Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Adran Dau: Bradford 2-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Declan DrysdaleFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Declan Drysdale gerdyn coch

Roedd hi'n brynhawn siomedig i Gasnewydd oddi cartref yn erbyn Bradford.

Cafodd y tîm cartref ddwy gôl - un ohonyn nhw o fewn saith munud i ddechrau'r gêm gan Smallwood.

Cyn i'r chwiban chwythu ar gyfer hanner amser, daeth cerdyn coch i Drysdale o Gasnewydd.

Er i'r Cymry obeithio am well ail hanner, fe bylodd eu gobeithion yn ddigon buan gyda gôl gan Chapman i Bradford wedi 53 munud.

Er gwaethaf ymdrechion Casnewydd gyda deg dyn yn unig ar y cae, doedd dim gwella ar y perfformiad.

Fe orffennodd y gêm yn 2-0 i'r tîm cartref.