Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Efelychu camp y llynedd yw’r nod i fenywod rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ioan Cunnigham, rheolwr Cymru, a'r capten Hannah JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ioan Cunnigham, rheolwr Cymru, a'r capten Hannah Jones

Gyda phencampwriaeth rygbi Chwe Gwlad y merched yn cychwyn y penwythnos hon, ein gohebydd chwaraeon Catrin Heledd sy'n trafod gobeithion y tîm cenedlaethol ar gyfer y twrnamaint.

Efeylchu camp y llynedd a gorffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yw'r nod i fenywod Cymru yn ôl eu prif hyfforddwr nhw, Ioan Cunningham. Mae cau'r bwlch gyda dau o gewri'r gamp, Ffrainc a Lloegr, hefyd yn flaenoriaeth meddai.

 phencampwriaeth tîm y dynion a'r tîm dan ugain wedi gorffen, mae'r sylw nawr yn troi at gystadleuaeth y menywod - sy'n dechrau gyda gêm gartref yn erbyn yr Alban ym Mharc yr Arfau ar 23 Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Megan Davies yn paratoi am sgrym yn erbyn Iwerddon ym mhencampwriaeth y llynedd

Llynedd roedd 'na dair buddugoliaeth i Gymru yn y Chwe Gwlad: yn erbyn yr Alban, Iwerddon a'r Eidal. Fe arweiniodd hynny at y crysau cochion yn gorffen yn drydydd yn y tabl - eu canlyniad gorau yn y bencampwriaeth ers 2009. Fe godon nhw hefyd i'r chweched safle ar restr detholion y byd a sicrhau eu lle yn haen ucha'r gystadleuaeth rygbi newydd ryngwladol i Fenywod, y WXV.

Adeiladu ar hynny sy'n rhaid, yn ôl Ioan Cunningham.

"Y'n ni moyn 'neud yr un peth â wnaethon ni tymor dwetha'... dechrau yn dda a mynd un cam ymhellach a chau'r bwlch gyda Ffrainc a Lloegr.

"Ni'n edrych mlaen yn fawr i ddechrau. Mae cyffro yn y garfan. Ni dal yn trio tyfu gydag un llygad ar y Cwpan y Byd nesa'. Mae lot o chwaraewyr yn haeddu bod mewn a haeddu cael eu cyfle."

Lloegr ar y brig?

Lloegr yw'r ffefrynnau unwaith eto i gipio'r bencampwriaeth. Maen nhw'n anelu am eu pumed Camp Lawn yn olynol. Ffrainc yw'r unig dîm ar bapur all herio hynny gyda'r ddau yn cwrdd ar benwythnos ola'r bencampwriaeth yn Bordeaux fis Ebrill.

Eleni hefyd mae nifer o ganllawiau newydd yn cael eu cyflwyno. Fe fydd enwau pawb ar eu crys a chloc y gic yn cael ei ddefnyddio, ynghyd â'r gallu i newid cerdyn melyn i fod yn un coch o fewn deng munud os oes angen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lloegr yw'r ffefrynnau i ennill y bencampwriaeth eto eleni

Mae Ioan Cunningham wedi dewis carfan o 37 ar gyfer y bencampwriaeth hon gyda saith sydd eto i ennill cap rhyngwladol yn eu plith: Jenny Hesketh, Cath Richards, Molly Reardon, Jenni Scoble, Gwennan Hopkins, Mollie Wilkinson a Sian Jones. Mae ambell i wyneb cyfarwydd hefyd wedi gadael yn y flwyddyn diwethaf: Caryl Thomas, Elinor Snowsill ac yn fwy diweddar Sioned Harries.

Yn ôl y capten, Hannah Jones, mae'r gwaed newydd yn beth da.

"Ma' lot o wynebau newydd sy'n creu cystadleuaeth, sy'n beth da. Ni'n gallu cymryd hyder o bencampwriaeth y llynedd. Mae sialens 'da ni, gyda Cwpan y Byd a'r WXV ar y gorwel, ond ni moyn bod yn y tri ucha'.

"Ni'n gyffrous iawn i fod gartref ar gyfer y gêm gynta'; y dorf, ffrindiau a theulu yn gwylio. Mae'n grêt i gael e' ym Mharc yr Arfau.

"Ac fe fydd cael gêm ola'r ymgyrch yn y Principality yn grêt. Ni wedi bod yn breuddwydio am chwarae yn stadiwm gore y byd. Bydd eisiau torf dda i gefnogi ni yn erbyn yr Eidal."

A gyda Pharc yr Arfau dan ei sang ar gyfer gêm Cymru v Lloegr y llynedd, gyda 8,862 yn gwylio, y nod yw gweld y gêm yn tyfu eto yn yr ymgyrch hon.