Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Beth yw’r rheolau ar gyfer gadael sylwadau a llwytho cynnwys?

Diweddarwyd: 20 Gorffennaf 2023

Cofiwch fod yr hyn rydych chi ac eraill yn ei bostio yn safbwyntiau personol, ac nid safbwyntiau’r BBC.

Rydyn ni wrth ein bodd pan rydych chi’n postio sylwadau ac yn llwytho creadigaethau. Diolch am ymuno â ni, ond plîs, peidiwch ag anfon unrhyw beth cas, digywilydd neu anghyfreithlon.

Yn fwy penodol, peidiwch â phostio dim:

  1. Sy’n amhriodol (sarhaus, ymosodol neu’n cas). Cofiwch fod gennym bolisi dim goddefgarwch o ran gamdriniaeth bersonol rhwng defnyddwyr
  2. Sydd ddim yn berthnasol (o ran y cynnwys gwreiddiol neu’r sgwrs bresennol). Mae hyn yn cynnwys gwneud sylwadau at ddibenion taflu’r sgwrs oddi ar ei echel gyda’r bwriad o drafod pwnc arall
  3. Sy’n tarfu neu sy’n difetha’r sgwrs i eraill wrth ei bostio gyda’r bwriad o darfu
  4. Sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol (eich manylion chi neu rywun arall)
  5. Sy’n rhoi plant neu gyfranwyr eraill mewn perygl
  6. Sy’n anghyfreithlon neu yn annog gweithgaredd anghyfreithlon
  7. Sy’n ddifrïol (yn niweidiol i enw da rhywun)
  8. Sy’n ddirmyg llys (unrhyw beth allai effeithio ar ganlyniad achos llys)
  9. A allai fod yn gam-wybodaeth neu'n anwybodaeth niweidiol
  10. Sy’n tarfu ar hawliau unrhyw un (gan gynnwys hawliau preifatrwydd)
  11. A gafodd ei wneud gan rywun arall, neu sy’n copïo creadigaeth rhywun arall
  12. Sydd wedi ei bostio er lles ariannol (hysbysebu, nawdd, ayyb.)
  13. Nad yw yn Saesneg (nid yw’r Gymraeg na’r Wyddeleg yn cael eu cefnogi)
  14. Sy’n cynnwys sbam neu lifeiriant (hynny yw, ailadrodd negeseuon tebyg neu ddiangen mewn ffordd sy'n tarfu)
  15. Sydd â dolenni i lawrlwythiadau (gan gynnwys PDFs), unrhyw beth a allai gynnwys feirysau, ysbïwedd, llen dalu etc., neu gynnwys sydd angen mewngofnodi
  16. Sy’n torri ein rheolau ar etholiadau a refferenda yn ystod cyfnodau o ymgyrchu swyddogol. Felly, dim defnyddio sloganau gwleidyddol, dim pleidleisio, dim annog eraill i bleidleisio mewn ffordd arbennig a dim sôn am bwy wnaethoch chi bleidleisio amdano ar y diwrnod pleidleisio ei hun
  17. Sy’n dynwared rhywun arall – yn enwedig defnyddiwr arall – heb fwriad i darfu
  18. Sy’n cael ei bostio o gyfrif a grëwyd er mwyn goresgyn cyfyngiadau cymedroli neu i achosi aflonyddwch
  19. Nad yw’n cydymffurfio â gweddill ein Telerau Defnyddio.

Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth a gyflwynwyd wedi torri'r rheolau hyn, defnyddiwch y nodwedd adrodd o fewn yr hyn a gyflwynir. Ni ddylech roi gwybod am rywbeth oherwydd eich bod yn anghytuno â’i safbwyntiau’n unig.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: