Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Lle oeddwn i: 50 mlynedd o Mynediad am Ddim

  • Cyhoeddwyd
Mynediad am Ddim ddoe a heddiwFfynhonnell y llun, Graham Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Mynediad am Ddim ddoe a heddiw. Mae'r band yn chwarae nifer o gyngherddau ar draws Cymru dros y 12 mis nesa

Cofio dy Wyneb, Ceidwad y Goleudy, Hi yw fy Ffrind... rhai o glasuron cerddoriaeth Gymraeg erbyn hyn ond gafodd eu perfformio gyntaf gan grŵp a ffurfiodd er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Rhyng-gol 1974 ac sy'n dal i berfformio heddiw.

Wrth i Mynediad am Ddim ddathlu'r hanner cant gyda thaith dros y 12 mis nesaf, un o'r aelodau gwreiddiol, Emyr Wyn, sy'n cofio nôl i ddyddiau cynnar y grŵp, a gafodd ei sefydlu gan griw o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Dwi'n meddwl bod e'n syniad collective i gychwyn y grŵp. Ro'n i'n sicr wedi cael fy nylanwadu fel unigolyn gan grwpiau gwahanol fel Tebot Piws, Dyniadon Ynfyd, Ac Eraill - ac er doedd dim grŵp fel y cyfryw yn Aber ar y pryd, roedd yna grwpiau wedi bod a rhai yn gadael pan oedden ni'n dechre.

Roedd Hefin Elis wedi gadael coleg ac wedi dechrau Edward H, ac roedd Hergest. Ond roedd chwaeth gerddorol fi a gweddill Mynediad yn wahanol ac roedden ni'n meddwl dyle fod mwy o ganu gwerin.

Roedd 'na dipyn o ganu yn digwydd yn Aber ar y pryd - roedd 'na ganu mewn tafarndai yn digwydd ar hyd yr amser. Emynau fwy na dim arall o'dd yn cael eu canu ac roedden ni'n rhyw deimlo y dylen ni fod yn canu caneuon gwerin, dim jest emynau mewn tafarn.

Felly roedd stôr o ganeuon oedden ni wedi mynd ati i ddysgu dros ryw ddwy flynedd - fel Fflat Huw Puw, Brethyn Cartref, Gwenno Penygelli a phethe fel yna.

Ffynhonnell y llun, Graham Pritchard

Gan fod ni i gyd gyda rhyw fath o lais, bydden ni'n arwain y canu mewn tafarndai, ac roedden ni gyd wedi canu yn unigol, wedi ein trwytho yn yr Eisteddfod ac ati. Felly roedd yn naturiol i ni ddod at ein gilydd i'r Steddfod.

Eisteddfod Rhyng-gol union 50 mlynedd yn ôl oedd hi - fis Chwefror 74, pan oedd y Steddfod yng Nghaerdydd. Cystadleuaeth parti neu grŵp gwerin oedd e.

Ac rodd Elfed Lewys yno (y baledwr, gweinidog ac arweinydd gyda'r Urdd) ac 'wy'n cofio fe'n dweud "ma' 'da chi rywbeth bois, sa i'n siŵr cweit be', ond ma' 'da chi rywbeth" ac fe wnaeth e annog ni i gario mlaen a dyna wnaethon ni.

Ffynhonnell y llun, Graham Pritchard

Roedd gan Graham (Pritchard) grŵp arall o'r enw Tudfwlch Hir, a Mei (Jones) ac Iwan (Roberts) yn canu 'da Coes Glec felly wnaeth Robin (Evans) a fi ryw fath o press gango pawb i ffurfio grŵp - achos roedden ni i gyd yn ffrindiau.

Felly daeth Tudfwlch a Coes Glec i ben gan fod Mynediad am Ddim wedi eu poachio nhw.

Dylanwad Ems

Mewn dim roedd hanner dwsin o ganeuon gyda ni ac fel ma'r pethe ma'n digwydd un diwrnod, yn eistedd yn y gornel roedd myfyriwr oedd ar ei drydydd coleg - sef Emyr Huws Jones. Ro'n i'n ei nabod e gan fod e gyda'r Tebot Piws a dyma fe'n dweud un noson "'ma gen i chydig o ganeuon os hoffech chi gael nhw..."

A wedes i "gad ni glywed nhw". Yn Neuadd Pantycelyn siŵr o fod oedden ni - ac yn sydyn roedd gyda ni ganeuon fel Arica, Fi, Ceidwad y Goleudy, Cofio dy Wyneb - drodd y 'chydig o ganeuon' yn nifer o ganeuon ni wedi canu byth ers hynny.

Erbyn Eisteddfod Criccieth yn 1975 roedden ni wedi bod gyda'n gilydd mwy neu lai ers blwyddyn yn gwneud y set yma o ryw 15 caneuon. Cymysgedd o ganeuon gwerin, rhai Ems, a'r rhai gwreiddiol cyn Ems.

Roedd 'da ni dri neu bedwar gig yng Nghricieth yn '75. Roedd Huw Jones (Sain) yn un a wedodd e'n syth 'dwi ishe chi ddod i'r stiwdio i wneud record' a dyna wnaethon ni yn '75 - dyna'r record cynta' o 5 LP.

O fewn dim roedd Sbardun wedi ymuno gyda ni ac aeth pethau'n rhemp, a gafon ni lot o sbort a dechre teithio - Cymru, yr Alban, Llydaw ac Iwerddon.

Ffynhonnell y llun, Graham Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

I dathlu'r pen-blwydd, bydd Mynediad am Ddim yn perfformio 20 o gyngherddau ar draws Cymru gan gynnwys ym Mangor, Bala, Aberdaron, Yr Eisteddfod Gendlaethol, Crymych, Mynydd y Garreg, Pontyberem, Felinfach, Trawsfnynydd a'r Drenewydd

Erbyn heddiw mae caneuon fel Mi Ganaf Gân, Llanddwyn, Hi yw fy Ffrind, Ceidwad y Goleudy yn dal i gael eu clywed - a nifer wedi eu canu gan bobl fel Bryn Fôn, fersiynau ffantastig - ac mae'n braf i weld pobl eraill yn eu canu nhw.

Perfformio ers '74

Fydden i ddim wedi cael y llwyddiant heb ganeuon Ems - fe oedd yr ysbrydoliaeth i barhau, gydag aelodau yn gadael ac aelodau yn ymuno.

Ry'n ni mor falch o fedru dweud ein bod ni wedi canu yn ddi-dor am 50 mlynedd. Nid dod yn ôl at ein gilydd i wneud un cyngerdd neu er mwyn dathlu'r 50 ond heb ganu gyda'n gilydd ers '77.

Heblaw am y cyfnod clo pan doedd neb yn cael canu, ni wedi canu bob blwyddyn ers 1974, yn ddi-dor, a ni dal i wneud.

Pynciau Cysylltiedig