Main content

Help llaw cymunedol

Mae pobl yn dod at ei gilydd ar draws Cymru i roi tro ar wirfoddoli ac i ddathlu’r rhai sy’n cynnig cymorth yn eu hardaloedd lleol.

Mae yna nifer o elusennau a sefydliadau sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr ac mae gwefan The Big Help Out yn rhestru’r cyfleoedd sydd ar gael, o gynorthwyo unigolion bregus i gefnogi ym meysydd chwaraeon, diwylliant, yr amgylchedd neu’r celfyddydau.

Cofrestrwch nawr ac o Fai’r 8fed dewch ynghyd i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned.

Byddwn yn rhannu straeon am wirfoddoli a hanes The Big Help Out ar draws y BBC.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ar draws Cymru.

Bwydo teuluoedd

Mae rhoi cymorth i eraill o fewn ein cymuned yn beth rhwydd i’w wneud a gall cyfrannu bwyd wneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig yr amser yma o’r flwyddyn.

Rydym ni eisiau helpu, felly dyma restr o’r banciau bwyd sydd yn fodlon derbyn cyfraniadau.

Mae cyngor ar yr hyn a fedrwch ei gyfrannu a lle medrwch fynd a’r cyfraniad hwnnw, yn cael ei nodi ar wefannau’r banciau bwyd sydd yn eich ardal chi. Cliciwch isod am fwy o wybodaeth.

Mi fyddwn yn rhannu mwy am waith y banciau bwyd yng Nghymru ar Radio Cymru drwy gydol mis Rhagfyr.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth y Nadolig hwn.

Cliciwch ar linciau y gwefannau isod i gael mwy o wybodaeth

  • FareShare – gwybodaeth i gyflenwyr a gwneuthurwyr ar sut i gyfrannu bwyd dros ben sy’n iawn i’w fwyta
  • Give Food – dewch o hyd o fanciau bwyd sy’n derbyn cyfraniadau yn lleol i chi
  • Independent Food Aid Network – rhwydwaith sy’n gweithredu ar draws y DU
  • Salvation Army – sefydliad sydd â phwyntiau cyfrannu ar draws y DU
  • The Trussell Trust – sefydliad sydd â phwyntiau cyfrannu ar draws y DU

Dolenni defnyddiol

2021

Cyfeiriad Ebost

Ebostiwch ni gyda straeon neu brofiadau am yr hyn sydd wedi ac sy’n gwneud gwahaniaeth, o bethau bach i bethau mwy [email protected]

Dolenni defnyddiol