Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Sut alla i ddileu fy ngwybodaeth?

Diweddarwyd y dudalen: 4 Ionawr 2022

Dyma yw hawl i ddileu, sydd hefyd yn cael ei alw yn 'hawl i gael eich anghofio'. Mae'r hawl yn golygu y gallwch ofyn i'ch gwybodaeth bersonol gael ei dileu.

Os oes gennych gyfrif BBC

Gallwch ddileu eich cyfrif BBC unrhywbryd.

Bydd hyn yn dileu unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn eich cyfrif. A bydd yn golygu y bydd unrhyw ddata am sut rydych wedi defnyddio'r BBC yn dod yn ddienw.

Ni fydd dileu eich cyfrif yn dileu unrhyw ddata rydych chi wedi ei rannu gyda'r BBC am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â'ch cyfrif BBC. Er enghraifft, os ymgeisiwch am Sioeau, Teithiau a Chymryd Rhan y BBC, byddwn yn cadw eich data fel y gallwn reoli'r gwasanaeth hwnnw a dweud wrthych am sioeau yn y dyfodol y buasech chi'n eu mwynhau o bosibl (os ydych chi wedi gofyn am gael diweddariadau). Nid yw 'chwaith yn berthnaol gyda sylwadau sydd wedi eu cyhoeddi ar-lein.

Beth am wybodaeth arall?

Mae hyn yn dibynnu ar y math o wybodaeth bersonol sydd gennym ni.

Weithiau, gallwn ddileu eich gwybodaeth, ond dro arall nid yw hi'n bosib, fel os yw'r gyfraith yn ein hatal. Os mai dyna'r achos, byddwn ni'n ystyried os allwn ni gyfyngu sut rydyn ni'n ei defnyddio.

Cyn i chi wneud cais, darllenwch ein canllaw i ddeall sut rydyn ni'n mynd i'r afael â hyn yn eich herthyglau newyddion, rhaglenni a chynnwys arall.

Yna gallwch gysylltu â ni, a fe fyddwn ni'n ystyried y rhesymau pam rydych chi eisiau i ni ddileu.

Cofiwch, pan rydyn ni'n cysylltu'n ôl â chi, efallai y byddwn angen prawf adnabod er mwyn i ni sicrhau mai chi yw chi.

Efallai fod yna achlysuron pan allwn ni ddim cwrdd â'ch gofynion.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: