Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Stephen Williams yn ennill 'ras fawreddog ar y calendr seiclo'

Y Cymro, Stephen Williams, ydy'r seiclwr cyntaf o Brydain i ennill ras undydd La Flèche Wallonne yng Ngwlad Belg.

Ar ôl ennill y Tour Down Under ym mis Ionawr, hon ydy ei fuddugoliaeth fwyaf hyd yma.

Fe enillodd Williams, sy'n 27, y ras 124 milltir mewn amgylchiadau gwlyb ac oer.

Dywedodd Williams: "Rydw i mor hapus. Rydw i wedi gwylio'r ras gymaint o weithiau ar y teledu ac wedi breuddwydio o ddod yma gyda choesau da er mwyn ceisio ennill. Rydw i wrth fy modd."

"Fe welais i'r arwydd '300m i fynd' a meddwl os y gallai roi pump eiliad fewn i'r grŵp a mynd yn agosach at y lein, yna fe alla i ddal 'mlaen."

Dywedodd y sylwebydd Peredur ap Gwynedd bod y fuddugoliaeth yn dangos bod Williams yn "un o'r seiclwyr gorau yn y byd" ar hyn o bryd.