a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Diolch am eich cwmni

    Mae'n ymddangos fod pethau'n gwella erbyn hyn, gyda'r rhybudd melyn am eira a rhew gan y Swyddfa Dywydd wedi dod i ben o fewn yr hanner awr ddiwethaf.

    I arbed gwaith sgrolio i chi, dyma'r prif benawdau:

    • Dros 40 o ysgolion ar gau ar hyd a lled y wlad ar ôl eira dros nos;
    • Siroedd gorllewinol - yn enwedig Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro - sydd wedi'u heffeithio waethaf;
    • Nos Fercher oedd y noson oeraf o'r gaeaf hyd yn hyn - cofnodwyd -9.1C ym Mhowys.

    Yn y cyfamser, mae'r gwasanaethau brys yn parhau i rybuddio pobl i gymryd gofal, yn enwedig gyrwyr.

    Ond dyna'r oll gan dîm llif byw Cymru Fyw am heddiw - diolch o galon i chi am ddilyn a chymerwch ofal yn y tywydd oer.

    Image caption: Diolch hefyd i Ani-Caul am anfon y llun yma o goedwig yn ardal Pentraeth, Ynys Môn
  2. Hwyl ar iard yr ysgol

    Mae Ysgol y Garnedd, Penrhosgarnedd yn agored heddiw ac mae'r disgyblion yn gwneud y mwyaf o'r amodau ac yn cael hwyl ar yr iard!

    Image caption: Ysgol y Garnedd
  3. Rhybudd tywydd yn dod i ben

    Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd newydd ddod i ben, ond mae hi'n dal yn oer iawn ar draws y wlad.

    Y newyddion da i'r rhai sy'n casáu rhew ac eira yw bod tywydd llai gaeafol i ddod dros y penwythnos, ond fe fydd y gwynt a'r glaw yn eu holau wrth i'r tymheredd godi.

  4. Brrrr-idell

    Mae hi'n eithriadol o rewllyd yn ardal Bridell, gogledd Sir Benfro'r bore 'ma ac mae'r lonydd llithrig yn creu trafferth i yrwyr.

  5. 'Ofnadwy o lithrig dan draed' yn Y Felinheli

    Ein gohebydd Carwyn Jones sy'n rhoi blas o'r sefyllfa y bore 'ma yng Ngwynedd.

    Video content

    Video caption: Ein gohebydd Carwyn Jones yn sôn am y sefyllfa yng Ngwynedd
  6. O'r awyr dywyll i'r bore braf!

    Fel arfer mae Dani Robertson yn tynnu lluniau o'r awyr dywyll.

    Ond yr olygfa braf ben bore oedd yn mynd â'i bryd heddiw ar Ynys Môn.

    Image caption: Ynys Môn
  7. Fideo: Tractor yn dod i'r adwy

    Tractor yn tynnu car oedd wedi mynd i drafferth ar yr eira ar yr A487 rhwng Crymych ac Aberteifi yn Sir Benfro - mae'n siŵr bod yna ryddhad o'i weld yn cyrraedd.

    Video content

    Video caption: Tractor yn tynnu car aeth i drafferth ar yr eira ar yr A487
  8. Y Coleg Ar Y Bryn... o eira!

    Prifysgol Bangor

    Mae Prifysgol Bangor yn enwog am fod y Coleg Ar Y Bryn.

    Ond mae trwch o eira yn croesawu'r myfyrwyr ar y bryn heddiw!

  9. Cyngor i yrwyr

    Traffig Cymru

    Mae Traffig Cymru wedi rhyddhau rhestr o gynghorion i yrwyr sut i yrru'n ddiogel mewn amodau rhewllyd.

    Cofiwch fynd â'r offer angenrheidiol gyda chi yn y car - cliciwch isod i ddarllen mwy.

    https://x.com/TraffigCymruD/status/1747914278542118966?s=20

  10. 'Dim llawer yn symud' yng ngogledd Sir Benfro

    Aled Scourfield

    Gohebydd BBC Cymru

    Mae'r gorllewin yn gweld rhai o'r amodau gwaethaf y bore 'ma wedi i'r eira syrthio dros nos, fel y mae Aled Scourfield yn egluro.

    Video content

    Video caption: Ein gohebydd Aled Scourfield
  11. Pwyll piau hi ar y ffyrdd

    Heddlu Gogledd Cymru

    Yn yr ardaloedd gwledig y mae angen pwyllo fwyaf y bore 'ma os oes rhaid mentro allan, yn ôl Heddlu'r Gogledd, er bod yr amodau'n gur pen i yrwyr a cherddwyr ar draws y rhanbarth.

