Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Euro 2024: Pwy yw'r Pwyliaid?

  • Cyhoeddwyd
polandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gêm rhwng Cymru a Gwlad Pwyl yn Stadwim y Mileniwm, 2001, pan enillodd y Pwyliaid 2-1

Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Y Ffindir mae Cymru un cam i ffwrdd o gyrraedd Pencampwriaethau Euro 2024, ac mae'r genedl yn gobeithio y gall gwŷr Rob Page ddod dros y cymal olaf ar 26 Mawrth.

Bydd buddugoliaeth yn erbyn Gwlad Pwyl yn golygu fod Cymru wedi cyrraedd pedair o'r pum brif gystadlaethau rhyngwladol diwethaf, dipyn o gamp i wlad â phoblogaeth o 3.2 miliwn.

Mae Cymru'n ddiguro mewn saith gêm, ac mae'r hyder i'w weld yn uchel drwy'r garfan. Ond beth am y gwrthwynebwyr? Dyma rywfaint o wybodaeth am dîm cenedlaethol Gwlad Pwyl...

Ymgyrch Euro 2024

Gorffennodd Gwlad Pwyl yn drydydd yng Ngrŵp E yn rowndiau rhagbrofol 2024, tu ôl i Albania a'r Weriniaeth Tsiec. Enillodd Gwlad Pwyl dair gêm allan o wyth, gan ennill un a cholli un erbyn Moldova ac Albania, a gêm gyfartal a cholled yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

Collodd Gwlad Pwyl 3-2 yn erbyn Moldova yn Chișinău er yr oeddent 0-2 ar y blaen ar hanner amser.

Yn dilyn y golled i Albania ym mis Mehefin 2023 fe gollodd y rheolwr, Fernando Santos, ei swydd.

Yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle fe enillodd Gwlad Pwyl 5-1 yn erbyn Estonia.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gwlad Pwyl yn gyfforddus yn erbyn Estonia yn Warsaw ar nos Iau, 21 Mawrth

Dros y blynyddoedd: Cymru v Gwlad Pwyl

Mae Cymru a Gwlad Pwyl wedi chwarae yn erbyn ei gilydd 10 gwaith, gyda Chymru'n ennill ond un o'r gemau hynny. Enillodd Cymru 2-0 yn y gêm gyntaf rhwng y gwledydd ym mis Mawrth 1973, gyda Gwlad Pwyl yn ennill 3-0 mewn gêm yn hwyrach yn y flwyddyn.

Gemau cyfartal 0-0 oedd i ddilyn yn y ddwy gêm wedi hynny yn 1991 ac 2000. Ers hynny mae Gwlad Pwyl wedi ennill y chwech diwethaf rhwng y ddwy wlad.

Ond mae'n werth nodi fod y chwe cholled wedi bod mewn gemau tynn iawn, gyda Gwlad Pwyl yn ennill 1-0 ar dri achlysur, 2-1 ddwywaith, ac 3-2 mewn gêm yn 2004.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr presenol Cymru, Rob Page, yn trio tawelu ffrae mewn gêm rhwng Cymru a Gwlad Pwyl yn Stadiwm y Mileniwm, 2001. Enillodd y Pwyliaid 2-1 y diwrnod hwnnw

Detholion y byd

Mae Gwlad Pwyl yn y 30ain safle yn netholion FIFA, gyda Chymru un safle yn uwch yn y 29ain safle.

Stadiwm cenedlaethol

Stadiwm genedlaethol Gwlad Pwyl yw'r Stadion Narodowy yn Warsaw, gyda lle i 58,500 o bobl. Cafodd ei agor yn 2012 ac roedd yn un o'r lleoliadau ar gyfer Pencampwriaethau Euro 2012.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Stadion Narodowy yn eistedd ar lannau Afon Vistula sy'n llifo drwy'r brifddinas

Y rheolwr

Michał Probierz yw rheolwr y Pwyliaid. Mae'n 51 mlwydd oed ac yn dod o ddinas Bytom yn ne'r wlad - dinas a oedd yn rhan o'r Almaen o 1742 i 1945.

Mae gyrfa reoli Probierz wedi bod yn llwyr yng nghynghreiriau Gwlad Pwyl, heblaw am gyfnod gyda Aris Thessaloniki yng Ngwlad Groeg yn 2011-12.

Cafodd Probierz ei benodi fel rheolwr y tîm cenedlaethol ym mis Medi 2023, ac mewn pum gêm wrth y llyw ei record yw ennill tair a dwy gêm gyfartal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michał Probierz yn reolwr ar dîm dan-21 Gwlad Pwyl rhwng 2022 a 2023

Sêr y gorffennol

Ymysg y chwaraewyr gorau i chwarae dros Wlad Pwyl mae Jakub Błaszczykowski, a oedd yn asgellwr Borussia Dortmund, Kazimierz Deyna a dreuliodd amser gyda Manchester City yn 1970au hwyr a 1980au cynnar, a Grzegorz Lato a aeth mlaen i gael gyrfa mewn gwleidyddiaeth.

Hefyd ymysg yr enwogion o Wlad Pwyl mae Zbigniew Boniek, a enillodd llu o dlysau gyda Juventus, ac ef oedd hefyd un o sêr amlycaf Cwpan y Byd 1982.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o sêr y byd pêl-droed ar ddechrau'r 1980au, Zbigniew Boniek, yn chwarae dros Juventus yn 1982

Sêr heddiw

Mae gan Wlad Pwyl chwaraewyr sy'n chwarae yng nghynghreiriau gorau Ewrop. Mae Jakub Kiwior yn chwarae yng nghanol amddiffyn y tîm cenedlaethol, ond mae'n chwarae fel cefnwr chwith i Arsenal, ac mae wedi creu dipyn o argraff y tymor hwn.

Wojciech Szczesny o Juventus sy'n y gôl, sydd yn gyn-chwaraewr Arsenal ei hun, ac mae Jan Bednarek o Southampton hefyd yn yr amddiffyn.

Chwaraewr Aston Villa, Matty Cash, yw'r dewis arferol fel cefnwr de, ond mae amheuaeth os fydd yn chwarae yn dilyn anaf yn erbyn Estonia yn y rownd gynderfynol.

Yn arwain yr ymosod mae dau sydd, fel Szczesny, yn chwarae yn Yr Eidal; Piotr Zielinksi yn Napoli a Karol Swiderski sydd gyda Verona.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jakub Kiwior, Wojciech Szczesny a Piotr Zielinksi; tri sydd efo profiad o chwarae ar y lefel uchaf dros eu clybiau

Robert Lewandowski

Ond mae'n gwbl addas bod y gŵr yma'n cael is-bennawd ac adran ei hun, oherwydd mae'n cael ei ystyried gan lawer fel un o chwaraewyr gorau'r byd dros y ddegawd ddiwethaf.

Gyda 82 gôl mewn 147 ymddangosiad dros ei wlad ers ei gap cyntaf yn 2008, mae Lewandowski wedi bod yn destun cur pen i amddiffynwyr ledled Ewrop ers blynyddoedd.

Dros Bayern Munich fe sgoriodd 344 gôl mewn 375 gêm, cyn symud i Barcelona yn 2022. Mae bellach yn 35 mlwydd oed, a'r tymor yma mae wedi sgorio 20 gôl mewn 39 gêm i'w glwb.

Ond yn ddiweddar mae cefnogwyr Gwlad Pwyl wedi disgyn allan o gariad gyda'r ymosodwr, wedi iddo farnu meddylfryd ei gyd-chwaraewyr a ffrae ynglŷn â thaliadau bonws rhyngddo ef a gweddill y garfan. Yn dilyn pleidlais gan gefnogwyr chwaraeon y wlad yn ddiweddar cafodd Lewandowski ei enwi fel y 17eg yn netholion hoff bersonoliaethau'r byd chwaraeon.

Er nad yw'n boblogaidd gyda'r cefnogwyr yn bersonol, mae ei sgiliau pêl-droed dal yn ennyn parch a bydd y cefnogwyr eisiau ei weld ar ei orau yn erbyn Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Robert Lewandowski 344 gôl dros Bayern Munich rhwng 2014 a 2022

Pwyliaid alltud

Mae yna amryw o chwaraewyr o dras Pwylaidd sydd wedi cynrychioli gwledydd eraill; Laurent Koscielny gyda Ffrainc, Paulo Dybala gyda'r Ariannin, a James Tarkowski, Paul Konchesky a Phil Jagielka'n cynrychioli Lloegr.

Ond mae'n debyg mai'r ddau enwocaf dros y blynyddoedd diweddar yw Miroslav Klose a Lukas Podolski. Cafodd y ddau eu geni yng Ngwlad Pwyl - Klose yn Gliwice ac Podolski yn Gliwice. Y ddau yma oedd yn arwain yr ymosod wrth i'r Almaen ennill Cwpan y Byd yn 2014. Sgoriodd Klose 71 gôl dros Yr Almaen mewn 137 gêm, ac ef sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau erioed yng nghystadlaethau Cwpan y Byd (16).

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Klose a Podolski; dau enillwr Cwpan y Byd a gafodd eu geni yng Ngwlad Pwyl

Y Cymry Pwylaidd

Ond mae 'na hefyd Gymry o dras Pwylaidd a chwaraeodd dros ein tîm cenedlaethol.

Cafodd Dick Krzywicki ei eni yn Llannerch Banna ger Wrecsam yn 1947. Roedd yn fab i rieni Pwylaidd a ddaeth i Brydain yn syth wedi'r Ail Ryfel Byd. Roedd tad Krzywicki yn garcharor yn Auschwitz, ac fe wnaeth ei fam hefyd ddianc o ddalfa Natsïaidd.

Chwaraeodd Krzywicki dros glybiau West Bromwich Albion ac Huddersfield Town ar ddiwedd y 60au a dechrau'r 70au. Enillodd wyth cap dros Gymru rhwng 1969 a 1971.

Chwaraeodd Tara, merch Krzywicki i Gymru gan ennill chwe chap rhyngwladol, cyn newid gyrfa i fod yn redwraig pellter hir. Mae ei fab Nick yn golffiwr proffesiynol.

Roedd Eddie Niedzwiecki, gafodd ei eni ym Mangor yn 1959 yn fab i Bwyliaid - enillodd dau gap rhwng 1985 ac 1987. Hefyd o dras Pwylaidd oedd Ray Mielczarek o Gaernarfon, a chwaraeodd dros Gymru yn 1971.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Krzywicki ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Dwyrain Yr Almaen ar 22 Hydref 1969, gyda Chymru'n colli 3-1

Hefyd o ddiddordeb: