Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Tŷ Penrhyn: 'Y ganolfan sy'n newid bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Mae cymuned mor bwysig wrth adfer o gaethiwed'

Wrth gerdded drwy ddrysau Tŷ Penrhyn mae yna deimlad aruthrol o deulu ac o berthyn.

I drigolion y ganolfan adferiad yma ym Mangor, maen nhw i gyd yn yr un cwch, ar yr un daith, er bod rhai ymhellach ar y llwybr nac eraill.

Un thema sy'n codi dro ar ôl tro yn y sgyrsiau a gefais yno, ydy bod y ganolfan yn gallu newid bywydau.

Maen nhw'n coginio a bwyta gyda'i gilydd, yn rhannu pob cyfrinach a phryder - y cyfan yn rhan o'r broses o adferiad, yn ôl y trigolion.

'Cymryd drosodd fy mywyd'

Am ddegawd roedd Catrin Owen o'r Felinheli yn gaeth i heroin.

Fe ddaeth i Dŷ Penrhyn am y tro cyntaf bum mlynedd yn ôl, a byw yma am dair blynedd a hanner. Mae'n dweud i'w chyfnod yno achub ei bywyd.

"O'n i'n stryglo gymaint efo addiction, o'n i'n methu gweld ffordd allan, methu cael yn lân," meddai.

"'Nes i ddechra' dod i fa'ma wedyn ac ma' bywyd fi just 'di newid massively."

Pan dwi'n gofyn i Catrin pam ei bod hi'n teimlo felly, mae'n dweud ei bod hi'n "gweld bod 'na fywyd arall i gael".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin yn dweud ei bod hi wedi ceisio stopio cymryd cyffuriau ers blynyddoedd, cyn cael cymorth gan Dŷ Penrhyn

"Dwi'm yn gorfod troi at gyffuriau i gael drwy'r diwrnod," meddai.

"Ma' gynno fi fywyd rŵan - tro blaen o'dd gennai ddim llawer o fywyd."

Er nad yw hi'n byw yno bellach, mae hi'n yn cynnal gwersi ymarfer corff boxercise yn wythnosol i'r trigolion.

Mae'n gweithio mewn canolfan adferiad preifat, ac yn dweud wrtha' i ei bod yn llwyr ymwybodol pa mor anodd ydy ceisio gwella.

"O'dd yr addiction really 'di cymeryd drosodd bywyd fi - i'r pwynt lle o'n i'n methu byw bywyd heb gymeryd rhywbeth, ac am flynyddoedd nes i drio stopio. O'n i'n methu.

"Nes i symud i fa'ma, peth gora' nes i oedd symud i mewn."

'O'n i'n teimlo'n unig'

Cyn-hostel ieuenctid yw Tŷ Penrhyn, gafodd ei datblygu gan y sylfaenydd James Deakin yn 2014 er mwyn gwella, yn ei farn ef, y ddarpariaeth i rai sydd eisiau adferiad.

Mae pawb sy'n gweithio yn y ganolfan yn deall profiad y trigolion - gan eu bod nhw hefyd ar daith adferiad eu hunain.

"[Mae] wedi bod yn struggle fawr," meddai Catrin. "Ond efo addiction fedrwch chi'm 'neud o ar ben eich hun.

"'Dach chi angen cael pobl sy'n mynd drwy'r un peth o gwmpas chi."

Dyna farn Dewi Rowlands hefyd - fe dreuliodd gyfnod yn byw yn y ganolfan gan fod ganddo broblem yfed.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dewi Rowlands ei fod wedi defnyddio alcohol i guddio problemau eraill

"Trwy fynd i Penrhyn House, nes i actually sylweddoli bod gen i broblem alcohol sydd yr un peth â lot o bobl eraill," meddai.

"O'n i'n teimlo'n reit unig, o'n i'n teimlo fel bod rhywbeth yn wrong efo fi, ond just salwch ydi o ar ddiwedd y dydd.

"Ac efo rhyw salwch mae 'na ffordd i gael yn well, ac ma' bod yn rhan o gymuned recoverybest thing I've ever done."

