Diweddarwyd: 3 Awst 2021
Mae unrhyw un o apiau's BBC y byddwch yn eu lawrlwytho i’ch dyfais symudol neu deledu yn gallu cael mynediad at rai mathau o ddata ar eich dyfais.
Mae rhywfaint o ddata’n cael ei gasglu’n awtomatig fel:
- Y math o ddyfais symudol rydych yn ei ddefnyddio
- “Dynodwr unigryw” (fel ID y ddyfais neu gyfeiriad IP)
- Gwybodaeth am sut mae ein apiau yn cael eu defnyddio.
Mae hyn yn gadael i'r ap eich cofio chi ac i roi pa bynnag gynnwys rydych wedi gofyn amdano.
Bydd rhai apiau yn gofyn am eich caniatâd (cydsyniad), i ddefnyddio’r data er mwyn cynnig nodweddion ychwanegol. Er enghraifft, mae ap Tywydd y BBC yn gofyn i ddefnyddio lleoliad eich dyfais (lefel Tref/Dinasi ) er mwyn rhoi'r tywydd lleol i chi. Nid yw ap Tywydd y BBC yn rhannu lleoliad eich dyfais. Mae lleoliad eich dyfais neu’r lleoliad ‘y chwiliwyd amdano’ yn cael ei storio ar eich dyfais am gyfnod o 4-6 awr, nid yw’r BBC yn storio eich gwybodaeth. Gallwch chi droi hwn ymlaen neu ei ddiffodd unrhyw bryd drwy osodiadau eich dyfais.
Er mwyn bod yn ddiogel...
Cofiwch ddarllen adran ganiatâd unrhyw ap cyn ei lawrlwytho. Dyma’r ffordd orau o ddeall yn union pa ddata y bydd yn ei gadw.
Gall apiau storio gwybodaeth ar eich dyfais hefyd
Er enghraifft, os ydych yn lawrlwytho rhaglen yn ap symudol iPlayer, bydd yn cael ei storio ar eich dyfais.