Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

'Sioc' Cymry yn Awstralia wedi ymosodiadau Sydney

Mae dau o Gymru sy'n byw yn Awstralia wedi disgrifio'r sioc yn y wlad wedi i chwech o bobl gael eu trywanu i farwolaeth yn un o ardaloedd prysuraf Sydney.

Mae o leiaf wyth yn rhagor yn yr ysbyty, gan gynnwys babi naw mis oed, ar ôl ymosodiad gan ddyn â chylell fore Sadwrn - 15:10 amser Sydney - yng nghanolfan siopa Westfield yn ardal Cyffordd Bondi y ddinas.

Yn ôl adroddiadau lleol mae mam y babi ymhlith y rhai a fu farw.

Yn ôl yr heddlu, fe gafodd dyn 40 oed - oedd yn cario cyllell fawr - ei saethu'n farw gan blimones a aeth i'w herio ar ei phen ei hun yn ystod yr ymosodiad.

Dywed Heddlu New South Wales nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymosodiad, ac os ydyn nhw'n gywir ynghylch pwy roedd y dyn, does dim lle i amau fod hwn yn achos o derfysgaeth.

Newydd symud i Sydney o Gaerdydd mae Anni Davies ac fe roedd hi yn y ganolfan siopa, sydd ychydig filltiroedd o draeth enwog Bondi, ddydd Gwener.

Dywedodd ei bod "wedi teimlo'n hollol saff" yna, a'i bod wedi nabod rhai o'r siopa wrth edrych ar y lluniau teledu o'r safle wedi'r gyflafan.

Roedd y newyddiadurwr Andy Bell yn ymwelydd cyson â'r ganolfan pan roedd yn arfer byw yn y ddinas.

Dywedodd mai dyma'r gyflafan waethaf yn y wlad ers y 1990au.

Cymro arall sydd wedi byw yn Awstralia ers dros 40 mlynedd yw Geraint Jones.

Mae ei gartref yn Sydney yn agos iawn i Ganolfan Siopa Bondi Junction lle ddigwyddodd yr ymosodiad.

"O'n i'n clywed sŵn yr ambiwlansys ac wedyn ro'dd helicopters yn hedfan uwchben, ac o'n i'n gwybod bod rhywbeth wedi digwydd.

"Es i allan tu fas, reit ar bwys y siopau, ond roedd yr heddlu yn stopo chi rhag mynd yn agosach oherwydd y peryg."

Mewn cyfweliad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Jones bod y cyfan yn "sioc ofnadwy" i'r gymuned leol.

"Ma' blodau wedi cael eu rhoi lawr ar bwys y siopau, a dyw pobl methu credu'r peth... does dim byd fel hyn wedi digwydd yma o'r blaen."