Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Pobl Ynys Môn i gael dweud eu dweud ar sut i wario £23m

  • Cyhoeddwyd
Safle Rhosgoch, ger Amlwch
Disgrifiad o’r llun,
Bu i werthiant safle Rhosgoch, ger Amlwch, ddod a £3m ychwanegol i'r gymdeithas, sydd bellach werth dros £23m

Am y tro cyntaf fe fydd y cyhoedd yn cael dweud eu dweud ar sut i wario cronfa £23m mewn un sir yn y gogledd.

Fe sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn 1990 i reoli'r arian a dderbyniodd yr ynys gan gwmni Shell.

Cytunwyd ar y rhodd hwn wedi i'r cwmni ddirwyn gweithgareddau i ben mewn terfynell olew yn Amlwch a'r fferm danciau cysylltiedig yn Rhosgoch.

Cynghorwyr y sir sydd wedi bod yn gyfrifol am weithredu'r ymddiriedolaeth a pha brosiectau i'w cyllido.

Ond nawr, am y tro cyntaf erioed, bydd y drws yn cael ei agor i aelodau'r cyhoedd gael dweud eu dweud.

'Sicrhau gwell amrywiaeth'

Mae'r llog blynyddol o'r arian a dderbyniodd yr ynys wedi ymadawiad y cwmni wedi ariannu nifer o gynlluniau cymunedol ers hynny, gan gynnwys helpu anfon timau i Gemau'r Ynysoedd a chostau rhedeg Oriel Ynys Môn.

Ond tra bod 30 o ymddiriedolwyr wedi bod yn draddodiadol, sef holl gynghorwyr sir yr ynys, o hyn allan bydd nifer y cynghorwyr ar y bwrdd yn cael ei dorri i chwech.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Môn
Disgrifiad o’r llun,
Celyn Menai, Prif Weithredwr Cymdeithas Elusennol Ynys Môn

Bydd y chwe sedd sy'n weddill yn cael eu llenwi gan aelodau'r cyhoedd, a fydd hefyd yn eistedd fel ymddiriedolwyr, ac yn gwbl annibynnol o'r cyngor a'r cynghorwyr.

Gyda'r ymddiriedolaeth hefyd wedi ei ail-enwi a bellach yn cael ei adnabod fel Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, dywedodd y prif weithredwr newydd, Celyn Menai, mai'r bwriad yw sicrhau gwell amrywiaeth.

"Rydym am recriwtio chwe ymddiriedolwr annibynnol i ymuno â bwrdd yr ymddiriedolwyr," meddai.

"Rhaid i'r rhai sy'n gwneud cais fod â chysylltiadau cryf ag Ynys Môn a rhannu ein hangerdd wrth hyrwyddo buddiannau ei chymunedau a'i phobl."

Ffynhonnell y llun, Ynys Mon Island Games Association
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ymddiriedolaeth eisoes wedi cytuno mewn egwyddor i gyfrannu £300,000 tuag at y £1.4m sydd ei angen i gynnal Gemau'r Ynysoedd ym Môn yn 2025

"Rydym am sicrhau bod y bwrdd yn adlewyrchu'n well amrywiaeth y rhai rydym yn eu cefnogi.

"Gall ymddiriedolwyr annibynnol, penodedig gynnig dyfnder ac ehangder o fewnwelediad, persbectif a phrofiad i'n gwaith."

'Ffodus i'w gael'

Yn 2015, yng ngwyneb pryderon y byddai Ynys Môn yn cael ei huno gyda chynghorau cyfagos, fe gyflwynwyd cymal newydd i gyfansoddiad yr ymddiriedolaeth - fel yr oedd ar y pryd - i warantu bod ond modd gwario'r arian ar brosiectau wedi eu lleoli ym Môn.

Ar y pryd roedd werth £17m ond yn dilyn buddsoddiad pellach a gwerthiant rhai darnau o dir, gan gynnwys depo Shell yn Rhosgoch, mae'r gymdeithas bellach werth dros £23m.

Ymysg rhai prosiectau cyfredol sydd wedi elwa o'r gymdeithas yw Tîm Chwilio ac Achub Môn, amryw glybiau'r Urdd a Ffermwyr Ifanc, gorsafoedd radio a chyfryngau lleol, canolfannau cymunedol a chyfleusterau chwaraeon ac hamdden.

Disgrifiad o’r llun,
Y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes: "Wedi'i weithredu'n dda iawn ond dwi'n credu fod hi'n amser am newid"

Ond er bod galwadau wedi bod dros y blynyddoedd i wario mwy o'r arian sydd ar gael - yn hytrach na gwario'r llog blynyddol yn unig - dywedodd cadeirydd y gymdeithas wrth Cymru Fyw ei fod yn credu mai rheolaeth gofalus oedd un o'i brif rinweddau.

"Does na'm dwywaith ein bod yn ffodus iawn ar Ynys Môn i gael yr arian yma, ac mae wedi elwa cannoedd o glybiau a phrosiectau dros y blynyddoedd," dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.

"Ond y teimlad oedd bod na le i bobl yr ynys roi eu mewnbwn i'r penderfyniadau hefyd, a bod y gymdeithas braidd yn fawr 'efo 30 neu 35 o gynghorwyr.

"Dwi'n meddwl fod 'na lot o le i longyfarch y rheiny wnaeth benderfynu gosod yr ymddiriedolaeth, dros 30 mlynedd yn ôl erbyn hyn, a mae o wedi'i weithredu'n dda iawn ond dwi'n credu fod hi'n amser am newid a mae hyn yn gam mawr ymlaen a gwahodd syniadau newydd hefyd.

"Dwi'n wybodol fod na sawl un wedi dangos diddordeb yn barod, sy'n argoeli'n dda a bod pobl yn teimlo bod y gymdeithas yn beth da.

"Y peth mwyaf ydy fod y politics wedi'i gadw allan ohono erioed, a dwi'n meddwl mai dyna 'di'r peth gora' i'r dyfodol hefyd."

Y dyddiad cau am geisiadau i fod yn ymddiriedolwr yw dydd Sul, 14 Awst. Mae mwy o fanylion ar gael yma.

Pynciau Cysylltiedig