Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Am ba mor hir fyddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth?

Diweddarwyd: 2 Mehefin 2020

Pan rydych chi’n rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i ni, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ba mor hir y byddwn ni’n ei chadw. Os na  fyddwn ni'n dweud unrhyw beth, rydyn ni'n cadw at yr egwyddorion hyn:

  • Dim ond cyhyd ag y byddwn yn gwneud y gweithgareddau y dywedwyd wrthych amdanyn nhw y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth
  • Rydyn ni’n meddwl am ba fath o wybodaeth ydyw, faint a gasglwyd, pa mor sensitif y gallai fod ac unrhyw anghenion cyfreithiol
  • Rydyn ni’n cynllunio ein gwasanaethau fel nad ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth am gyfnod hirach nag sy'n rhaid i ni
  • Rydyn ni wastad yn meddwl am risgiau posib unrhyw un yn defnyddio neu'n rhannu'r wybodaeth yma heb ganiatâd
  • Efallai y byddwn ni’n cau eich cyfrif BBC os nad ydych chi wedi ei ddefnyddio yn y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn ni’n anfon e-bost atoch i ddweud ein bod ni’n bwriadu gwneud hynny cyn i ni ddileu unrhyw beth, felly ewch i’ch mewnflwch i weld os ydyn ni wedi anfon unrhyw e-byst ynglŷn â hyn

Beth os oes gen i gyfrif BBC?

Byddwn ni'n cadw'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni fel rhan o'ch cyfrif BBC tra bod gennych gyfrif gyda ni. Os ydych chi'n dileu eich cyfrif BBC, yna bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu yn syth a daw'r wybodaeth sy'n weddill yn ddienw. Efallai y byddwn yn ei defnyddio i'n helpu i wella ein gwasanaethau.

Beth os ydw i wedi anfon rhywbeth wnes i ei greu?

Os ydych chi wedi anfon unrhyw greadigaeth ynghyd â gwybodaeth bersonol, cymerwch olwg ar ein Telerau Defnyddio i weld sut rydyn ni'n storio rhain.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: