Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Y Bencampwriaeth: Blackpool 0-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Andy FisherFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd hi'n ddechrau digon araf i'r gêm yn Blackpool brynhawn Sadwrn a sawl ymgais i gyrraedd cefn y rhwyd yn methu gan y naill dîm a'r llall.

Serch hynny, fe wnaeth Abertawe sicrhau buddugoliaeth gyntaf y tymor, wedi sawl ymgais i gyrraedd cefn y rhwyd.

Fe fethodd Ben Cabango un o'u cyfleoedd gorau ond fe lwyddodd yr Elyrch i wrthsefyll unrhyw ymgais gan eu gwrthwynebwyr hefyd.

Cafodd Blackpool gic gosb ond llwyddodd Andy Fisher i arbed gan Jerry Yates.

O'r diwedd fe ddaeth gôl i Abertawe a honno gan Olivier Ntcham gyda chymorth Michael Obafemi.

Fe geisiodd y par gyrraedd cefn y rhwyd funudau'n ddiweddarach, ond roedd un yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.