Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Polisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC

Diweddarwyd y dudalen: Ebrill 2024

 

Fersiwn 3.3

1. Beth sydd yn y polisi hwn?

Mae'r polisi hwn ar gyfer pan fyddwch yn y DU (gweler y polisi pan fyddwch y tu allan i’r DU). Mae’n dweud wrthych:

  • pa wybodaeth gallwn ei chasglu amdanoch chi
  • sut gallwn ddefnyddio’r wybodaeth yna
  • pryd gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi
  • pa wybodaeth amdanoch chi y gallwn ei rhannu gydag eraill
  • eich dewisiadau am y wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni

NÔL I'R BRIG

 

2. Beth mae’r polisi hwn yn ei gwmpasu?

Mae’r polisi hwn yn ymdrin â’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig.

Ac weithiau mae’n cwmpasu gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan rannau o’n sefydliad sy’n gweithredu fel cwmnïoedd ar wahân. Fel:

BBC World ServiceBBC StudiosBBC Studioworks, BBC Global News, BBC Media Applications Technology, BBC World Service Trading, Trwyddedu Teledu ac elusennau’r BBC.

Ond dim ond pan mae’r gwasanaethau’n cyfeirio at y polisi yma neu’n eich hysbysu fod y polisi’n berthnasol.

Eich penderfyniad chi yw faint o fanylion rydych chi eisiau ei wybod. Mae gennym negeseuon egluro amserol sy’n ymddangos pan rydyn ni’n gofyn i chi roi eich gwybodaeth bersonol. Ynghyd â beth sydd yn y Polisi hwn, efallai y bydd gan wasanaeth hysbysiad preifatrwydd byr. Yn yr hysbysiad preifatrwydd hwnnw, gallwch ddod o hyd i wybodaeth allweddol ynglŷn â beth rydyn ni‘n ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol pan rydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwnnw. Ac os ydych chi eisiau mwy o fanylion, edrychwch ar y pynciau hyn.

Beth sydd ddim yn cael ei gwmpasu yn y polisi hwn?

Weithiau mae ein gwasanaethau yn cael eu cysylltu â gwasanaethau cwmnïau eraill, fel agor trac o BBC Sounds ar wasanaeth cerddoriaeth arall fel Spotify. Mae gan y cwmnïay hyn eu polisïau preifatrwydd a chwcis eu hunain, felly cofiwch fod y wybodaeth rydych yn ei rhoi iddyn nhw yn dilyn eu rheolau nhw, nid ein rhai ni.

Weithiau, gallwch gael mynediad i’n gwasanaethau o lefydd eraill, fel tudalen BBC Radio 1 ar YouTube, neu ap BBC iPlayer ar eich teledu clyfar. Sicrhewch eich bod yn darllen eu polisi preifatrwydd nhw fel eich bod yn gwybod sut y byddan nhw’n defnyddio eich gwybodaeth.

NÔL I'R BRIG

 

3. Sut rydych chi’n diogelu fy ngwybodaeth bersonol?

Rydyn ni wedi ymrwymo i gadw eich gwybodaeth chi a’ch teulu yn ddiogel. Ac er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n cynllunio ein gwasanaethau, gyda’ch diogelwch mewn cof. Yn ogystal, mae gennym dimoedd penodol sy’n edrych ar ôl diogelwch a phreifatrwydd eich gwybodaeth.

Ar yr un pryd, ni all unrhyw wasanaeth fod yn gwbl ddiogel – os oes gennych unrhyw bryderon fod eich cyfrif BBC neu wybodaeth bersonol mewn perygl, er enghraifft os yw’n bosibilrwydd bod rhywun wedi cael gafael ar eich cyfrinair, cysylltwch â ni ar unwaith.

Ble rydyn ni’n storio eich gwybodaeth

Mae rhai cwmnïau sy’n darparu gwasanaethau i ni yn cynnal eu gwasanaethau y tu allan i’r DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Rydyn ni ond yn gadael i hynny ddigwydd os ydyn ni’n fodlon gyda’u lefelau diogelwch. Cofiwch, pan rydych chi’n rhoi gwybodaeth bersonol i ni, gallai gael ei throsglwyddo, ei storio neu ei phrosesu mewn lleoliad y tu allan i’r DU a'r EEA.

NÔL I'R BRIG

 

4. Pa fath o wybodaeth bersonol mae’r BBC yn ei chasglu amdanaf i?

Byddwn ni’n rhoi manylion ynglŷn â pham rydyn ni angen eich gwybodaeth bersonol a sut byddwn ni’n ei defnyddio cyn i chi ddechrau, oni bai ei bod hi’n amlwg.

a. Gwybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni

Efallai y byddwn ni’n gofyn i chi am eich enw a’ch manylion cyswllt, eich dyddiad geni neu fanylion ariannol, yn dibynnu ar beth rydych chi’n ei wneud. Os ydych chi’n gwneud cais i gymryd rhan mewn rhaglen wleidyddol, er enghraifft, efallai y byddwn ni’n eich holi ynglŷn â’ch safbwyntiau gwleidyddol. Gallai gwybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni gynnwys gwybodaeth sydd mewn creadigaeth rydych yn ei rhannu â ni, fel enwau’r bobl sy’n ymddangos yn y greadigaeth honno.

Pan rydych chi’n cofrestru am gyfrif BBC, neu’n diweddaru eich manylion neu osodiadau, rydyn ni’n gofyn am rywfaint o wybodaeth bersonol, fel eich cyfeiriad e-bost a’ch oedran.

b. Gwybodaeth am ddyfeisiau

Mae dyfais yn nifer o bethau, fel:

  • eich cyfrifiadur
  • eich ffôn symudol
  • eich teledu
  • eich tabled
  • eich dyfais a reolir â llais

Rydyn ni’n casglu peth gwybodaeth dechnegol o’r dyfeisiau a’r porwyr gwe yma yn awtomatig, hyd yn oed pam nad ydych chi wedi mewngofnodi i gyfrif BBC. Gall hyn gynnwys:

  • cyfeiriad IP (internet protocol)
  • ID y ddyfais
  • ID yr ap
  • ID y gwerthwr
  • ID yr hysbysebwr

c. Gwybodaeth am Leoliad

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth am eich lleoliad pan fyddwch yn defnyddio ein cynnyrch a’n gwasanaethau. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu a ydych chi yn rhywle lle mae gwasanaethau ar gael, yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni rhwymedigaethau ein Siarter ac i gynnig nodweddion ychwanegol tra’n defnyddio ein cynnyrch a’n gwasanaethau, fel rhagolygon y tywydd ar gyfer eich lleoliad.

Gellir pennu eich lleoliad ar lefel tref neu ddinas drwy:

  • GPS
  • Cyfeiriad IP
  • Gwybodaeth am dyrau celloedd cyfagos a mannau sydd â mynediad i Wi-Fi

Mae pa fath o ddata lleoliad (er enghraifft Gwlad, Rhanbarth, Dinas neu Dref) sy'n cael ei gasglu yn dibynnu ar y cynnyrch neu'r gwasanaeth rydych chi'n eu defnyddio, y ddyfais rydych chi'n ei defnyddio (er enghraifft Apple neu Android) a gosodiadau eich dyfais (os yw’r caniatâd wedi'i alluogi neu ei ddiffodd). Gallwch newid eich caniatâd unrhyw bryd yng ngosodiadau eich dyfais. Gallwch ddarllen mwy am sut mae ein apiau yn cadw eich data yn ein canllawiau.

ch. Gwybodaeth am eich gweithgareddau y tu allan i’r BBC pan rydych chi’n siarad amdanon ni

Os ydych chi wedi sôn amdanon ni mewn neges Twitter, byddwn ni’n casglu eich enw Twitter.

d. Gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ein gwasanaethau

Fel yr erthyglau rydych chi’n eu darllen a’r rhaglenni rydych chi’n eu gwylio.

NÔL I'R BRIG

 

5. Am ba mor hir fydd y BBC yn cadw fy ngwybodaeth bersonol?

Pan rydych chi’n rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i ni, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ba mor hir y byddwn ni’n ei chadw. A wastad yn cadw at yr egwyddorion yma:

  • rydyn ni ond yn cadw eich gwybodaeth am mor hir ag ydyn ni’n gwneud y gweithgareddau y sonion ni wrthoch chi amdanyn nhw neu os oes gennym reswm dilys dros ei chadw
  • rydyn ni’n ystyried sut fath o wybodaeth ydyw, faint a gasglwyd, pa mor sensitif y gallai fod ac unrhyw anghenion cyfreithiol
  • rydyn ni’n cynllunio ein gwasanaethau fel nad ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth am hirach nag sy’n rhaid i ni
  • efallai y byddwn ni’n cau eich cyfrif BBC os nad ydych chi wedi ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn ni’n anfon e-bost atoch chi i ddweud ein bod ni’n bwriadu gwneud hyn cyn i ni ddileu unrhyw beth, felly ewch i’ch mewnflwch i weld os ydyn ni wedi anfon unrhyw e-byst am hyn.

