a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl am y tro

    A dyna ni am heddiw - y bore wedi i Storm Isha daro Cymru.

    Y neges yw i gymryd gofal a gwirio amserlenni cyn teithio.

    Diolch am eich cwmni - bydd y diweddaraf am y tywydd a gweddill straeon y dydd i'w gweld ar ap a gwefan Cymru Fyw.

    Hwyl am y tro - byddwch yn ofalus a chadwch yn sych a chynnes ☔

    Image caption: Y tonnau ym Mhorthcawl yn ystod Storm Isha
  2. Rhagolygon y tywydd ar gyfer dydd Llun

    Tywydd

    Mae disgwyl i'r gwyntoedd gorllewinol cryf barhau gyda'r rhybudd melyn mewn grym tan hanner dydd.

    Bydd y gorllewin yn cael cyfnodau glawog ond mi fydd hi'n oleuach yn y dwyrain.

    Pnawn 'ma mi fydd y glaw yn clirio'n raddol i bawb a'r tymheredd rhwng chwech a 10°C.

    Yn ogystal â'r rhybudd melyn am wynt, mae pedwar rhybudd llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru sef Afon Nedd yn Aberdulais; Afon Wysg ger Aberhonddu, Afon Conwy ger Ffordd Gwydir ac Afon Clydach Isaf wrth Bont Clydach.

  3. Trenau Aberystwyth ar amser

    Y cyngor yw i wirio amserlenni cyn teithio ddydd Llun.

    Yn Aberystwyth mae'r trenau ar amser!

  4. Aildrefnu rhai digwyddiadau gan gynnwys cyngerdd 'Y Curiad'

    Image caption: Cafodd cyngerdd Y Curiad ei gynnal nos Sadwrn ond ei ohirio nos Sul

    Bu'n rhaid gohirio nifer o ddigwyddiadau ddoe yn sgil y tywydd garw - yn eu plith cyngerdd Y Curiad yn Pontio, Bangor.

    Y gobaith yw trefnu dyddiad arall yn fuan.

    View more on twitter
  5. Storm Isha yw'r nawfed ers mis Medi

    Fe ddechreuodd y Swyddfa Dywydd enwi'r stormydd sy'n effeithio ar y DU rhwng 2015-16.

    Fe gafodd 11 o stormydd eu henwi y llynedd ond os bydd tair storm arall yn cael eu henwi rhwng nawr a ddiwedd Awst bydd eleni yn torri record!

    Storm Isha yw'r nawfed storm ers mis Medi - gan ddilyn Storm Henk a Storm Elin - enw poblogaidd yng Nghymru!

  6. Ddim yn dywydd ymbarel!

    Dyma un arwydd o’r gwyntoedd cryfion dros nos yng Nghlydach, Cwm Tawe.

    Mae ‘na ddarnau o frigau ar hyd nifer o ffyrdd yn yr ardal, medd ein gohebydd Meleri Williams.

    A rhywun wedi rhoi’r ffidil yn y to - gan adael yr ymbarel ar lawr!

  7. Yr A5 o Fethesda i Gapel Curig ar gau

    Traffig Cymru

    Mae'r A5 o Fethesda i Gapel Curig ar gau i'r ddau gyfeiriad, medd Traffig Cymru.

    Y cyngor yw i osgoi'r ardal ond nodir bod y ffyrdd eraill oedd ar gau neithiwr wedi ailagor.

    View more on twitter
  8. Y ffordd rhwng Pentrefoelas a Betws-y-coed wedi ailagor

    Ar un adeg ddydd Sul roedd y ffordd yr A5 rhwng Pentrefoelas a Betws-y-coed ar gau a'r cyngor oedd i osgoi'r ardal yn sgil y llifogydd ond mae hi bellach wedi ailagor.

    View more on twitter
  9. Y cyngor yw gwirio cyn teithio

    Cafodd amryw o wasanaethau trên eu canslo nos Sul a sawl fferi rhwng Cymru ac Iwerddon.

    Bu'n rhaid i nifer o deithwyr wneud trefniadau eraill - yn eu plith teithwyr a oedd wedi gobeithio dal trên o orsaf Euston yn Llundain.

    Y cyngor i deithwyr yw gwirio amserlenni a gwefannau cyn teithio.

    Image caption: Yr olygfa yng ngorsaf Euston nos Sul
  10. Y ffyrdd sydd ar gau ym Môn

    Cyngor Ynys Môn

    Ar eu cyfrif facebook mae Cyngor Môn wedi nodi pa ffyrdd sydd ar gau a dyma rai ohonyn nhw:

    A545 Biwmares i Borthaethwy - cangen fawr wedi torri ar draws un ochr o’r ffordd ger Glyn Garth;

    B5110 Llangefni - ym Mryn-teg ger Merddyn Hafod;

    B5109 Biwmares i Bentraeth ger Plas Trefor - cangen fawr wedi torri ar draws y ffordd;

    B4422 Bethel i Langristiolus (ger Coed Trefeilir) - canghennau o wahanol maint wedi disgyn ar hyd y ffordd;

    Llwybr cyswllt o Stad Dolafon ar y B5110 ger hen garej Ellis – coeden fawr wedi disgyn ar draws y llwybr a dim mynediad i gerddwyr;

    Biwmares (ger y Ganolfan Ddydd) - cangen fawr wedi torri ar draws y ffordd;

    Ffordd heibio hen Ysgol Llangristiolus sydd yn arwain tuag at yr A5 - cangen fawr wedi torri ar draws y ffordd - y ffordd ar gau;

    Ffordd o Geint tuag at Talwrn - cangen fawr wedi torri ar draws y ffordd. Ffordd ar gau.

    Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn delio gyda'r achosion ac yn gobeithio agor y ffyrdd cyn gynted â phosib.

  11. Pibau wedi rhewi yn achosi trafferth hefyd

    Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

    Mae'r tywydd yn gynhesach yn sgil y tywydd gwlyb ond mae hynny hefyd wedi achosi trafferthion.

    Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub y De eu bod wedi cael eu galw i ddau gartref nos Sul wrth i bobl ddychwelyd adref wedi gwyliau a chanfod pibau rhewedig wedi byrstio wrth iddyn nhw ddadmer.

    Roedd un o'r cartrefi yn Radur yng ngogledd Caerdydd.

  12. Y sefyllfa o'r prom yn Aberystwyth

    Craig Duggan

    Gohebydd BBC Cymru

    Mae dal yn wyntog yma yn Aberystwyth - ond ddim mor wael ag oedd pethe brynhawn ddoe a dros nos.

    Mae'r gwynt wedi cael effaith mewn sawl man sy'n golygu bod coed a changhennau wedi dod lawr ar sawl ffordd.

    Erbyn hyn mae'r rhybudd oren am wynt wedi ei israddio i rybudd melyn - hynny mewn grym tan hanner dydd heddiw.

    Mae hynny yn dal yn golygu y bydd hi yn ddiwrnod gwyntog, hyrddiadau o tua 40-50 milltir yr awr... ddim y gwynt welon ni dros nos ond dros y dyddiau nesaf mae disgwyl mwy o law ar dir sydd eisoes yn llawn dŵr, a bydd y gwynt yn parhau yn gryf hefyd. Felly bach yn well ond mae dal angen gofal.

    Image caption: Aberystwyth fore Llun
  13. Jennifer Jones: 'Rhyddhad wedi siwrne ofnadwy'

    “Fe ddylen i fod yn y gwaith ond dwi ym maes awyr Caeredin," medd Jennifer Jones wrth siarad ar raglen Dros Frecwast.

    "Fe wnaethon ni ddechrau ein taith o Geneva yn y Swisdir ddoe ond fe gafon ni rybudd gan y peilot cyn cychwyn bod hi yn stormus ym Mhrydain a bod y gwyntoedd yn effeithio ar bob un maes awyr yn y DU.

    "Nodwyd y byddai y glanio yn drafferthus ym Mryste gan bod y gwynt yn dod o’r de a bod y runway yn mynd o’r dwyrain i’r gorllewin ac felly y gwynt yn dod ar ein traws ni.

    "Wrth i ni ddod lawr i lanio ym Mryste o’dd y turbulence yn ofnadwy - dwi ddim wedi profi dim byd tebyg. O'dd yr awyren yn symud o ochr i ochr ac i fyny ac i lawr.

