.

Ai dyma Eisteddfodwr ifancaf yr wythnos? Wil, sy'n wyth wythnos oed, gyda'i dad Prys Evans ar y maes ddydd Mercher.

Roedd Maes yr Eisteddfod eleni yn llawn digwyddiadau a pherfformiadau amrywiol. Ddydd Iau daeth criw 'Rygbi: Annwyl i Mi / Dear to Me' i'r Maes. Roedd eu dawns awyr agored yn dathlu rygbi yng Nghymru.

Fe gafodd Magi a Gweno o Ryd-y-Main ger Dolgellau gyfle i eistedd yn un o geir y gyrrwr rali lleol, Elfyn Evans

Ddydd Gwener daeth y newyddion fod Maes B wedi ei ganslo oherwydd y rhagolygon tywydd garw. Cafodd Gwenno Parry (dde) a'i ffrind Alys wybod fore Gwener nad oedden nhw'n gallu mynd yno.

"O'n i'n meddwl 'sa nhw 'di gallu deud wrth bobl neithiwr neu'n gynnar bore 'ma fel ein bod ni'n gwybod i beidio trafferthu dod."

Draw ar lwyfan y Pafiliwn, Jim Parc Nest oedd enillydd poblogaidd iawn y Gadair. Dywedodd y beirniaid fod "lliwiau a haenau ei 'stori ganfas' yn amlygu ei feistrolaeth ar holl gyweiriau a rhythmau'r Gymraeg".

Fe oedd yr Archdderwydd hefyd yn amlwg wedi ei blesio!

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Oherwydd y tywydd glawog ddydd Sadwrn, roedd hi ychydig gwacach ar y Maes... ond roedd hi'n brysur iawn gefn llwyfan wrth i gannoedd o ddynion ymgynnull i gysgodi rhag y glaw a'r mwd cyn iddyn nhw gystadlu â'u corau yng nghystadleuaeth y corau meibion.

Er y glaw, roedd yna dal ddigon o bobl yn crwydro - pob un â'i got law a'i ymbarel. Roedd Mari yn ddigon ffodus i allu osgoi gwlychu ei thraed drwy gael ei chario ar gefn ei thad - o na fyddai pawb yr un mor lwcus!

Bu'n rhaid i gig olaf Llwyfan y Maes, sef Dafydd Iwan, symud i'r Pafiliwn. Yng Ngwesty'r Eryrod yn nhref Llanrwst ei hun, roedd cyn-aelod Y Cyrff, Mark Roberts, gyda'i fand, MR yn cloi wythnos a hanner gyda'r dywediad enwog oedd ar wefusau, crysau t ac arwyddion drwy'r wythnos.