Mae'r dyn 29 oed, yn dweud mai yn araf deg y datblygodd y broblem alcohol.

"Naeth o ddechra' off yn reit subtle - methu diwrnoda' gwaith, ffraeo efo pobl, dim pres ac ma' hynna'n cael effaith, fath â snowball effect," meddai.

"O'n i'n defnyddio alcohol i maskio bob dim, i dynnu'r teimladau drwg i ffwrdd."

'Pedair potel o wisgi y dydd'

Bellach mae Dewi yn gwirfoddoli i Dŷ Penrhyn, wrth iddyn nhw adeiladu gardd gymunedol o gwmpas Maes Tryfan ar Ffordd Ffriddoedd.

Wrth gymryd egwyl o'i waith gyda chribyn, mae'n dweud wrtha' i mai proses ydy gwella.

"Dwi 'di cael llwyth o ups and downs… mae'n anodd fel person ifanc i aros yn abstinent.

"Ond be' ma' Penrhyn 'di dysgu fi, pan ti'n disgyn drosodd get back up."

Yn yr ardd hefyd dwi'n cwrdd â Gary Squires. Mae'r dyn 60 oed yn byw yn y ganolfan ers naw mis, a bu'n yfed yn drwm am 30 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Ar ei gyfnod gwaethaf mae Gary'n dweud ei fod yn yfed pedair potel o wisgi y dydd

Flwyddyn a hanner yn ôl mae'n dweud iddo ddod yn agos at farw. Ar ei waethaf roedd yn yfed pedair potel o wisgi y diwrnod.

"Pan 'dych chi'n yfed mor drwm â hynna, 'dach chi'n isolatio, 'dach chi'm isio neb," meddai.

"O'n i'n gwybod bod gen i broblem fawr tua saith mlynedd yn ôl. Dwi di bod 'nôl ac ymlaen [efo detox].

"Y tro dwytha oedd y pedwerydd tro, yr ail y flwyddyn yna, 2021, ond o'n i'n yfad, mynd am bedair potel y diwrnod bryd hynny."

'Dim lle arall fel hyn'

Er gwaetha'r cymorth yn Nhŷ Penrhyn, mae Gary'n dweud wrtha' i bod adferiad yn anodd.

"Dwi 'di cael relapse pythefnos yn ôl ac o'dd rhaid i mi gael o i ddod at fy hun.

"Dwi'n gwybod be' neith ddigwydd os nai relapsio yn iawn… fyddai'm yma i siarad efo chdi.

"Dwi 'di bod yn yfwr mawr a 'swn i 'nôl ar bedair potel y dydd, dwi'n gwybod hynny.

"Felly mae'n bwysig rŵan i mi gymryd sylw efo'r AA (Alcoholics Anonymous) a'r 12 steps, recovery a rehab."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin bellach yn cynnig gwersi boxercise wythnosol i drigolion Tŷ Penrhyn

Mae Tŷ Penrhyn eisiau symud i safle arall yn y ddinas flwyddyn nesaf.

Mae'n nhw'n gobeithio gallu datblygu hen ysgol breifat Hillgrove ar Ffordd Ffriddoedd, safle fyddai'n rhoi mwy o le ac adnoddau gwell i'r preswylwyr.

I Catrin, a gweddill y rhai y siaradais gyda nhw, does dim amheuaeth eu bod nhw'n cyfrif eu bendithion am y gefnogaeth yno.

"Ma'r lle ma really yn amazing - does na'm lle arall fel hyn yng Nghymru," meddai.

"Dwi dal yn gallu dod yma heddiw even though dwi'm yn byw yma, ond dwi dal yn part o'r gymuned.

"Felly dwi'n meddwl bod hynna'n bwysig iawn, bod pobl efo rhywle i fynd, achos ma' recovery, mae o am byth.

"'Di o'm yn just gorffen y munud pan 'dach chi 'di 'neud y treatment, mae o'n lifelong dydy."

Os ydych wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o'r materion yn y stori hon, mae gan BBC Action Line gymorth a chyngor.

Pynciau Cysylltiedig