Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Teyrnged i fenyw 'ryfeddol' fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw menyw a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf.
Roedd Trudy Williams yn 28 oed ac o ardal Nantyffyllon, Maesteg.
Bu farw wedi i ddau gar fynd benben â'i gilydd ar yr A4063 ym Maesteg ychydig cyn 21:30 nos Fercher, 10 Awst.
Cafodd dau berson oedd yn y car arall fân anafiadau yn y gwrthdrawiad.
Mae Ms Williams wedi ei disgrifio mewn datganiad ar ran ei theulu fel person "rhyfeddol" oedd yn byw bywyd llawn, gan gynnwys gwirfoddoli gyda gorsaf radio ysbyty Rookwood Sound Radio.
"Roedd hi'n garedig, meddylgar a hyfryd tu mewn a thu allan," medd y teulu.
"Fe wnaeth hi gyffwrdd bywydau gymaint o bobl mewn gymaint o ffyrdd.
"Roedd hi'n llwyddo ym mron popeth roedd yn mynd ati i'w wneud a rydym yn gwybod y byddai wedi mynd ymlaen i gyflawni gymaint yn fwy mewn bywyd."
Ychwanegodd y teulu eu bod "eisiau i Trudy gael ei chofio am yr holl bethau da y mae hi wedi eu gwneud", gan ddiolch i'r holl wasanaethau brys am eu hymdrechion i geisio achub ei bywyd.
Dynes, 28, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llangynwyd
Cafodd dau berson arall eu hanafu yn dilyn "gwrthdrawiad penben" yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.