Ymgyrch Ysgol Cribyn: Cywydd gan Ianto Jones
Mae ymgyrch gymunedol ar droed i gydbrynu hen safle Ysgol Cribyn yng Ngheredigion.
Bwriad Cymdeithas Clotas yw datblygu'r lle yn neuadd gymunedol ac yn gartref fforddiadwy.
Mae'n rhaid iddyn nhw godi £175,000 cyn mis Gorffennaf.
Maen nhw'n dweud eu bod hanner ffordd drwy eu hymgyrch a bod yr arian eisoes yn cronni a'r diddordeb yn tyfu.
Maen nhw wedi gosod chwe wythnos o amser iddyn nhw'u hunain i godi'r arian.
I nodi eu bod hanner ffordd drwy'r cyfnod ac i gadw'r diddordeb, cynhaliwyd 'parti hanner ffordd' yn yr ysgol nos Wener, gyda lansiad cywydd arbennig gan fardd lleol, Ianto Jones.