Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Pen-blwydd Hapus Dewi Llwyd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Dewi Llwyd wedi gohebu ar sawl digwyddiad hanesyddol bwysig dros y degawdau

Mae un o gyflwynwyr amlyca'r byd darlledu Cymraeg, Dewi Llwyd, yn cael ei ben-blwydd yn 70 oed.

Mae wedi holi sawl person adnabyddus am eu penblwyddi nhw eu hunain ar ei raglen 'Bore Sul' rhwng 2008 tan 2021, ond Dewi fydd yn cael sylw Cymru Fyw y tro hwn.

Mewn gyrfa hir, mae Dewi Llwyd wedi bod yn bresennol mewn sawl digwyddiad hanesyddol bwysig dros y blynyddoedd.

Roedd yno i weld Nelson Mandela yn cael ei ethol yn Arlywydd De Affrica yn 1994. Fe gyhoeddodd canlyniad 'Ie' i ddatganoli i bobl Cymru yn 1997, yn ogystal â chanlyniad Brexit yn 2016.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dewi Llwyd i'w glywed yn cyflwyno Dros Ginio ar ddyddiau Gwener ar BBC Radio Cymru

Ymunodd â'r BBC yn 1979 ac ar ôl cyfnod fel Gohebydd Seneddol Cyntaf S4C aeth ymlaen i gyflwyno rhai o raglenni mwyaf adnabyddus y BBC ar S4C gan gynnwys Newyddion, Pawb a'i Farn, Maniffesto a Taro Naw.

Daeth ei gyfnod fel cyflwynydd y rhaglen Newyddion i ben yn 2012 pan olynodd Gareth Glyn fel Prif Gyflwynydd newydd y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru.

Fe gyflwynodd y rhaglen am saith mlynedd tan 2019. Mae'n parhau i gyflwyno rhaglen Dros Ginio ar ddyddiau Gwener ar Radio Cymru.

I ddathlu ei ben-blwydd, mae Cymru Fyw wedi creu casgliad o glipiau o Dewi yn gohebu ar rai o straeon mawr y byd a Chymru dros y degawdau.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig