Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Dynes, 28, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llangynwyd

  • Cyhoeddwyd
digwyddiad

Mae dynes wedi marw a dau berson arall wedi cael eu hanafu yn dilyn "gwrthdrawiad penben" yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Huyndai glas a Renault Clio glas ar yr A4063 ym mhentref Llangynwyd, ger Maesteg nos Fercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ffordd tua 21:20 a bu'n rhaid cau rhan o'r ffordd am gyfnod.

Dywedodd Heddlu'r De bod gyrrwr yr Hyundai, dynes 28 oed o ardal Maesteg, wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd gyrrwr a theithiwr y Renault Clio eu cludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, a hynny gyda mân anafiadau.

Bu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd ar y safle i gynorthwyo'r heddlu, sydd wedi apelio ar unrhyw un â gwybodaeth neu fideo dashcam i gysylltu gyda nhw.