    Maen nhw'n atgoffa gyrwyr o bwysigrwydd gadw pellter diogel, gan bod hi'n cymryd hyd at 10 gwaith yn hirach i gerbyd ddod i stop mewn rhew ac eira.

    View more on twitter
  12. 'Nifer o geir a lorïau'n sownd'

    Aled Scourfield

    Gohebydd BBC Cymru

    Mae hi’n amlwg bod y "Pembrokeshire Dangler" wedi gweithio ei hud dros nos, gan adael mantell wen dros rannau helaeth o Sir Benfro a De Ceredigion.

    Mae'r ffyrdd gwledig, fel y rhai yma ym mhentref Mynachlog-ddu, wedi eu gorchuddio ag eira o hyd, ac mae 'na drwch go lew o rhyw 5cm. Dim ond cerbydau 4x4 a cheir rali rwy' wedi gweld hyd yn hyn y bore 'ma!

    Mae'r problemau mwyaf wedi bod ar y briffordd rhwng Arberth ac Aberteifi, yr A478. Mae yna nifer o geir a lorïau wedi mynd yn sownd yn yr eira.

    Doedd traffig ddim yn symud ym Mridell am gyfnod oherwydd y trafferthion. Mae criw tân Crymych wedi bod yn cynorthwyo i roi graean ar y ffordd yn y pentref mae'n debyg. Mae'r eira wedi cael effaith fawr ar ysgolion gydag o leiaf 13 ar gau yn Sir Benfro hyd yma.

  13. Y noson oeraf

    Tywydd

    Neithiwr oedd noson oeraf Cymru o'r gaeaf hyd yn hyn.

    Cafodd tymheredd dros dro o -9.1 C ei gofnodi ym mhentref Tirabad ger Pontsenni ym Mhowys.

  14. 'Oer heddiw, Mr Lloyd George!'

    Yr olygfa ar y Maes yng Nghaernarfon ger y cerflun o'r Dewin Cymreig

    View more on twitter
  15. Faint o ysgolion sydd ar gau?

    Ar hyn o bryd, mae dros 40 o ysgolion yng Nghymru ar gau o achos y tywydd.

    Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny yn siroedd Gwynedd a Phenfro.

    Mae'n amlwg mai ardaloedd gorllewinol sydd wedi'u heffeithio waethaf gan y tywydd heddiw.

  16. Ceredigion

    Cyngor Ceredigion

    Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datgan fod o leiaf saith ysgol - yn gymysgedd o rai cynradd ac uwchradd - wedi cau oherwydd y tywydd.

    View more on facebook
  17. Lluniau: Eira'r wythnos

    Roedd eira cyntaf y flwyddyn wedi disgyn yn gynharach yn yr wythnos a hynny ar dir isel mewn ambell i ardal yng Nghymru, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain.

    Dyma rai o'r golygfeydd gaeafol dros y dyddiau diwethaf.

    Image caption: Awyr las a chaeau gwyn yn Nantglyn, sir Ddinbych
  18. Rhybudd melyn mewn grym tan 11:00

    Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira a rhew i rym am 22:00 nos Fercher ac fe fydd yn para tan 11:00 ddydd Iau.

    Mae'n effeithio ar chwe sir y gogledd, Ceredigion a Phowys, a siroedd Penfro, Caerfyrddin ac Abertawe.

    Mae yna rybudd y bydd yr amodau i deithwyr yn anodd.

  19. Cau rhai o ysgolion Sir Benfro

    Cyngor Sir Penfro

    Mae Cyngor Sir Penfro wedi cadarnhau bydd rhai ysgolion ar gau yn y sir heddiw.

    Cliciwch yma i weld yr holl ysgolion sydd wedi'u heffeithio.

    Image caption: Rhosfarced, neu Rosemarket, yn Sir Benfro bore 'ma
  20. Tagfeydd ar y pontydd

    Traffig Cymru

    Mae'r tywydd gwael yn achosi oedi ar Bont Britannia wrth i bobl geisio croesi i gyrraedd y tir mawr y bore 'ma.

    Mae Traffig Cymru yn cynghori pobl i ganiatáu amser ychwanegol i deithio.

    Image caption: Tagfeydd ar Bont Britannia