NÔL I'R BRIG

 

6. Sut gallai’r BBC ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Mae’n rhaid i ni gael rheswm dilys dros ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, sef “sail gyfreithiol dros brosesu”. Weithiau, efallai y byddwn ni’n gofyn am eich caniatâd i wneud pethau, fel pan rydych chi’n cofrestru am e-bost. Dro arall, pan fyddech chi’n rhesymol ddisgwyl ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, nid ydyn ni’n gofyn am eich caniatâd, heblaw:

  • pan mae’r gyfraith yn dweud ei bod hi’n iawn i’w ddefnyddio, ac
  • mae’n cyd-fynd â’ch hawliau

Rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer y pethau yma:

a. darparu ein gwasanaethau ac i roi gwybodaeth i chi amdanyn nhw

b. ymateb i’ch ceisiadau, cwynion a chwestiynau

c. gweld os ydych chi’n defnyddio BBC iPlayer ac i gadw’r bas-data trwyddedu yn gywir ac yn gyfoes

ch. personoli gwasanaethau a rhoi mwy o bethau i chi sydd wedi eu teilwra

Mae eich cyfrif BBC yn eich caniatáu i bersonoli eich profiad o’r BBC ar-lein. Er mwyn gwneud hynny, rhaid troi ‘Allow Personalisation’ ymlaen wrth i chi greu eich cyfrif. Os ydych chi o dan 13 oed ac yn creu cyfrif, mae’r personoli wedi ei ddiffodd. Mae gwybodaeth ynglŷn â sut rydych chi’n defnyddio ein gwasanaethau ar-lein yn cael ei chysylltu â’r gwybodaeth arall rydych chi’n ei rhoi i ni, er mwyn teilwra eich profiad.

Os nad ydych chi eisiau i ni wneud hyn, gallwch ddiffodd y personoli yng ngosodiadau eich cyfrif. Os ydych chi o dan 13 oed, nid oes angen i chi wneud dim byd.

d. dangos hysbysebion perthnasol i chi ar safle cwmni arall

Fyddwch chi’n cysylltu â mi am resymau marchnata?

dd. ein helpu i ddeall sut fath o wasanaethau y byddech, o bosib, yn eu defnyddio

Ac weithiau sut gallwch rannu pethau â phobl eraill

e. argymell pethau rydyn ni’n meddwl fyddai o ddiddordeb i chi

Beth mae “Argymhellion i chi” yn ei olygu?

f. dangos hysbysebion pan rydych chi’n defnyddio gwasanaeth gan y BBC o tu allan i’r DU

Gall rhywfaint o’r hysbysebu hyn fod wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi.

ff. ymchwilio ac arloesi

Dydych chi ddim yn arbrawf, ond gallai gwybod sut rydych chi’n defnyddio ein gwasanaethau arwain at y datblygiad technolegol mawr nesaf.

g. cysylltu â chi ynglŷn ag amryw bethau

Pryd fydd y BBC yn defnyddio fy ngwybodaeth i gysylltu â mi?

NÔL I'R BRIG

 

7. Pryd fydd y BBC yn defnyddio fy ngwybodaeth i gysylltu â fi?

Efallai y byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi ynglŷn â phethau gwahanol, fel:

Byddwn ond yn cysylltu â chi pan rydyn ni angen gwneud hynny neu pan rydych chi wedi rhoi caniatâd i ni wneud.

Fyddwn ni byth yn cysylltu â chi i ofyn am eich cyfrinair i’ch cyfrif BBC.

NÔL I'R BRIG

 

8. Fyddwch chi’n cysylltu â fi am resymau marchnata?

Byddwn ond yn anfon e-byst marchnata neu’n cysylltu â chi ynglŷn â rhaglenni neu wasanaethau’r BBC, a’ch barn am faterion yn ymwneud â’r BBC os ydych chi wedi cytuno i hyn.

Cofiwch, hyd yn oed os ydych chi’n dad-danysgrifio, gallwn dal gysylltu â chi.

A fydd fy manylion personol yn cael eu defnyddio pan mae’r BBC yn hysbysebu gyda chwmnïau eraill?

