Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Sut rydych chi'n casglu gwybodaeth amdanaf?

Diweddarwyd: 23 Ionawr 2023

Rydych yn darparu rhywfaint o wybodaeth eich hun

Er enghraifft, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfrif BBC:

  • Rhaid i unrhyw un o dan 13 oed roi ei ddyddiad geni a dewis enw defnyddiwr
  • Rhaid i unrhyw un rhwng 13 a 17 oed roi ei ddyddiad geni a chyfeiriad e-bost
  • Rhaid i unrhyw un dros 18 oed ddarparu ei gyfeiriad e-bost, cod post a dyddiad geni
  • Rydyn ni'n gofyn i bawb â pha rywedd rydych chi'n uniaethu. Gallwch ddewis benyw, gwryw neu unrhyw derm arall yr hoffech ei ddefnyddio. Mae yna hefyd opsiwn os hoffech chi beidio â dweud

Mae mwy o fanylion fan hyn ynglŷn â pham maen rhaid i chi roi gwybodaeth bersonol wrth i chi gofrestru

Rydyn ni’n casglu rhywfaint o wybodaeth yn awtomatig

Fel eich cyfeiriad IP, pa borwr a dyfais rydych yn ei ddefnyddio, neu ID eich dyfais. A gallwn ni ddweud pa dudalen we a’ch cyfeiriodd at y BBC drwy edrych ar wybodaeth o’ch porwr.

Rydyn ni'n casglu peth gwybodaeth er mwyn deall sut rydych chi'n defnyddio'r BBC ar-lein er mwyn rhoi BBC gwell i chi. Os ydych chi wedi mewngofnodi, mae eich cyfrif BBC yn eich caniatáu i bersonoli eich profiad o'r BBC ar-lein.

Gall unrhyw un o apiau’r BBC ar eich ffôn, tabled neu deledu storio gwybodaeth ar eich dyfais. A gallwn gael mynediad at y wybodaeth honno. A phan fyddwch chi’n gofyn am dywydd neu newyddion lleol, gallwch ddewis a ydych am roi mynediad i ni at leoliad eich dyfais.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am bethau rydych yn eu hychwanegu

Er enghraifft, os ydych yn ychwanegu sioeau yn BBC Sounds er mwyn gwrando arnyn nhw nes ymlaen ac i dderbyn y penodau diweddaraf wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau.

Mae rhagor o wybodaeth am ychwanegu fan hyn.

Sut mae'r BBC yn defnyddio fy ngwybodaeth?

Gwybodaeth bersonol

Mae gwybodaeth ynglŷn â'ch rhywedd, oed a lleoliad yn ein helpu i weld sut mae gwahanol bobl yn defnyddio'r BBC ac i sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth i bawb.

Ffordd arall rydyn ni'n gwirio'ch lleoliad cyfredol yw trwy eich cyfeiriad IP (Protocol Rhyngrwyd) a gwybodaeth arall am eich dyfais.

Rydyn ni’n defnyddio rhywfaint o’ch gwybodaeth bersonol i ddarparu ein gwasanaethau, rhoi argymhellion i chi am bethau y byddwch chi'n eu hoffi, ac i bersonoli rhannau o’r BBC, gan gynnwys hysbysebion pan fyddwch yn defnyddio’r BBC y tu allan i’r DU.

Hysbysebu ar wefannau eraill

Efallai y byddwn yn dangos negeseuon hyrwyddo wedi’u personoli ar safleoedd eraill. Er enghraifft, roi gwybod i chi am raglen newydd all fod o ddiddordeb i chi.

Alla i weld hanes popeth rydw i wedi’i wylio?

Pan fyddwch wedi mewngofnodi, bydd adran Fy Rhaglenni yn iPlayer yn dangos unrhyw raglenni rydych wedi’u gwylio’n rhannol. Felly gallwch barhau ag unrhyw beth nad ydych wedi’i orffen. Neu ddod o hyd i’r rhaglen nesaf mewn cyfres rydych wedi bod yn ei gwylio.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: