Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Tro pedol Ysgrifennydd Cymru wrth gefnogi Truss yn lle Sunak

  • Cyhoeddwyd
Syr Robert BucklandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Syr Robert Buckland yw'r aelod cabinet cyntaf i ddatgan ei fod wedi newid ei gefnogaeth o Sunak i Truss

Ysgrifennydd Cymru yw'r aelod cabinet cyntaf i ddatgan yn gyhoeddus ei fod wedi newid ei feddwl o ran pwy ddylai arwain y Blaid Geidwadol.

Wrth ysgrifennu ym mhapur y Daily Telegraph, dywedodd Syr Robert Buckland mai Liz Truss oedd y "person cywir i symud y wlad ymlaen".

Yn wreiddiol, roedd wedi datgan ei gefnogaeth i'r cyn-ganghellor Rishi Sunak, gan dynnu sylw at ei brofiad a'i benderfyniadau.

Mae Mr Sunak wedi ennill pob pleidlais ymhlith ASau Ceidwadol, ond mae Ms Truss yn prysur ennill cefnogaeth aelodau'r blaid.

Mae'r ddau ymgeisydd yn teithio o amgylch y DU ar hyn o bryd mewn cyfres o hystings - digwyddiadau lle maen nhw'n ateb cwestiynau ac yn rhannu eu cynigion ag aelodau'r blaid.

Bydd aelodau'n bwrw eu pleidlais dros yr wythnosau nesaf a bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 5 Medi.

Yn ei erthygl, dywedodd Syr Robert ei fod wedi cefnogi Mr Sunak yn y lle cyntaf gan iddo deimlo, yn ystod y rowndiau lle'r oedd ASau yn dewis y ddau ymgeisydd terfynol, mai fe oedd yr "ymgorfforiad yr oedden ni ei angen".

"Gan fod yr ymgyrch wedi symud yn ei blaen, a gan fy mod i wedi gwrando'n ofalus ar y ddau ymgeisydd, dw i wedi meddwl yn ddwys am y materion sy'n fy ysgogi a'r hyn dw i eisiau gweld y prif weinidog nesaf yn ei wneud.

"Dyw newid eich meddwl ar fater fel hyn ddim yn beth hawdd i'w wneud, ond dw i wedi penderfynu mai Liz Truss yw'r person iawn i symud y wlad ymlaen," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rishi Sunak a Liz Truss yn ymgeisio i fod yn Brif Weinidog nesaf y DU

Dywedodd Syr Robert iddo newid ei feddwl a chefnogi Ms Truss yn rhannol gan iddi addo mynd i'r afael â'i bryderon am y Bil Hawliau, sef darn o ddeddfwriaeth sydd wedi ei gynnig fyddai'n disodli'r Ddeddf Hawliau Dynol.

Ychwanegodd ei fod eisiau gweld y prif weinidog nesaf yn blaenoriaethu twf, gan ddweud fod hynny'n allweddol os yw'r llywodraeth eisiau gwneud "gwir wahaniaeth i bobl".

"Mae cynlluniau [Ms Truss] yn rhoi'r cyfle gorau i ni gyrraedd ein potensial gydag economi ffyniannus a chynhyrchiol sydd angen arnom ni," dywedodd.

Mae economi'r DU, ynghyd a lefelau presennol trethi a chyfradd chwyddiant, yn faterion canolog i ymgyrch Ms Truss.

Mae wedi cynnig torri trethi'n syth tra bod Mr Sunak wedi dweud y dylent gael eu gadael tan i chwyddiant ddod dan reolaeth.

Fe bwysleisiodd Syr Robert hefyd bod angen "undod o fewn y blaid" waeth pa ymgeisydd fydd yn ennill.

"Allwn ni ddim disgwyl cael y cryfder sydd ei angen o fewn y llywodraeth os yw'n plaid wedi ei hollti'n ddwy erbyn diwedd yr haf," dywedodd.