Os oes gennych gyfrif BBC, efallai y byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi i ddangos hysbysebion sydd wedi eu targedu ar gyfer gwasanaethau’r BBC drwy safleoedd cwmnïau eraill, fel Facebook, Google, Snapchat neu Twitter er enghraifft. Gallai hyn gynnwys dangos neges sydd wedi ei noddi gan y BBC pan rydyn ni’n gwybod bod gennych chi gyfrif BBC ac wedi defnyddio gwasanaethau’r BBC.

Lle byddwn yn gwneud hyn, byddwn yn rhannu eich data mewn fformat hash gyda'r darparwyr hyn, felly pan fydd gennych gyfrif ar yr un platfform, byddwch yn gweld hysbysebion wrth y BBC. Yn y sefyllfaoedd hyn, rydyn ni’n rheolwyr ar y cyd gyda’r cwmnïau hyn oherwydd ein bod yn pennu’r dibenion a’r dulliau o brosesu eich data personol ar y cyd.

Rydyn ni hefyd yn asesu nodweddion penodol ein cynulleidfa er mwyn dod o hyd i eraill sy'n debyg iddynt i ddarparu hysbysebion i'r unigolion hynny.

Os nad ydych chi eisiau gweld hysbysebion wedi’u targedu, gallwch wneud eich dewisiadau o ran hysbysebion yng ngosodiadau eich cwmni cyfryngau cymdeithasol. Gallwch hefyd ymweld â’ch cyfrif BBC i’w ddiffodd.

NÔL I'R BRIG

 

9. Pryd mae’r BBC yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag eraill?

Fyddwn ni byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol. Rydyn ni’n ei rhannu ag eraill yn y ffyrdd canlynol:

a. Pan rydych chi’n gwneud rhywbeth yn gyhoeddus

Fel postio sylw y gall y cyhoedd ei weld.

b. Pan rydyn ni’n defnyddio cwmnïau eraill i gynnal ein gwasanaethau

Er mwyn i ni roi profiadau o safon i chi ac i ddeall sut rydych chi’n defnyddio ein gwasanaethau, rydyn ni’n aml yn defnyddio cwmnïau eraill i brosesu eich gwybodaeth bersonol ar ein rhan. Er enghraifft, anfon e-byst atoch ynglŷn â phethau rydyn ni’n meddwl fyddai o ddiddordeb i chi, i ofyn beth rydych chi’n ei feddwl am ein gwasanaethau, neu i ddadansoddi data ynglŷn â sut mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau digidol er mwyn i ni eu gwella.

Rydyn ni’n sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gwarchod yn union fel petaem yn delio â’r wybodaeth yn uniongyrchol. Rydyn ni’n dewis y cwmnïau hyn yn ofalus, ond yn rhannu beth maen nhw ei angen er mwyn gwneud y gwaith ac rydyn ni’n sicrhau eu bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel.

c. Pan rydyn ni’n rhannu gwybodaeth bersonol gyda chwmnïau o fewn teulu’r BBC

Beth mae’r polisi yma yn ymdrin ag ef?

ch. Pan rydych chi’n defnyddio gwasanaeth cwmni arall sy’n cysylltu â ni, fel dyfeisiau a reolir â llais a theledu clyfar

Gallwch gael mynediad at ein gwasanaethau drwy ddyfais a reolir â llais, e.e. Amazon Alexa, neu deledu clyfar. Mae’n rhaid i chi fewngofnodi i’ch cyfrif BBC er mwyn defnyddio gwasanaethau’r BBC ar eich teledu clyfar. Pan rydych chi’n gwneud hyn, byddwn yn rhannu gwybodaeth sy’n adnabod eich cyfrif BBC gyda’r cwmni sy’n cynnal y gwasanaeth rydych chi’n ei ddefnyddio. Gwiriwch bolisi preifatrwydd y cwmni hwnnw, fel eich bod yn gwybod sut bydd yn defnyddio eich gwybodaeth. Nid yw’r BBC yn gyfrifol pan rydych chi’n defnyddio un o wasanaethau’r BBC drwy wasanaethau cwmni arall. Eich dewis chi yw os hoffech chi ddefnyddio’r BBC fel hyn.

d. Pan rydyn ni’n gwneud gwaith ymchwil ar y cyd

Rydyn ni’n cynnal gweithgareddau ymchwil ac weithiau yn cydweithio gyda phartneriaid ymchwil. O dro i dro, rydyn ni’n rhannu ein cynnwys a‘n data gyda nhw. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth rydyn ni wedi ei chasglu amdanoch chi. Ond rydyn ni’n ofalus am beth rydyn ni’n ei rannu a beth gallai ein partneriaid ymchwil ei wneud ag ef.

dd. Trwyddedu Teledu

Rydyn ni’n rhannu rhywfaint o wybodaeth bersonol gyda Thrwyddedu Teledu, er mwyn gweld os ydych chi’n defnyddio BBC iPlayer ac i dgadw‘r bas-data trwyddedu yn gywir ac yn gyfoes.

e. Weithiau, yn gyfreithiol, maen rhaid i ni rannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau eraill

Efallai byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth os oes rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fydd angen i ni eich amddiffyn chi neu eraill rhag niwed.

NÔL I'R BRIG

 

10. Beth sy’n wahanol i blant a‘r rhai yn eu harddegau?

Mae gan y BBC wasanaethau sy’n addas blant a‘r rhai yn eu harddegau.

Dyma beth sy’n digwydd pan rydych chi’n eu defnyddio.

a. Pam rydyn ni’n casglu gwybodaeth amdanoch chi yn y lle cyntaf?

Rydyn ni’n cadw gwybodaeth amdanoch chi fel y gallwn:

b. Byddwn ni wastad yn dweud wrthoch chi pam rydyn ni’n casglu eich gwybodaeth bersonol

Byddwn ni’n egluro pam a sut byddwn ni’n ei defnyddio ac am ba mor hir, sef “hysbysiad preifatrwydd”. Ac os oes angen caniatâd rhiant neu warchodwr arnom, byddwn ni’n rhoi manylion clir ynglŷn â beth sydd ei angen ar y pryd.

c. Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol os oes gennym reswm dilys

Am ba mor hir fydd y BBC yn cadw fy ngwybodaeth bersonol?

ch. Rydyn ni’n rhannu gwybodaeth bersonol amdanoch chi gydag eraill ond rydyn ni’n dilyn rhai rheolau

Y prif reol yw na fyddwn ni byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un.

Pryd mae’r BBC yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag eraill?

d. Efallai y gofynnwn am eich oedran

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio rhannau o’r BBC sy’n addas chi. Er enghraifft:

  • fel bod oedolion ddim yn postio negeseuon ar fyrddau negeseuon i blant
  • pan rydych chi eisiau cael cyfrif BBC
  • pan rydych chi’n gwylio rhaglen, fel ar BBC iPlayer, ac mae’n anaddas

dd. Weithiau byddwn ni’n gofyn i chi am ganiatâd rhiant neu warchodwr

Byddwch chi’n cael hysbysiad. Gallwn hefyd ofyn am rywfaint o fanylion wrthyn nhw, fel y gallwn gysylltu â nhw. Dro arall, byddwn ni’n cysylltu â’ch rhiant neu warchodwr:

  • er mwyn i chi allu derbyn hysbysiadau gennym ni
  • er mwyn i ni ddangos mwy o bethau i chi rydyn ni’n meddwl fyddech chi’n eu hoffi, yn seiliedig ar beth rydych chi’n ei wneud
  • er mwyn i chi allu postio sylwadau
  • er mwyn i chi lwytho eich cyfraniad

e. Weithiau byddwn ni’n sôn am eich gweithgareddau wrth eich rhieni

Er enghraifft, os ydych chi’n ymgeisio yn un o’n cystadlaethau, efallai y byddwn ni’n cysylltu â’ch rhiant.

f. Pryd gallwn gysylltu â chi

Weithiau byddwn angen cysylltu â chi, ond byddwn ni wastad yn dilyn y rheolau hyn.

ff. Mae hi’n ddiogel i’n defnyddio ni

Ein swydd ni yw i cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Dyna pam rydyn ni’n cynllunio ein gwasanaethau gyda’ch diogelwch mewn cof. Ac rydyn ni wastad yn edrych am y ffyrdd gorau i wella hyn.

Mae yna hefyd bethau y gallwch chi eu gwneud i gadw’n ddiogel, fel meddwl am ba wybodaeth rydych chi’n ei rhannu a sut i gadw eich dyfeisiau’n ddiogel.

g. Pobl ac nid robotiaid fydd yn gwneud y penderfyniadau mawr sy’n effeithio arnoch chi

Sut mae fy ngwybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau?

ng. Efallai na fyddwch chi’n gallu defnyddio ein gwasanaethau os ydych chi tu allan i’r DU

Os ydych chi tu allan i’r DU, efallai na fyddwch chi’n gallu defnyddio rhai o’r gwasanaethau. Fel CBBC a CBeebies.

Ac efallai na fyddwch chi’n gallu cael cyfrif BBC. Mae’n ddrwg gennym am hyn.

h. Chi sy’n rheoli sut rydyn ni’n defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu trosglwyddo i’ch dyfais pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth.

Rydyn ni’n defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain er mwyn cael gwybodaeth ynglŷn â sut fath o ddyfais rydych chi’n ei defnyddio i gael mynediad at ein gwasanaethau ac rydyn ni’n cofnodi pethau fel pa wefannau rydych chi’n ymweld â nhw, eich cyfeiriad IP (rhif unigryw y mae eich dyfais yn ei greu bob tro rydych chi’n cysylltu â’r we) ac wneud pethau’n haws i chi, fel cofio lle wnaethoch chi gyrraedd mewn gêm neu pa emoji wnaethoch chi ei ddewis.

Gallwch ddiffodd rhai cwcis a thechnolegau olrhain tebyg. Neu gall eich rhiant neu warchodwr wneud hyn os ydych chi o dan 13 oed.

Allwch chi ddim diffodd rhai cwcis.

i. Beth rydyn ni’n ei wneud pan rydych chi’n cyhoeddi, llwytho cynnwys neu rannu creadigaeth

Pan rydych chi’n rhannu eich creadigaeth gyda ni, fe fyddwn ni’n ceisio dweud yn union beth rydyn ni am ei wneud gydag e.

l. Mae gennych chi hawliau preifatrwydd, yn union fel oedolion, felly dysgwch beth ydyn nhw

Gallwch:

Os ydych chi’n 13 oed neu’n hŷn, gallwch wneud hyn eich hun, ond nid bob tro. Weithiau byddwn ni’n gofyn i’ch rhiant neu warchodwr i wneud hyn.

Os ydych chi o dan 13 oed, mae’n rhaid i’ch rhiant neu warchodwr wneud hyn i chi.

Beth yw fy hawliau?

NÔL I'R BRIG

 

11. Ydw i’n gallu dileu fy ngwybodaeth?

Mae hyn yn dibynnu am ba wybodaeth rydych chi’n sôn.

a. Os ydych chi’n sôn am gyfrif BBC

Gallwch ddileu eich cyfrif. Mae manylion eich cyfrif yn cael eu dileu yn syth. Cofiwch:

  • rydyn ni’n cadw cofnod o sut rydych chi wedi defnyddio ein gwasanaethau, ond ni all y wybodaeth gael ei chysylltu â chi
  • rydyn ni hefyd yn cadw unrhyw beth rydych wedi ei lwytho neu wedi gwneud sylw arno

b. Beth am wybodaeth arall rydw i wedi ei rhannu â chi?

Efallai y byddwn ni wedi casglu gwybodaeth bersonol arall amdanoch chi y gallech ofyn i ni ei dileu, sydd â dim i’w wneud â'ch cyfrif BBC.

NÔL I'R BRIG

 

12. Beth yw fy hawliau?

Cofiwch, chi sy’n rheoli eich gwybodaeth bersonol.

Mae gennych hawl:

Cofiwch, weithiau fyddwn ni ddim yn gallu helpu. Fel os yw’r gyfraith yn ein hatal neu os yw’n ffurfio rhan o’n cynnwys newyddiadurol.

NÔL I'R BRIG

 

13. Sut mae’r BBC yn defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain tebyg?

a. Beth yw cwcis a thechnolegau olrhain?

Ffeiliau testun bach yw cwis sy’n cael eu trosglwyddo i’ch cyfrifiadur neu ffôn symudol pan fyddwch yn ymweld â gwefan neu ap.

Rydyn ni hefyd yn casglu darnau tebyg o wybodaeth olrhain.

b. Pam rydyn ni’n defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain eraill?

I wneud ychydig o bethau gwahanol:

  • i gofio gwybodaeth amdanoch chi, fel nad oes rhaid i chi ei rhoi i ni eto. Ac eto. Ac eto
  • i’ch cadw wedi mewngofnodi, hyd yn oed ar ddyfeisiau gwahanol
  • i’n helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau, fel ein bod ni’n gallu eu gwella
  • i ddarparu hysbysebion i wefannau y tu allan i’r DU
  • i’n helpu i bersonoli’r BBC ar eich cyfer chi drwy gofio eich dewisiadau a’ch gosodiadau. A lle wnaethoch chi gyrraedd mewn rhaglen er mwyn ail-ddechrau gwylio, hyd yn oed ar ddyfais wahanol
  • i weld os yw ein e-byst wedi cael eu darllen ac os ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n ddefnyddiol

c. Beth yw’r mathau gwahanol o gwcis?

Mae rhai cwcis wastad ymlaen pan rydych chi’n ymweld â ni, a gallwch chi ddim eu diffodd oni bai eich bod chi’n newid gosodiadau eich porwr. Rydyn ni’n galw rhain yn “cwcis sydd wir eu hangen”. Rydyn ni’n eu defnyddio sicrhau bod ein gwasanaethau digidol yn gweithio’n iawn ac yn bodloni gofynion a diddordebau’r gynulleidfa.

Rydyn ni hefyd yn defnyddio cwcis swyddogaethol, perfformiad a hysbysebu er mwyn gwneud y profiad yn un gwell. Gallwch droi’r rhain ymlaen neu eu diffodd, a gallwch wastad newid eich meddwl. Byddwn ond yn eu defnyddio os ydych chi’n cytuno i hynny.

Cofiwch fod yna gwcis eraill o gwmpas y lle gan gwmnïau eraill. Gallai’r “cwcis trydydd parti” yma olrhain sut rydych chi’n defnyddio gwefannau gwahanol, yn cynnwys ein un ni. Er enghraifft, efallai gewch chi gwci gan gwmni cyfryngau cymdeithasol pan welwch chi’r opsiwn i rannu rhywbeth. Gallwch eu diffodd, ond drwyddyn nhw, nid ni.

ch. Am ba mor hir mae cwcis yn para?

Mae rhai yn cael eu dileu pan rydych chi’n cau’r porwr ar eich gwefan neu ap. Mae rhai yn aros yn hirach, weithiau am byth, ac yn cael eu cadw ar eich dyfais fel eu bod yna pan rydych chi’n dychwelyd.

d. Sut rydw i’n rheoli fy nghwcis a thechnolegau olrhain?

Bydd cwcis sydd wir eu hangen wastad ymlaen pan fyddwch chi’n ymweld â ni. Ar eich ymweliad cyntaf â ni, byddwn ni’n sôn wrthoch am ein cwcis ac yn gofyn i chi ddewis pa gwcis allwn ni eu defnyddio. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy fynd i’ch gosodiadau.

Byddai stopio pob cwci, o bosib, yn golygu nad oes gennych chi fynediad at rai o wasanaethau’r BBC, neu y byddai rhai ddim yn gweithio’n iawn i chi.

Ffordd arall o reoli technolegau olrhain yw yng ngosodiadau eich dyfais.

NÔL I'R BRIG

 

14. Sut fydda i’n cael gwybod am newidiadau i’r polisi hwn?

Rydyn ni’n diweddaru’r polisi hwn weithiau. Os ydyn ni’n gwneud newidiadau pwysig, fel sut rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth bersonol, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi. Gall fod yn hysbysiad, yn e-bost neu‘n neges yn eich ap.

Os nad ydych chi’n cytuno â’r newidiadau, gallwch wastad stopio defnyddio ein gwasanaethau, dileu eich cyfrif a stopio rhoi mwy o wybodaeth bersonol i ni. Byddwn ni’n drist eich gweld chi’n mynd.

NÔL I'R BRIG

 

15. Sut alla i gysylltu â’r BBC?

Dysgwch fwy a chysylltwch â ni ynglŷn â’ch hawliau.

Am unrhyw gwestiynau neu sylwadau eraill ynglŷn â’r polisi hwn, siaradwch â’n Swyddog Diogelu Data. 

  • ar e-bost
  • drwy'r post: BBC Data Protection Officer, C/o DPO Team, Floor 6 C, London Broadcasting House, W1A 1AA

Os ydych chi tu allan i'r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data BBC Studios:

  • ar e-bost
  • drwy'r post: BBC Studios DPO, Regulatory Affairs, 1 Television Centre, 101 Wood Lane, Llundain, W12 7FA

Rydyn ni’n cael ein rheoleiddio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch hefyd gysylltu â nhw am gyngor a chymorth.

NÔL I'R BRIG

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: