Beth sy'n digwydd i'ch cwyn

Trosolwg

Cam 1: Cofrestru cwyn arlein, dros y ffon neu drwy’r post o fewn 30 diwrnod

Cam 2: Dros nos byddwn yn cylchredeg eich cwyn i gynhyrchwyr a rheolwyr.

Os ydych yn gwneud cwyn yn ysgrifenedig byddwn, fel rheol, yn ymateb o fewn pythefnos.
Os byddwch yn ffonio, byddwn yn crynhoi eich cwyn a’i gylchredeg ond ni fyddwch yn derbyn ymateb (oni bai eich bod yn methu ysgrifennu atom oherwydd anabledd).
Byddwn yn ymateb yn gyhoeddus i faterion arwyddocaol ond nid i bob peth. 

Cam 3: Gobeithio na fydd angen i chi fynd a’r mater ymhellach.

Os bydd angen, cysylltwch gyda ni eto o fewn 20 diwrnod gwaith. Nodwch eich cyfeirnod i’n cynorthwyo.
Byddwn yn ymateb o fewn cyfnod tebyg. Os ydych yn gallu mynd a’r mater ymhellach byddwn yn gadael i chi wybod sut.
Rydym ni ac Ofcom yn cyhoeddi adroddiadau cyson am gwynion.

Gwyliwch ein ffilm fer i ddysgu mwy am sut mae'r BBC yn ymateb i'ch adborth.

 

Beth i’w ddisgwyl

Rydym yn cylchredeg eich cwyn gyda sylwadau dros nos i gynhyrchwyr a rheolwyr i’w darllen a’u hystyried. Gwnewch eich cwyn yn ysgrifenedig neu ni allwn sicrhau ymateb. Byddwn yn ymchwilio i unrhyw achosion posibl o dorri safonau, ond ni fyddwn yn ymateb yn fanwl i sylwadau neu farn personol.
Mae barn pobl am ein rhaglenni, penderfyniadau neu bolisïau yn amrywio ond efallai na fyddant yn awgrymu ein bod wedi torri safonau. Er enghraifft, rydym yn ymwybodol na fydd newidiadau munud olaf i’r amserlen yn plesio pawb. Mae’n bosib felly na fydd ein hateb bob amser yr hyn mae rhywun yn ei ddymuno, ond os ydym ar fai byddwn yn ymddiheuro. Darllenwch Fframwaith Cwynion y BBC i gael y manylion yn llawn.
 

Sut mae'r BBC yn gweithredu ar gwynion?

Rydym yn ystyried y materion o fewn cwynion yn erbyn Canllawiau Golygyddol y BBC, safonau disgwyliedig Ofcom ac ymchwil cynulleidfa. Os ydym ar fai byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol os bydd angen i atal  yr un peth rhag digwydd eto. Mae Bwrdd Safonau Golygyddol y BBC yn adolygu’r cwynion bob mis ac yn adrodd yn ôl i Fwrdd y BBC ar gyfer canllawiau golygyddol, prosesau cydymffurfiaeth a pholisiau eraill y BBC.

A yw nifer y cwynion yn gwneud gwahaniaeth?

Nac ydy. Rydyn ni bob amser yn pryderu os ydy pobl yn cwyno, ond yr hyn sy'n bwysig yw a wnaeth y  BBC weithredu yn anghywir. Os felly byddwn yn ymddiheuro, ac os ddim byddwn yn ceisio egluro yn ein ymateb. Os oes eraill yn cwyno am yr un mater, bydd ein ymateb yr un fath. Os ydym yn dod dan bwysau gan lobïau neu'r wasg rydym yn amddiffyn ein hannibyniaeth a'n safonau golygyddol yn ôl yr angen.

Y weithdrefn ar gyfer ymchwiliadau a ysgogir gan yr hunan i achosion posibl o dorri safonau golygyddol
Gweithdrefn ar gyfer cwynion golygyddol trac cyflym

Ofcom

Gwnewch gwyn i’r BBC yn gyntaf. Efallai y bydd ein rheoleiddiwr Ofcom yn ystyried cwyn dim ond os yw’r BBC eisioes wedi ymateb yn llawn.Os felly, byddwn yn gadael i chdi wybod sut i gysylltu ag Ofcom. Eithriad i hyn yw pan fydd cwyn am honiad o annhegwch neu honiad o darfu ar eich preifatrwydd (ac nid i neb arall). Gall achosion o’r fath gael eu hystyried gyntaf gan y BBC neu Ofcom, ond nid gan y ddau ar yr un pryd. 

Camddefnydd o’r gwasanaeth

Byddwn yn gwrtais ac yn barchus â chi, ac o ganlyniad disgwyliwn yr un cwrteisi a pharch yn ôl tuag at ein staff. Os byddwch yn  camddefnyddio’r gwasanaeth byddwn yn dod a’r cyfathrebu i ben neu yn rhwystro eich defnydd o’r gwasanaeth yn y dyfodol.