Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Lluniau: Bywyd ar fferm fynydd yn Ardudwy

  • Cyhoeddwyd
ffermwr yn lapio gwlanFfynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Lapio gwlân ar ddiwrnod cneifio yn Hendre Waelod, Cwm Nantcol

Mae'r ffotograffydd Mari Lloyd yn tynnu lluniau masnachol, tirluniau a theuluoedd yn ei gwaith o ddydd i ddydd, ond mae ei lluniau o'r gymuned ffermio y cafodd ei magu ynddi ar lethrau'r Rhinogydd yn Ardudwy, Gwynedd, yn llafur cariad sy'n agos iawn at ei chalon.

Yn bedwerydd cenhedlaeth o ffermwyr mynydd yn Hendre Waelod, Cwm Nantcol, aeth Mari ati i gofnodi ei hetifeddiaeth amaethyddol cyn iddo ddiflannu ar ôl dechrau gradd mewn ffotograffiaeth yn y brifysgol.

"Ar ôl colli Nain yn 2013 ddaru fi sylweddoli pwysigrwydd cael lluniau teulu, a pa mor werthfawr ydynt mewn blynyddoedd i ddod," meddai Mari wrth Cymru Fyw.

"Ar ôl pori drwy hen albums oedd gan Nain ddaru fi ddechra' tynnu dipyn o luniau o fy nhaid, dogfennu ychydig ar ei fywyd ac ymweld â gwahanol leoliadau fuodd yn rhan o'i fagwraeth. Roedd ffermio yn rhan fawr o hyn.

Ffynhonnell y llun, Mari Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Meurig Jones, Hendre Waelod, taid Mari

"Tra'n astudio cwrs gradd mewn ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Caer, fi oedd yr unig berson ar y cwrs oedd o gefndir ffarmio felly o'n i'n gweld hyn yn gyfle gwych i wneud fy ngwaith ychydig yn wahanol i'r myfyrwyr eraill yno.

"Felly dyma fi'n mynd ati a seilio'r rhan fwyaf o fy mhrosiectau ar fy milltir sgwâr, sef Cwm Nantcol ger Llanbedr."

Ffynhonnell y llun, Mari Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Hefin Lloyd, tad Mari, gyda Barney y ci defaid

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod cneifio

"Fi ydi'r pedwerydd cenhedlaeth ar ein ffarm ni felly roeddwn yn gweld hi'n ddyletswydd arna'i i ddogfennu y ffordd yma o fyw," meddai Mari.

"Fe wnes i hefyd ddogfennu ychydig ar fy rhieni, bywyd ffermio, portreadau lleol, a tirluniau.

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Hefin a Morfudd Lloyd, tad a mam Mari

"Cefais fy magu yn Bronaber, Trawsfynydd, sef cartref fy nhad, ond roeddem yn ymweld â Nain a Taid ar fferm Hendre Waelod (cartref Mam) bob un penwythnos a gwyliau'r ysgol gan bod 'na waith angen ei wneud yn aml iawn.

"Felly mae genna' i atgofion melys iawn o fod yn blentyn yn y cwm ac ar y ffarm. Rydym bellach yn byw yn Cwm Nantcol ers 2007.

Ffynhonnell y llun, Mari Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Hel mynydd gyda'r cymdogion

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Cymdogion yn casglu o amgylch y bwrdd yn fferm Graig Isaf

"Er mwyn portreadu bywyd ffarmio, mi oedd 'na wahanol elfennau o'n i'n trio eu dangos drwy'r lluniau a rhai o'r rheiny oedd:

  • Y ffermwyr yn eu tirwedd ac efo'u hanifeiliaid.

  • Cenedlaethau - roedd yr ieuengaf yn dair oed a'r hynaf yn 88 ar y pryd felly roedd cael amrywiaeth o wahanol oedran yn dangos beth oedd y dyfodol i rai o'r ffermydd.

  • Roedd hi hefyd yn bwysig cael lluniau ymhob tymor er mwyn dangos bod gwaith y ffarm yn gorfod cario ymlaen beth bynnag yw'r tywydd.

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Nia gydag oen bach

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Bugail yn yr eira, Hendre Waelod

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Sganio defaid yn y gwynt a'r glaw, 2018

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Dau frawd, Dylan a Gwyndaf Evans Maes y Garnedd

"Erbyn heddiw dwi'n dogfennu ychydig ochr allan i'r cwm gan ymweld â gwahanol seli defaid a gwartheg yn Nolgellau.

Ffynhonnell y llun, Mari Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Arwerthiant hyrddod Cymreig, Dolgellau 2021

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Ocsiwnïar yn ceisio cael y pris gorau ym marchnad Dolgellau yn 2014

"Dwi wrth fy modd yn cael lluniau bwrlwm y sêl a'r holl gymeriadau. Mae cael mynd i'r mart yn bwysig iawn i lawer o ffermwyr, dyma'r unig ffordd i rai gael cymdeithasu, gweld cymdogion a hen ffrindia', felly mae'n braf dogfennu hyn.

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Cyfle am sgwrs ym marchnad Dolgellau 2023

Ffynhonnell y llun, Mari Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae marchnad Dolgellau yn ganolbwynt i fywyd amaethyddol yr ardal

"Dwi'n troi'r lluniau yn ddu a gwyn yn aml iawn, er mwyn canolbwyntio ar y cymeriadau dwi'n eu tynnu. Dwi'n teimlo bod lluniau du a gwyn yn adrodd stori mewn ffordd trawiadol ond syml.

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Evans, Pen Isa'r Cwm, yn codi wal, 2018

Ffynhonnell y llun, Mari Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Evie Morgan Jones, Cefn Uchaf 2018

"Dwi'n mwynhau pori drwy hen luniau a dwi'n gobeithio y bydd teuluoedd yn hel atgofion tra'n pori drwy'r lluniau dwi'n eu tynnu mewn blynyddoedd i ddod."

Ffynhonnell y llun, Mari lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Y genhedlaeth nesaf: Nia a Lewis yn bwydo llo bach

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig