Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

'Dim byd gwaeth' nag ymosodiad gan gŵn ar ddefaid

Mae ffermwr o Ddyffryn Ystwyth wedi rhannu hanes ymosodiad "trychinebus" gan gŵn ar ei ddefaid, gan alw ar bobl i barchu'r anifeiliaid a'r bobl sy'n byw yng nghefn gwlad.

Daw wrth i gwmni yswiriant NFU Mutual rybuddio perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol os yn ymweld â chefn gwlad Cymru dros y Pasg.

Dywedodd y cwmni fis diwethaf fod cost ymosodiadau cŵn ar dda byw wedi mwy na dyblu rhwng 2022 a 2023.

Fe wnaeth dau gi ymosod ar ddefaid Wyn Evans ar ei fferm rhwng Tregaron ac Aberystwyth bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd Mr Evans fod y profiad wedi cael effaith sylweddol ar ei iechyd meddwl.

Gyda'r cŵn a oedd yn gyfrifol heb gael eu dal yn dilyn y digwyddiad, dywedodd ei fod yn poeni hefyd y gallai'r cŵn ddychwelyd ac ymosod ar ei anifeiliaid eto.

"Ma' fe'n hanfodol o bwysig i bobl barchu'r anifeiliaid sy'n byw yng nghefn gwlad, ac i barchu'r bobl sy'n gweithio yng nghefn gwlad.

"O brofiad, does dim byd gwaeth na gweld defaid diniwed yn cael eu hymosod gan gŵn - mae'n beth ofnadwy i weld."