    "Fe glywon ni yr injan yn dechrau tanio ac fe wnaethon ni ddechrau codi yn eitha serth, a’r peilot yn dweud bod y gwyntoedd wedi croesi y ffin gyfreithiol iddo allu glanio yr awyren a wedyn rhyw chwarter awr yn ddiweddarach fe ddywedodd e bod e ar y ffordd i Gaeredin a bod ni wedi cael caniatâd i lanio yno.

    "Odd hi yn reit frawychus ac roedd glanio yng Nghaeredin yn eitha anodd hefyd - mi roedd hi yn stormus iawn fan hyn.

    "Mae'n rhaid fi ddweud o'n i wedi dechrau meddwl am fy ngŵr a’r plant a meddwl be' dwi yn 'neud ar yr awyren ma'.

    "Pan wnaethon ni lanio na’th pawb ar yr awyren ddechrau clapio.

    "Dwi hefo pedair ffrind. Roedden ni wedi bod am wyliau sgio am dridiau bach a wnaethon ni edrych ar ein gilydd a dechrau crïo - ro'n ni mor ddiolchgar bo' ni yn saff ac wedi glanio.

    "Roedd neithiwr yn rhyddhad mawr mae'n rhaid i fi ddweud."

  14. Y gwasanaethau brys wedi bod yn brysur dros nos

    Dywed y gwasanaethau tân eu bod wedi bod yn brysur dros nos a'u bod wedi cael eu galw i ddelio â sawl achos o lifogydd yn Ystrad Mynach a Choed-duon.

    Yn Arberth yn Sir Benfro cafodd milfeddgyfa ei difrodi a bu'n rhaid i ddiffoddwyr ddelio â gwreichion a oedd yn tasgu ar y ffordd wedi difrod i Glwb Dynion Llwchwr yng Ngorseinon.

  15. 'Y trydan yn ôl i bawb erbyn 10 fore Llun'

    55 eiddo sydd bellach heb drydan yn ne a gorllewin Cymru.

    Ar un adeg roedd 3,000 heb drydan - un o'r ardaloedd i gael ei heffeithio waethaf oedd Castellnewydd Emlyn.

    Doedd yna ddim trydan chwaith ym Mlaenau Ffestiniog nag mewn rhai ardaleodd eraill yn siroedd Gwynedd, Conwy a Dinbych.

    Ond y neges fore Llun yw mai'r gobaith yw y bydd y trydan yn ôl i bawb erbyn 10:00.

  16. Cyfoeth Naturiol Cymru: 'Asesu'r difrod heddiw'

    Cyfoeth Naturiol Cymru

    Wrth siarad ar Radio Wales bore 'ma dywedodd Dylan Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru bod nifer o rybuddion llifogydd yn parhau yn weithredol.

    "Ni'n annog pobl i fod yn ofalus ac i edrych ar ein gwefan am ddiweddariadau," meddai.

    "Heddiw fe fyddwn ni'n asesu'r difrod" wedi'r tywydd garw dros nos, ychwanegodd.

  17. Ffordd ar gau ym Mlaenau Ffestiniog

    Ym Mlaenau Ffestiniog mae ffordd y B4931 - Allt Goch wedi cau i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A470 a'r A496 am fod yna goeden wedi syrthio.

    Y cyngor yw osgoi'r ardal ac i fod yn ofalus.

  18. Rhai trenau ar stop

    Trafnidiaeth Cymru

    Mae 'na rybuddion am oedi ar y gwasanaethau trenau heddiw oherwydd y storm.

    Ni fydd trenau yn mynd rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog o gwbl, tra bod y lein rhwng Amwythig ac Abertawe (trwy Lanelli) ar gau tan hanner dydd.

    View more on twitter
  19. Gwyntoedd cryfion iawn mewn mannau

    Roedd nerth y gwynt yn 90mya yng Nghapel Curig ddydd Sul, a 73mya yn Aberdaron.

    Yn y Mwmbwls cofnodwyd ei fod wedi cyrraedd 75mya.

    Ar un adeg roedd yna rybudd coch am wynt yng ngogledd yr Alban - mae rhybudd coch yn rhywbeth hynod o brin.

    Yn Brizlee Wood yn Northumberland roedd y gwynt ar ei gryfaf - 99mya.

  20. Diweddaraf am y tywydd ar Radio Cymru

    X (Twitter gynt)

    Mae modd i chi wrando hefyd drwy bwyso ar y logo sain ar dop y llif byw.

    View more on twitter