Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Athro yn cyfaddef gweithgarwch rhywiol gyda disgybl

  • Cyhoeddwyd
Ieuan BartlettFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae athro yn wynebu dedfryd o garchar wedi iddo gael rhyw gyda disgybl yn ei chartref.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Ieuan Bartlett, 29, wedi mynd mewn i'r eiddo pan nad oedd ei rhieni gartref.

Roedd Bartlett yn gwybod y byddai'n cael ei ddal ar gamera pe bai'n defnyddio'r prif ddrws, felly byddai wastad yn defnyddio'r drws ochr.

Fe blediodd yn euog i 12 cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn, a hynny ar ôl i reithgor fethu a dod i ddyfarniad.

Clywodd y llys fod Bartlett wedi meithrin perthynas rhywiol gyda'r ferch ac wedi rhoi pwysau arni i rannu lluniau noeth o'i hun.

'Cymryd mantais o'i rôl'

Dywedodd yr erlynydd Matthew Cobbe yn ystod yr achos bod y ferch wedi troi at Bartlett am gymorth, a'i fod wedi camddefnyddio ei bŵer.

"Fe wnaeth Mr Bartlett gymryd mantais o'i rôl - roedd y ferch yn ymddiried ynddo, ac am fisoedd fe wnaeth o greu perthynas agos rhwng y ddau," meddai.

Ychwanegodd Mr Cobbe fod y ferch wedi dechrau gweld Bartlett mewn sesiynau un i un yn yr ysgol lle'r oedd o'n gweithio, a'i fod wedi manteisio ar y cyfle hwnnw i feithrin perthynas rhwng y ddau.

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Bartlett wedi rhoi pwysau ar y ferch i yrru lluniau anweddus pan oedd hi'n 16 oed

Dywedodd y ferch wrth yr heddlu y byddai Bartlett yn gwneud iddi feddwl ei fod o eisiau bod mewn perthynas â hi, ac eisiau byw gyda hi unwaith yr oedd hi'n gadael coleg.

"Byddai wastad yn dweud ei fod yn fy ngharu, a'i fod yn caru bob dim amdana i," meddai.

16 oed oedd y ferch pan gafodd hi gais gan Bartlett i yrru lluniau anweddus iddo, a dywedodd hi ei bod "dan bwysau i wneud hynny" a'i bod yn "crio wrth anfon y lluniau".

Fe ychwanegodd bod y ddau wedi cael rhyw yn ystod tymor yr ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol, er bod Bartlett, yn wreiddiol, wedi gwadu i'r ddau fod mewn perthynas rywiol yn ystod y tymor.

Dywedodd Mr Cobbe fod y negeseuon testun rhwng y ddau yn ei gwneud hi'n "gwbl amlwg" fod y ddau mewn perthynas o natur rywiol am yn hirach nag yr oedd Bartlett yn ei gyfaddef.

Dywedodd yr amddiffyniad fod yr achos wedi cael effaith difrifol ar iechyd meddwl Bartlett a'i fod bellach yn mynd i sesiynau cwnsela.

Mae Bartlett yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Mai.

Pynciau Cysylltiedig